16/09/2026
A quick update about booking Pathfinders sessions!
Our sessions involve lots of hands-on activities, and there’s usually quite a bit of preparation going on behind the scenes! We often prepare individual resources, equipment and materials based on the number of children attending, as well as making sure we have enough volunteers scheduled to support everyone.
To give us enough time to get everything ready (and avoid frantic last-minute shopping for extra resources 😆), bookings for our sessions will now close a few days before each event.
If you’re planning to come along, please make sure you book your place in plenty of time. Advance bookings allow us to plan activities properly, prepare enough resources for everyone, organise appropriate volunteer support and make each session the best experience we can provide.
Occasionally, we also need to make a decision a few days beforehand about whether a session can go ahead, so booking early means we have an accurate picture of numbers when we make those plans.
We completely understand that plans change and last-minute bookings are sometimes unavoidable, but once bookings have closed we can’t guarantee that we’ll be able to add extra places.
Thank you for helping us keep Pathfinders sessions hands-on, well-resourced, well-supported and fun! 💛
Nodyn bach am archebu sesiynau Pathfinders
Mae ein sesiynau’n cynnwys llawer o weithgareddau ymarferol, ac fel arfer mae cryn dipyn o waith paratoi yn digwydd y tu ôl i’r llenni! Rydym yn aml yn paratoi adnoddau, offer a deunyddiau unigol yn seiliedig ar nifer y plant sy’n mynychu, yn ogystal â sicrhau bod gennym ddigon o wirfoddolwyr wedi’u trefnu i gefnogi pawb.
Er mwyn rhoi digon o amser i ni baratoi popeth (ac osgoi siopa gwyllt am adnoddau ar y funud olaf! 😂), bydd archebion ar gyfer ein sesiynau bellach yn cau ychydig ddyddiau cyn pob digwyddiad.
Os ydych chi’n bwriadu dod, gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich lle mewn da bryd. Mae archebu ymlaen llaw yn ein galluogi i gynllunio’r gweithgareddau’n iawn, paratoi digon o adnoddau i bawb, trefnu’r gefnogaeth wirfoddol briodol a gwneud pob sesiwn y profiad gorau posibl.
O bryd i’w gilydd, mae angen i ni hefyd benderfynu ychydig ddyddiau ymlaen llaw a all sesiwn fynd yn ei blaen, felly mae archebu’n gynnar yn golygu bod gennym ddarlun cywir o’r niferoedd wrth wneud y penderfyniadau hynny.
Rydym yn deall yn iawn fod cynlluniau’n newid ac nad oes modd osgoi archebu ar y funud olaf bob amser, ond unwaith y bydd archebion wedi cau, ni allwn warantu y byddwn yn gallu ychwanegu lleoedd ychwanegol.
Diolch am ein helpu i gadw sesiynau Pathfinders yn ymarferol, llawn adnoddau, gyda digon o gefnogaeth ac, yn bwysicaf oll, yn hwyl! 💛