Urdd Ynys Môn

Urdd Ynys Môn Dod a'r Gymraeg yn fyw! i Blant a Phobl Ifanc Môn ers 1922
Tudalen Swyddogol Rhanbarth Ynys Môn Mae’n darparu amrywiaeth o weithgareddau ar draws Cymru gyfan.

Mae Urdd Gobaith Cymru yn fudiad cyffrous a deinamig i blant a phobl ifanc. Mae swyddogion datblygu yn gweithio ym mhob ardal er mwyn sicrhau bod rhaglen lawn o weithgareddau yn cael ei chynnig i blant a phobl ifanc

Sefydlwyd yr Urdd ym 1922 i roi cyfle i blant a phobl ifanc i ddysgu ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n rhoi cyfle i ieuenctid Cymru i fyw bywydau byrlymus trwy gyfrwng y

Gymraeg gan ddysgu parchu ei gilydd a phobloedd y byd. Mae’n croesawu siaradwyr Cymraeg a dysgwyr. Pwy sy’n aelodau o’r Urdd? Mae 50,000 o blant a phobl ifanc Cymru yn aelodau o’r Urdd. Mae un rhan o dair o’r holl siaradwyr Cymraeg rhwng 8 ac 18 yn aelodau. Mae 30% o’r holl aelodau yn dweud eu bod yn ddysgwyr
Mae dros 3,000 o’r aelodau rhwng 16 a 25 mlwydd oed. Enwau cyfarwydd a fu gynt yn aelodau o’r Urdd yw Huw Edwards, y darllenydd newyddion, Bryn Terfel, y canwr byd enwog, a Glyn Wise o’r gyfres Big Brother! Mae gan y mudiad 10,000 o wirfoddolwyr sy’n weithgar dros ben mewn 900 o ganghennau ledled y wlad. Beth sydd gan yr Urdd i’w gynnig i ti...

Yn dy ardal di...
Mae tîm o staff yn bugeilio 300 o adrannau ac aelwydydd cymunedol. Cynhelir clybiau wythnosol, cystadlaethau, chwaraeon, teithiau tramor a theithiau i’r gwersylloedd. Yn y gwersylloedd....
Pob math o weithgaredd o hwylio, canwio a dringo yng Nglan-llyn, i wibgartio, sgïo a merlota yn Llangrannog, neu ymweliad â Stadiwm y Mileniwm neu’r theatr yng Nghaerdydd
Rhywbeth at ddant bawb! Ar y maes chwarae...
Rygbi, nofio, pêl-droed, gymnasteg, athletau... mae’r dewis yn ddiddiwedd! Cyfle i gystadlu yn erbyn plant a phobl ifanc ar hyd ac ar led Cymru
Clybiau wythnosol a chyrsiau chwaraeon
Ar lwyfan yr Eisteddfod.. Gwyl gystadleuol fwyaf Ewrop i ieuenctid yw hon
Cystadlaethau canu, dawnsio, actio, perfformio, celf a chrefft, barddoni
Mae 15,000 yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bob blwyddyn. Yn y cylchgronau...
Beth am ddarllen y straeon diddorol neu roi cynnig ar y cystadlaethau sydd yn Cip, iaw! a Bore Da? Mae cylchgronau ar gyfer dysgwyr a Chymry Cymraeg
Mae 10,000 o gylchgronau yn cyrraedd ysgolion a chartrefi plant Cymru bob mis. Trwy waith dyngarol...
Yr Urdd sydd wedi bod yn cyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da Plant Cymru i’r Byd ers 1925. Beth am fynd dramor gyda’r Urdd i wneud gwaith gwirfoddol? Darganfyddwch ddiwylliannau eraill a chyfarfod plant a phobl ifanc o wledydd ar draws y byd.

🏉Taith Rygbi'r Gogledd: Cymru V Siapan🏉📅7-8, Tachwedd 2026😀Bl. 7 + (Medi 2026)Ymunwch â ni i wylio gem Cymru v Siapan yn...
19/06/2026

🏉Taith Rygbi'r Gogledd: Cymru V Siapan🏉

📅7-8, Tachwedd 2026

😀Bl. 7 + (Medi 2026)
Ymunwch â ni i wylio gem Cymru v Siapan yng Nghyfres Cenhedloedd yr Hydref!

Join us to watch Cymru v Japan in the Autumn Internationals!

£159‼ (£59 Blaendal/Deposit) cynnwys:

🎟️ Tocyn gêm/Game ticket, Dydd Sadwrn 16:40

🛍Siopa yn y ddinas/Shopping in the city

📍Llety/Accomodation: Gwersyll yr Urdd Caerdydd (+3 pryd o fwyd/+3 meals)

🚌Trafnidiaeth/Transport + 😀Gofalaeth/Supervision

Archebwch HEDDIW/Book TODAY👉 https://bit.ly/4egVPwi

Mwy o wybodaeth/More information: [email protected] / 01407 470010

Braf oedd cael cyflwyno Tlws Coffa Gwenno, i Jac o Ysgol Gymuned Rhosybol. Mae'r tlws yn cael ei roi yn flynyddol am y p...
17/06/2026

Braf oedd cael cyflwyno Tlws Coffa Gwenno, i Jac o Ysgol Gymuned Rhosybol. Mae'r tlws yn cael ei roi yn flynyddol am y perfformiad mwyaf addawol gan unigolyn yn y Caneuon Actol dan 12 oed yn Eisteddfod yr Urdd . Roedd ar ei wyliau yn ystod Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026, felly braf cael y cyfle i gyflwyno'r tlws iddo heddiw!

Os ydych fel ysgol neu adran yn dymuno i archebu medalau ychwanegol ar gyfer eich aelodau, cysylltwch â [email protected]

☀️ Mae gweithgareddau Haf yr Urdd yn FYW! ☀️Dewch i fwynhau haf llawn hwyl gyda ni drwy amryw o weithgareddau chwaraeon:...
16/06/2026

☀️ Mae gweithgareddau Haf yr Urdd yn FYW! ☀️

Dewch i fwynhau haf llawn hwyl gyda ni drwy amryw o weithgareddau chwaraeon:

⚽ Pel-droed
🏐 Pel-rwyd
🏃 Aml-chwaraeon

✅ Sesiynau ar draws Ynys Môn
✅ Croeso i bob lefel a gallu
✅ Cyfle i wneud ffrindiau newydd a chael hwyl!

👉 Archebwch eich lle heddiw: https://www.urdd.cymru/cy/chwaraeon/cofrestru-gweithgareddau/

🎓 Adref o’r Brifysgol ac eisiau Hyfforddi?💰 A***n ar gael!Cyfle gwych i ddatblygu dy sgiliau, ennill profiad ac ymuno â ...
15/06/2026

🎓 Adref o’r Brifysgol ac eisiau Hyfforddi?

💰 A***n ar gael!

Cyfle gwych i ddatblygu dy sgiliau, ennill profiad ac ymuno â thîm egnïol gyda’r Urdd 🙌

Cofrestrwch drwy lenwi y ffurflen neu cysylltu gyda Gwion!
Linc - https://forms.cloud.microsoft/e/UrruufXyNE
Rhif Ffon -07484522394
E-bost - [email protected]

12/06/2026

Os ydych chi’n y Sioe Addysg yn Venue Cymru, dewch draw i ddweud helo ac i weld beth y gallwn ei gynnig!

Address

Canolfan Busnes Ynys Môn
Llangefni
LL777XA

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Urdd Ynys Môn posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Urdd Ynys Môn:

Share