Gower NT/YG Gŵyr

Directions Website

Gower NT/YG Gŵyr Darganfyddwch Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig gyntaf y DU.

Gyda thraethau eiraidd, chlogwyni ysblennydd a choedwigoedd hudol i'w hymweld â nhw, mae croeso i bawb ym Mhenrhyn Gŵyr.

****

Gower: a geological goldmine giving rise to inspiring landscapes and captivating coastline cared for by National Trust Cymru. Mae Penrhyn Gŵyr yn Ne Cymru yn dirwedd hyfryd o amrywiol gyda thraethau euraidd, morfa heli a chefn gwlad sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt.

****

Explore the UK's first designated Area of Outstanding Natural Beauty. The Gower Peninsula in South Wales has a beautifully diverse landscape with golden beaches, salt marsh and countryside teeming with wildlife.

Ar drywydd morwellt yn Whitffordd | Seagrass spotting at Whiteford****Yn ddiweddar, aethon ni mas gyda Project Seagrass ...
09/10/2026

Ar drywydd morwellt yn Whitffordd | Seagrass spotting at Whiteford
****
Yn ddiweddar, aethon ni mas gyda Project Seagrass a thîm o wirfoddolwyr ar daith SeagrassSpotter i ddysgu mwy am y dolydd morwellt o gwmpas Ynys Berges, Whitffordd.

Er bod y llanw’n isel, fe wnaethon ni ddod o hyd i wellt-y-gamlas bach (Nanozostera Noltii), rhywogaeth o forwellt sy'n tyfu o dan y tonnau yma yn yr aber.

Mae dolydd morwellt yn llawn bywyd, yn cefnogi creaduriaid môr gan gynnwys pysgod a morfeirch. Maen nhw hefyd yn storio 10 y cant o gyfanswm carbon y cefnforoedd, ond mae'r dolydd tanddwr hyn yn crebachu'n gyflym.

Drwy lanlwytho data i SeagrassSpotter, gallwn ni helpu i fonitro, adnabod a diogelu'r cynefinoedd arfordirol anhygoel hyn o amgylch y Gŵyr.

****
Recently we headed out with Project Seagrass and a team of volunteers on a SeagrassSpotter walk to learn more about the seagrass meadows around Berges Island, Whitford.

While the tide was low, we recorded the dwarf eelgrass (Nanozostera Noltii), a species of seagrass that grows under the waves here in the estuary.

Seagrass meadows are full of life, supporting sea creatures including fish and seahorses. They also store 10 per cent of the oceans total capture of carbon, but these underwater meadows are shrinking fast.

By uploading data to SeagrassSpotter we can help to monitor, identify and protect these incredible coastal habitats around Gower.

Beth yw’r si ar y Vile? | What’s the buzz on the Vile?****Wythnos diwethaf, bu i dîm y Gŵyr, wedi’i gefnogi gan staff y ...
01/09/2026

Beth yw’r si ar y Vile? | What’s the buzz on the Vile?

****

Wythnos diwethaf, bu i dîm y Gŵyr, wedi’i gefnogi gan staff y bartneriaeth a’r gymuned leol gynnal BioBlitz ar y Vile yn Rhosili.

Beth yw BioBlitz? Arolwg o’r holl fywyd sy’n galw’r ardal hynny yn gartref, boed yn blanhigion, mamaliaid, pryfetach ac unrhyw beth arall sy’n cael ei ddarganfod.

Mae’r rhain yn gofnodion hollbwysig i ddeall beth sy’n byw ar y Vile a sut i ofalu amdanynt.

Diolch i bawb fu’n rhan o’r diwrnod arbennig, roedd yn wych gweld pawb yn crwydro’r caeau yn cofnodi’r hyn oedd yn cael ei ddarganfod.

Diolch arbennig i Ganolfan Gofnodion De Ddwyrain Cymru am eu cefnogaeth gyda’r cofnodi a’r adnabod ac i Natur am Byth am ariannu’r digwyddiad.

****

Last week the Gower team, supported by partnership staff and the local community held a BioBlitz on the Vile at Rhosili.

What is a BioBlitz? A survey of all the life that calls the area home, plants, mammals, invertebrates and everything in between.

These are vital records to help understand what’s living on the Vile and how to best care for them.

Thank you to everyone who took part in this fantastic day, it was brilliant to see everyone wandering around the fields recording everything the spotted.

A special thank you to the South East Wales Biodiversity Records Centre for their record and identification support and to Natur Am Byth for kindly funding the event.

Caru’r lle hwn? Ymweld heb adael ôl | Love this place? Leave no trace****Bwriadu mynd am dro dros benwythnos gŵyl y banc...
28/08/2026

Caru’r lle hwn? Ymweld heb adael ôl | Love this place? Leave no trace

****

Bwriadu mynd am dro dros benwythnos gŵyl y banc? Prun a’i ar yr arfordir, o amgylch y parc neu yn yr ucheldir, helpwch i ofalu am y llefydd sy’n gwneud Cymru’n arbennig.

Peidiwch â gadael ôl, ewch a’ch ysbwriel adref, peidiwch â chynnau tân, er ein bod wedi cael glaw, gall y tir barhau’n sych, ac os yw’r meysydd parcio’n llawn, dewch yn ôl rywbryd eto.

Diolch am helpu i ofalu am gefn gwlad ac arfordir Cymru.

****

Planning a walk this bank holiday weekend? Whether it’s on the coast, around a park or in the uplands, please help us care for the places that make Wales special.

Leave no trace, take your litter home with you, don’t light fires, as even though we’ve had some rain the ground may still be dry and if car parks are full, come back another time.

Thank you for playing your part in caring for our Welsh coast and countryside.

Taith tywys i wylio adar yn Rhosili | Guided bird walk at Rhosili****Ymunwch â'r adaregydd lleol, Ed Hunter, ar daith ge...
19/08/2026

Taith tywys i wylio adar yn Rhosili | Guided bird walk at Rhosili
****
Ymunwch â'r adaregydd lleol, Ed Hunter, ar daith gerdded i ddarganfod mwy am adar arfordir Rhosili, dydd Sul yma 23 Awst, rhwng 9yb a 12yp.

Mae’r ticedi yn £3 y person, archebwch eich lle yma: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/rhosili-and-south-gower-coast/events/85d9ae03-8c9b-403b-bfa5-bf95c34ca871

Dewch â phâr o ysbienddrychau gyda chi!

****
Join local ornithologist, Ed Hunter on a walk to discover the birdlife of the Rhosili coastline, this Sunday 23 August, 9am to 12noon.

Tickets are £3 per person, book your spot here: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/rhosili-and-south-gower-coast/events/85d9ae03-8c9b-403b-bfa5-bf95c34ca871

Binoculars recommended!

Ymunwch â'r tîm | Join the team****Rydym yn awyddus i benodi Uwch Swyddog Cyfathrebu a Marchnata i gefnogi ein gwaith ad...
17/08/2026

Ymunwch â'r tîm | Join the team
****
Rydym yn awyddus i benodi Uwch Swyddog Cyfathrebu a Marchnata i gefnogi ein gwaith adfer natur yn rhai o dirweddau mwyaf gwerthfawr Cymru.

O gopa Pen y Fan yn Brecon Beacons NT/YG Bannau Brycheiniog, i’r clogwyni eiconig yn Rhosili ar NT/YG Gŵyr ac arfordir trawiadol Pembrokeshire NT/YG Sir Benfro, bydd pob diwrnod yn wahanol.

Os ydych yn gyfathrebwr rhagorol, gyda llygad am stori dda a’r gallu i greu cynnwys o’r radd flaenaf, yna byddai’n bleser gennym glywed gennych.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, dilynwch y ddolen yn y sylwadau.
****
We’re looking for a Senior Marketing & Communications Officer to support our nature restoration work in some of Wales’s most treasured landscapes.

From the top of Pen y Fan in Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons), to the iconic cliffs at Rhosili on Gower and the dramatic coastline of Pembrokeshire, no two days will be the same.

If you are an excellent communicator with an eye for a good story and the ability to create top notch content, then we’d love to hear from you.

To find out more and apply, follow the link in comments.

Risg uchel o danau gwyllt | High fire risk****Mae'n parhau yn boeth, gyda'r tir yn ofnadwy o sych mae'r risg tân uchel i...
14/08/2026

Risg uchel o danau gwyllt | High fire risk

****

Mae'n parhau yn boeth, gyda'r tir yn ofnadwy o sych mae'r risg tân uchel iawn.

Er mwyn atal sefyllfaoedd fel hyn mae'n rhaid i ni gyd chwarae ein rhan.

Rydym eisiau gweld pawb yn cael hwyl yn yr awyr agored, ond mae hynny'n golygu gadael y barbeciw gartref, peidio cynnau tân na gadael sbwriel ar ôl.

Os welwch fwg, neu dân, ffoniwch 999.

Diolch am ein helpu i ofalu am y lle hwn wrth i chi ei fwynhau.

****

It’s still warm and the ground is very dry so there’s a real risk of fires.

Please help prevent devasting scenes like this.

We want everyone to have fun outdoors but that means leaving your BBQs at home, not lighting fires or leaving litter.

If you see smoke or fire, call 999.

Thank you for helping look after this beautiful place on your day out here.

Diwrnod Ceidwaid y Byd hapus | Happy World Ranger DayDiolch i bawb o dîm y Ceidwaid am eu holl waith caled, maen nhw ar ...
31/07/2026

Diwrnod Ceidwaid y Byd hapus | Happy World Ranger Day

Diolch i bawb o dîm y Ceidwaid am eu holl waith caled, maen nhw ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd ac yn adfer natur. Allwn ni ddim diolch iddyn nhw ddigon!
****
Thank you to our whole Ranger team for all their hard work, they’re on the front line of fighting climate change and restoring nature. We can’t thank them enough!

Dolydd diddorol! | Meadow facts!Mae ein dolydd gwair yn cynnwys cymysgedd eang o rywogaethau planhigion, gan gynnwys: Ff...
30/07/2026

Dolydd diddorol! | Meadow facts!

Mae ein dolydd gwair yn cynnwys cymysgedd eang o rywogaethau planhigion, gan gynnwys: Ffacbysen, Meillionen Goch, Cribell Felen, Blodyn Ymenyn, Tegeirian Cors y De, Tegeirian Coch y Gwanwyn, Gorudd, Llygad Llo Mawr, Y Bengaled.

Mae’r planhigion hyn yn darparu digonedd o fwyd i nifer o beillwyr, fel gloÿnnod byw a chacwn. Y rhywogaethau mwyaf cyffredin o loÿnnod byw yw: Gweirlöyn y Ddôl, Glesyn Cyffredin, Iâr Wen Fawr, Iâr Wen Fach.
****
Our hay meadows boast a diverse mix of plant species, including Common Vetch, Red Clover, Yellow Rattle, Meadow Buttercup, Southern Marsh Orchid, Early Purple Orchid, Red Bartsia, Ox-Eye Daisy and Common Knapweed.

These plants provide abundant food for many pollinators, such as butterflies and bumblebees. The most common butterfly species here are Meadow Brown, Common Blue, Large White and Small White.

24/07/2026

Mae'r risg o danau gwyllt yn uchel | Wildfire risk is high

****

Mae'r risg o danau gwyllt yn uchel ledled Cymru.

Mae amodau eithriadol o sych yn golygu y gall un gwreichionyn bychan ddechrau tân sy'n lledaenu'n gyflym, gan ddinistrio'r dirwedd a rhoi pobl, bywyd gwyllt a'r lleoedd sydd dan ein gofal mewn perygl.

Heb unrhyw ragolygon o law parhaus, sylweddol, disgwylir i'r dirwedd barhau'n eithriadol o sych, a gallai'r perygl o danau gwyllt gynyddu.

Helpwch ni i amddiffyn cefn gwlad Cymru. Peidiwch â chynnau tanau na barbeciws ac ewch â phob darn o sbwriel adref.

Os byddwch yn gweld mwg neu dân, symudwch i fan diogel a ffonio 999.

Rhannwch hwn os gwelwch yn dda er mwyn helpu i warchod y lleoedd arbennig hyn.
Diolch.

****

The risk of wildfire is high across Wales.

Extremely dry conditions mean that one small spark can start a blaze that spreads quickly, devastating the landscape and putting people, wildlife and the places we care for at risk.

With no significant, sustained rainfall forecast, the landscape is expected to remain extremely dry, and the risk of wildfire could increase.

Please help us protect the Welsh countryside. Do not light fires or BBQs and take all your litter home.

If you see smoke or fire, move to a safe place and call 999.

Please share this to help protect these special places.
Thank you.

Address

Coastguard Cottages, Rhossili
Swansea
SA31PR

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Gower NT/YG Gŵyr posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share

Nearby non profit organisations