06/11/2026
Last month, the NYAS Cymru team and our incredible group of young people headed to Norway as part of our Taith trips. Here’s what we got up to on Day 3 and 4!
Day 3 ☀️ - We met with the Forandringsfabrikken Kunnskapssenter and Save The Children Norway for even more learning about children's rights and systems, and how many issues impacting care-experienced young people are the same across different countries. Our young people went to play a game of crazy golf with Change Factory's young people and lots of fun was had! We then all went for pizza and it was incredible to see all our young people having fun with their new friends and creating some very powerful messages to Government which we will share soon...
Day 4 ☀️ - We started the morning visiting the Ombudsperson for Children in Norway to learn about how Norway has incorporated the UNCRC into their law - something NYAS is calling for across England and Wales. We then saw the announcement of the Noble Peace Prize winner for 2026, which was one of the most memorable moments of our trip. Later we went island hopping around Oslo, and had one final dinner together where we gave out awards to our young people to celebrate their achievements on this trip. We are so proud of each and every one of them.
Thank you to Taith for enabling this once in a lifetime experience for our young people, it was truly a magical trip. Thank you to all the organisations we met in Norway, your generosity and kindness was above and beyond, and is exactly the energy NYAS wants to put out to everyone we work with.
Mis diwethaf, aeth tîm NYAS Cymru a’n grŵp anhygoel o bobl ifanc i Norwy fel rhan o’n teithiau gydag Taith Dyma gipolwg ar yr hyn wnaethon ni ar ddiwrnodau 3 a 4!
☀️ Diwrnod 3 – Fe wnaethon ni gwrdd â Change Factory a Achub y Plant Norwy i ddysgu hyd yn oed mwy am hawliau plant a systemau, ac am sut mae llawer o’r materion sy’n effeithio pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yr un fath mewn gwahanol wledydd. Aeth ein pobl ifanc i chwarae mini golff gyda phobl ifanc Change Factory, a chafwyd llawer o hwyl! Yna, aethon ni i gyd am bitsa, ac roedd hi’n wych gweld ein holl bobl ifanc yn cael hwyl gyda’u ffrindiau newydd ac yn llunio negeseuon pwerus iawn i’r Llywodraeth, y byddwn ni’n eu rhannu cyn bo hir...
☀️ Diwrnod 4 – Dechreuon ni’r bore drwy ymweld ag Ombwdsmon Plant Norwy i ddysgu am sut mae Norwy wedi ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn ei chyfraith – rhywbeth y mae NYAS yn galw amdano ledled Cymru a Lloegr. Yna, fe wnaethon ni wylio’r cyhoeddiad am enillydd Gwobr Heddwch Nobel 2026, ag oedd yn un o eiliadau mwyaf cofiadwy ein taith. Yn ddiweddarach, aethon ni o ynys i ynys o amgylch Oslo, a chawsom ni ein cinio olaf gyda’n gilydd, lle gwnaethon ni gyflwyno gwobrau i’n pobl ifanc i ddathlu eu cyrhaeddiadau ar y daith hon. Rydyn ni mor falch o bob un ohonyn nhw.
Diolch i Taith am alluogi’r profiad unwaith mewn oes hwn i’n pobl ifanc. Roedd hi’n daith wirioneddol hudolus. Diolch hefyd i’r holl sefydliadau y gwnaethon ni gwrdd â nhw yn Norwy. Roedd eich haelioni a’ch caredigrwydd yn rhagori ar bob disgwyl, ac mae hynny’n adlewyrchu’n union yr agwedd y mae NYAS am ei rhannu gyda phawb rydyn ni’n gweithio gyda nhw.