04/10/2026
Clwb Ni Dwyran – Diweddariad / Update
🏴 CYMRAEG ISOD)
It’s been a fantastic four weeks back at Clwb Ni Dwyran, and we’re delighted to share how busy and vibrant our sessions have been.
🌟 Dwyran Youth Club
We’ve welcomed 101 young people since reopening. Youth Club is now full, with 30 attending this week. We understand this is disappointing for those on our waiting list, and we’re working hard to keep things fair.
We will be introducing a 1‑in, 1‑out system.
Please remember: if a young person misses 4 sessions without prior agreement, their place will be offered to someone on the waiting list.
🛠️ Môn Modellers
We have 21 young people taking part in Airfix, painting, Lego, creative modelling activities and our rapidly developing 3D printing project. The 3D printer is becoming an exciting part of the club, giving young people the chance to design and produce their own parts.
⚔️ Môn Warhammer Club
Our newest club is growing quickly, with an enthusiastic group building, painting, and battling their way through the Warhammer universe.
🎄 Looking Ahead
Together with our young people’s reps, staff, and volunteers, we have many exciting plans for the year ahead, including festive Christmas family fun and new activities for everyone to enjoy.
💛 How can YOU help?
Although we have funding until July 2027, Clwb Ni Dwyran relies on community support to continue serving the young people of Dwyran and the surrounding villages.
We need around £15,000 per year to keep the club running safely and full of activities.
You can help through:
Fundraising – local events, personal challenges, creative ideas
Sponsorship – support from local businesses
Grants – funding from community organisations and charities
Every contribution, big or small, makes a real difference to our young people.
Thank you to all our young people, families, staff, and volunteers for making Clwb Ni Dwyran such a thriving community.
CYMRAEG
Mae wedi bod yn bedair wythnos wych ers i Clwb Ni Dwyran agor eto, ac rydym yn falch iawn o rannu pa mor brysur a bywiog mae ein sesiynau wedi bod.
🌟 Clwb Ieuenctid Dwyran
Rydym wedi croesawu 101 o bobl ifanc ers dychwelyd. Mae’r clwb ieuenctid bellach yn llawn, gyda 30 yn mynychu yr wythnos hon. Rydym yn deall bod hyn yn siomedig i’r rhai ar ein rhestr aros, ac rydym yn gweithio’n galed i gadw pethau’n deg.
Byddwn yn gweithredu system 1 i mewn, 1 allan.
Cofiwch: os bydd person ifanc yn colli 4 sesiwn heb gytundeb ymlaen llaw, bydd eu lle’n cael ei gynnig i rywun ar y rhestr aros.
🛠️ Môn Modellers
Mae 21 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn Airfix, Lego, paentio, gweithgareddau modelu creadigol a’n prosiect argraffu 3D sy’n tyfu’n gyflym. Mae’r argraffydd 3D yn dod yn rhan gyffrous o’r clwb, gan roi cyfle i’r bobl ifanc ddylunio a chreu eu rhannau eu hunain.
⚔️ Clwb Warhammer Môn
Mae ein clwb newydd yn ehangu’n gyflym, gyda grŵp brwdfrydig yn adeiladu, paentio ac ymladd eu ffordd drwy fyd Warhammer.
🎄 Edrych Ymlaen
Gyda’n cynrychiolwyr pobl ifanc, staff a’n gwirfoddolwyr, mae gennym lu o gynlluniau cyffrous ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan gynnwys hwyl Nadolig i’r teulu a gweithgareddau newydd i bawb.
💛 Sut allwch CHI helpu?
Er bod gennym gyllid tan Gorffennaf 2027, mae Clwb Ni Dwyran yn dibynnu ar gefnogaeth y gymuned i barhau i wasanaethu pobl ifanc Dwyran a’r pentrefi cyfagos.
Mae angen tua £15,000 y flwyddyn arnom i gadw’r clwb yn rhedeg yn ddiogel ac yn llawn gweithgareddau.
Gallwch helpu drwy:
Godi a***n – digwyddiadau lleol, heriau personol, syniadau creadigol
Noddwyr – busnesau lleol yn cefnogi ein gwaith
Grantiau – cymorth gan gyrff cyllido a sefydliadau cymunedol
Mae pob cyfraniad, mawr neu fach, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n pobl ifanc.
Diolch i’n pobl ifanc, ein teuluoedd, ein staff a’n gwirfoddolwyr am wneud Clwb Ni Dwyran yn gymuned fywiog ac arbennig.