16/09/2024
Ni’n cofio Elen, o Landysul heddiw ar Ddydd Owain Glyndŵr. Tywysoges y Deheubarth a mam Owain Glyndŵr.
Bu dathlu mawr llynnedd wrth i Meinir Mathias Artist greu murlun arbennig ar ochr Calon Tysul ac wrth i Eddie Ladd Lleuwen Steffan Mr Phormula, Côr Gospel Llandysul a degau o’r gymuned ddod ynghyd yn FFAIR ELEN
Ma cyfle heno, yn Y Porth, hen gartref Elen i edrych ar Galar Cymdeithas gyda’r cwnselydd Eluned Rowlands o HAVAV a’r ffotograffydd Lleucu Meinir. Cyfle i edrych yn ôl ac i edrych ymlaen mewn gobaith
Dydd Owain Glyndŵr hapus i bawb, gan gofio pob menyw sy’n cael eu anghofio yn ein hanes 🧡