29/10/2026
💙❤️ THURSDAY 29 OCTOBER – INTERNATIONAL DAY OF CARE AND SUPPORT
DO YOU LOOK AFTER SOMEONE? YOU COULD BE ENTITLED TO FINANCIAL SUPPORT!
Today, on International Day of Care and Support, we're recognising the incredible contribution made by unpaid carers across Carmarthenshire.
💙 DID YOU KNOW YOU COULD BE AN UNPAID CARER WITHOUT REALISING IT?
Do you regularly help a partner, parent, child, relative or friend because of an illness, disability or long-term health condition?
Perhaps you:
❤️ Help them wash, dress or prepare meals
💊 Manage their medication or appointments
🛒 Help with shopping, cleaning or household tasks
🚗 Take them to medical appointments
🏠 Provide supervision or support to keep them safe
💙 Offer emotional support and reassurance
You don't have to live with someone or be related to them to be an unpaid carer.
💷 WHAT FINANCIAL SUPPORT COULD BE AVAILABLE?
Depending on your circumstances, you may qualify for:
✅ Carer's Allowance – if you provide at least 35 hours of care per week and meet the eligibility rules.
✅ Universal Credit carer element – additional financial support for eligible carers receiving Universal Credit.
✅ Carer-related additions to other benefits – depending on your circumstances.
✅ A benefit entitlement check – to make sure both you and the person you care for are receiving the financial support you're entitled to.
You may also be entitled to practical support through your local authority, including a carer's needs assessment.
📢 IMPORTANT: Claiming Carer's Allowance or certain other carer-related benefits can affect existing benefit entitlements, including those of the person you care for. It's important to check before making a claim.
💡 YOU DON'T HAVE TO WAIT UNTIL CARING BECOMES OVERWHELMING TO ASK FOR HELP.
Caring responsibilities can affect your employment, income, health and wellbeing.
Getting advice early can help you understand your rights, access available support and prevent financial difficulties before they become a crisis.
💙 Today, we're reminding every unpaid carer: your contribution matters, your wellbeing matters, and support may be available.
📞 Citizens Advice Carmarthenshire – 01267 234488
☎️ Advicelink Cymru – 0800 702 2020
💙 Free • Confidential • Impartial
Stronger communities, brighter futures.
💚❤️ DYDD IAU 29 HYDREF – DIWRNOD RHYNGWLADOL GOFAL A CHYMORTH
YDYCH CHI'N GOFALU AM RYWUN? GALLECH FOD Â HAWL I GYMORTH A***NNOL!
Heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Gofal a Chymorth, rydym yn cydnabod cyfraniad anhygoel gofalwyr di-dâl ledled Sir Gaerfyrddin.
💚 OEDDECH CHI'N GWYBOD Y GALLECH FOD YN OFALWR DI-DÂL HEB SYLWEDDOLI HYNNY?
Ydych chi'n helpu partner, rhiant, plentyn, perthynas neu ffrind yn rheolaidd oherwydd salwch, anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor?
Efallai eich bod yn:
❤️ Helpu rhywun i ymolchi, gwisgo neu baratoi prydau bwyd
💊 Rheoli meddyginiaeth neu apwyntiadau
🛒 Helpu gyda siopa, glanhau neu dasgau'r cartref
🚗 Mynd â rhywun i apwyntiadau meddygol
🏠 Darparu goruchwyliaeth neu gymorth i'w gadw'n ddiogel
💚 Cynnig cymorth emosiynol a sicrwydd
Nid oes rhaid i chi fyw gyda rhywun na bod yn perthyn iddo i fod yn ofalwr di-dâl.
💷 PA GYMORTH A***NNOL ALLAI FOD AR GAEL?
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael:
✅ Lwfans Gofalwr – os ydych yn darparu o leiaf 35 awr o ofal yr wythnos ac yn bodloni'r rheolau cymhwysedd.
✅ Elfen gofalwr Credyd Cynhwysol – cymorth a***nnol ychwanegol i ofalwyr cymwys sy'n cael Credyd Cynhwysol.
✅ Symiau ychwanegol mewn budd-daliadau eraill – yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
✅ Gwiriad hawl i fudd-daliadau – i sicrhau eich bod chi a'r person rydych yn gofalu amdano yn cael yr holl gymorth a***nnol y mae gennych hawl iddo.
Efallai y bydd gennych hawl hefyd i gymorth ymarferol drwy eich awdurdod lleol, gan gynnwys asesiad o anghenion gofalwr.
📢 PWYSIG: Gall hawlio Lwfans Gofalwr neu rai budd-daliadau eraill sy'n ymwneud â gofalu effeithio ar hawliau budd-daliadau presennol, gan gynnwys rhai'r person rydych yn gofalu amdano. Mae'n bwysig gwirio cyn gwneud cais.
💡 NID OES RHAID I CHI AROS NES BOD GOFALU'N MYND YN LLETHOL CYN GOFYN AM HELP.
Gall cyfrifoldebau gofalu effeithio ar eich cyflogaeth, incwm, iechyd a llesiant.
Gall cael cyngor yn gynnar eich helpu i ddeall eich hawliau, cael mynediad at gymorth sydd ar gael ac atal anawsterau a***nnol cyn iddynt droi'n argyfwng.
💚 Heddiw, rydym yn atgoffa pob gofalwr di-dâl: mae eich cyfraniad yn bwysig, mae eich llesiant yn bwysig, ac efallai bod cymorth ar gael.
📞 Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin – 01267 234488
☎️ Advicelink Cymru – 0800 702 2020
💚 Am ddim • Cyfrinachol • Diduedd
Cymunedau cryfach, dyfodol disgleiriach.