28/10/2026
👻 Mae Pwca bach yn rhydd yn Nhŷ Tredegar... ac mae wedi gwneud llanast llwyr o’r lle! | There's a Pwca loose at Tredegar House… and they’re making quite a mess! 🧈
Ym 1904, ymddangosodd stori go anarferol yn y papurau newydd. Mewn ffermdy yng Nghoedcernyw gerllaw, roedd dodrefn yn symud, llestri’n hedfan, ac yn ôl y sôn cafodd plismon ei daro yn ei lygad gyda hanner pwys o fenyn... wedi'i daflu gan law anweledig.
Gwnaeth y digwyddiadau rhyfedd ddal sylw Arglwydd Tredegar hyd yn oed, a anfonodd rywun i ymchwilio. 👀
Dros 120 mlynedd yn ddiweddarach, mae'n ymddangos bod y Pwca direidus yn ôl, a'r tro hwn mae’n achosi anhrefn yn Nhŷ Tredegar.
Yr hanner tymor hwn, dilynwch lwybr y Pwca drwy'r plasty, dewch o hyd i’w ddrygioni, a darganfyddwch y llên gwerin y tu ôl i'r stori.
🍂 Gallwch hefyd adeiladu eich cymeriad llên gwerin eich hun o glai ar ddiwrnodau penodol, ac mae siocled poeth bob amser ar gael yn y caffi. ☕
I’r dim ar ddiwrnod clyd, glawiog o hydref.
****
In 1904, a rather unusual story made the newspapers. At a farmhouse in nearby Coedkernew, furniture was moving, crockery was flying, and a policeman was reportedly hit in the eye with half a pound of butter… thrown by an unseen hand.
The strange happenings even caught the attention of Lord Tredegar, who sent someone to investigate. 👀
Over 120 years later, it seems the mischievous Pwca is back and this time they're causing chaos inside Tredegar House.
This half term, follow our Pwca trail through the mansion, spot the mischief and discover the local folklore behind the story.
🍂 You can also build your own folklore character out of clay on select dates and there’s always hot chocolate waiting for you the café. ☕
Just the visit for a cosy, rainy autumn day.