03/11/2026
*Scroll for English*
Helpwch lunio blaenoriaethau cydraddoldeb y dyfodol ledled Gogledd Cymru
‘Da ni eisiau clywed eich barn chi.
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru wedi dechrau ymgynghoriad ar eu Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar y Cyd, fydd yn llywio blaenoriaethau cydraddoldeb y dyfodol ledled y rhanbarth.
Mae’r cynllun yn amlinellu sut y bydd y CHTh a Heddlu Gogledd Cymru’n cydweithio er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb, cael gwared ar wahaniaethu, a sicrhau bod gwasanaethau’n deg, yn hygyrch ac yn ymatebol i’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.
Er mwyn cymryd rhan, anfonwch neges e-bost at [email protected] i ofyn am gopi o gwestiynau’r ymgynghoriad.
📅 Dyddiad cau’r ymgynghoriad: 21 Tachwedd 2026
****
Help shape future equality priorities across North Wales
We want to hear your views.
The Police and Crime Commissioner and North Wales Police have launched a consultation on their Joint Strategic Equality Plan, which will help shape future equality priorities across the region.
The plan outlines how the PCC and North Wales Police will work together to promote equality, eliminate discrimination, and ensure services are fair, accessible and responsive to the communities they serve.
To take part, email [email protected] to request a copy of the consultation questions.
📅 Consultation closes: 21 November 2026