26/10/2026
Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy’ y tu ôl i ddrysau Capel Rhondda?
Mae Capeli Cymru yn croesawu ymwelwyr i ddod i ddarganfod yr adeilad arbennig hwn ar 11 Tachwedd rhwng 1 a 7.
Os oes gennych chi atgofion i’w rhannu, hen luniau wedi cuddio mewn albwm neu unrhyw eitem sy’n gysylltiedig â’r Capel, byddai’n arbennig eu gweld nhw.
Mae pob stori yn helpu i lunio gorffennol a dyfodol Capel Rhondda.