17/10/2026
🌸 Holy Trinity Community Café – Our Weekly Roundup 🌸
What another wonderful week we’ve had at Holy Trinity Community Café! ❤️
Mondays seem to be getting wonderfully busier, and it’s hardly surprising with all the lovely things happening at Holy Trinity. There’s always something going on, plenty of friendly faces, lots of laughter and, of course, the odd cup of tea or coffee along the way!
🧶 Monday – Weaving, Wonderful Creations and a Fond Farewell
On Monday, our fabulous crafting duo, Kath and Cat, arrived with a wonderful selection of different types and colours of wool, ready for us to try our hand at weaving placemats and bookmarks.
Now, for some, it was a bit of a challenge, while others took to it like a duck to water! But with a little patience, plenty of encouragement and a good helping of perseverance, everyone had something lovely to show for their efforts.
It was one of those afternoons when everyone became so engrossed in what they were doing that time simply flew by. In fact, I don’t think anyone really wanted to leave! But as the saying goes, all good things must come to an end, and before we knew it, it was time to put down our wool and pack everything away.
Some went home proudly carrying their finished creations, while others took their weaving home to carry on with. It was such a lovely activity, and a big thank you goes to Kath and Cat for once again bringing out everyone’s creative side. ❤️
Monday also brought us some news that was both happy and sad.
Our lovely volunteer Nia, who has been coming along throughout the year, helping with the washing up, looking after our planters and generally being one of those wonderful people who quietly gets on with whatever needs doing, is moving away from Rhyl to begin a new chapter in her life.
Now, while we’re all very sad to see her go, we’re also absolutely delighted for her as she settles into her new home.
Nia is such a warm, kind and welcoming person, and I have no doubt that wherever she goes, she will soon be surrounded by new friends. She’s one of those people who makes others feel welcome simply by being herself.
Nia, thank you for everything you’ve done for us at Holy Trinity. You’ve been a wonderful part of our café family, and we will certainly miss you.
We hope you’ll keep in touch, and if you ever fancy a day trip back to Rhyl, you know exactly where we are. There will always be a warm welcome waiting for you, along with a mocha or two! ☕❤️
🎶 Tuesday – Love to Move with Becky
Our Tuesday sessions continue to be as popular as ever, and it’s especially lovely to see new people popping in each week to say hello and join us.
This Tuesday saw the return of one of our much-loved monthly activities, Love to Move with Becky from DVSC.
For anyone who hasn’t joined us before, Love to Move is a wonderful seated movement-to-music session designed to be accessible to everyone.
It’s not just about getting our arms and legs moving, although there’s certainly plenty of that! The activities also help stimulate our brains, improve coordination and encourage us to think while we move.
And naturally, being Holy Trinity, we couldn’t possibly have a music session without a bit of singing along, plenty of laughter and the occasional person doing their own interpretation of the movements!
That’s what makes these sessions so special. Nobody has to be perfect, nobody needs to worry about getting things wrong, and everyone can join in at their own pace.
A huge thank you to Becky for another enjoyable session. It’s always a pleasure to have you with us. ❤️
🌺 What’s Happening Next Week at Holy Trinity?
We’ve got another lovely couple of days planned, and we hope you’ll come along and join us.
On Monday, we’ll be coming together to make our Remembrance wreath with Reverend Janet.
This is always a particularly meaningful activity, as the wreath we create together will be laid at the Cenotaph on Remembrance Sunday.
It’s our little way of coming together as a community to remember and honour those who gave their lives, those who served and those who continue to serve.
A time for reflection, remembrance and gratitude. ❤️
Tuesday – A Trip to Llandudno and Candle Decorating! 🕯️
Tuesday will be a little different for some of our regular café visitors, as a group will be heading off to Llandudno with Transport for Wales for a lovely day out.
But don’t worry, Holy Trinity Community Café will still be open as usual!
Paula and Davi will be there to welcome everyone, so why not pop along, enjoy a cuppa, have a good chat and join us as we give candle decorating a go?
We’ll be getting creative again, and as always, you don’t need any special skills or experience. Just come along, have some fun and see what you can create.
❤️ A Little Thank You from Us All
As another week comes to an end, I often think how lucky we are to have such a wonderful little community at Holy Trinity.
It’s not just about the activities, the tea and coffee or even the delicious treats. It’s about the friendships, the conversations, the laughter and the way everyone looks out for one another.
Whether you’re one of our regular visitors, a volunteer, someone who runs an activity or somebody thinking about coming along for the very first time, you are all part of what makes Holy Trinity Community Café such a special place.
Our doors are open, the kettle is on, and there’s always room for one more. ☕❤️
📍 Holy Trinity Community Café, Rhyl
🕥 Open Mondays and Tuesdays, 10.30am – 2.30pm
We look forward to seeing you all next week!
From all of us at Holy Trinity Community Café. ❤️
🌸 Caffi Cymunedol y Drindod Sanctaidd – Crynodeb o’n Hw wythnos 🌸
Am wythnos hyfryd arall rydyn ni wedi’i chael yng Nghaffi Cymunedol y Drindod Sanctaidd! ❤️
Mae dydd Llun fel petai’n mynd yn braf o brysurach bob wythnos, a does ryfedd gyda’r holl bethau hyfryd sy’n digwydd yma. Mae rhywbeth ymlaen o hyd, digon o wynebau cyfeillgar, llawer o chwerthin ac, wrth gwrs, ambell baned o de neu goffi ar hyd y ffordd!
🧶 Dydd Llun – Gwehyddu, Creadigaethau Hyfryd a Ffarwel Gynnes
Ddydd Llun, daeth ein deuawd crefftio gwych, Kath a Cat, â dewis hyfryd o wahanol fathau a lliwiau o wlân, yn barod i ni roi cynnig ar wehyddu matiau bwrdd a nodau tudalen.
I rai, roedd yn dipyn o her, tra bod eraill wedi cael gafael arni’n syth! Ond gydag ychydig o amynedd, digon o anogaeth a dyfalbarhad, roedd gan bawb rywbeth hyfryd i’w ddangos am eu hymdrechion.
Roedd yn un o’r prynhawniau hynny pan oedd pawb wedi ymgolli cymaint yn eu gwaith nes bod yr amser wedi hedfan heibio. A dweud y gwir, dydw i ddim yn meddwl bod neb eisiau gadael! Ond, fel y dywed y gair, daw pob peth da i ben, a chyn i ni sylweddoli, roedd hi’n amser rhoi’r gwlân i lawr a phacio popeth i ffwrdd.
Aeth rhai adref yn falch gyda’u creadigaethau gorffenedig, tra bod eraill wedi mynd â’u gwaith gwehyddu adref i barhau ag ef. Roedd yn weithgaredd mor hyfryd, a diolch o galon i Kath a Cat am ddod ag ochr greadigol pawb i’r amlwg unwaith eto. ❤️
Daeth dydd Llun hefyd â newyddion hapus a thrist.
Mae ein gwirfoddolwraig annwyl Nia, sydd wedi bod yn dod atom drwy gydol y flwyddyn, yn helpu gyda’r golchi llestri, yn gofalu am ein blychau plannu ac yn mynd ati’n dawel i wneud beth bynnag sydd angen ei wneud, yn symud o’r Rhyl i ddechrau pennod newydd yn ei bywyd.
Er ein bod ni i gyd yn drist iawn o’i gweld yn mynd, rydyn ni hefyd wrth ein boddau drosti wrth iddi ymgartrefu yn ei chartref newydd.
Mae Nia yn berson mor gynnes, caredig a chroesawgar, ac rwy’n siŵr y bydd hi’n gwneud ffrindiau newydd mewn dim o amser, ble bynnag y bydd hi. Mae hi’n un o’r bobl hynny sy’n gwneud i eraill deimlo bod croeso iddyn nhw dim ond drwy fod yn hi ei hun.
Nia, diolch am bopeth rwyt ti wedi’i wneud i ni yn y Drindod Sanctaidd. Rwyt ti wedi bod yn rhan wych o deulu ein caffi, a byddwn ni’n gweld dy eisiau yn fawr.
Rydyn ni’n gobeithio y byddi di’n cadw mewn cysylltiad, ac os byddi di byth awydd dod yn ôl i’r Rhyl am y diwrnod, rwyt ti’n gwybod yn union ble rydyn ni. Bydd croeso cynnes bob amser yn aros amdanat, ynghyd â mocha neu ddau! ☕❤️
🎶 Dydd Mawrth – Caru Symud gyda Becky
Mae ein sesiynau dydd Mawrth yn parhau i fod mor boblogaidd ag erioed, ac mae’n arbennig o braf gweld pobl newydd yn galw heibio bob wythnos i ddweud helo ac ymuno â ni.
Ddydd Mawrth yma, roedd un o’n hoff weithgareddau misol yn ôl: Caru Symud gyda Becky o DVSC.
I unrhyw un sydd heb ymuno â ni o’r blaen, mae Caru Symud yn sesiwn hyfryd o symud i gerddoriaeth wrth eistedd, sydd wedi’i chynllunio i fod yn hygyrch i bawb.
Mae mwy iddi na symud ein breichiau a’n coesau, er bod digon o hynny’n digwydd! Mae’r gweithgareddau hefyd yn helpu i ysgogi ein hymennydd, gwella cydsymud a’n hannog i feddwl wrth i ni symud.
Ac wrth gwrs, gan mai’r Drindod Sanctaidd ydyn ni, fyddai sesiwn gerddoriaeth ddim yn gyflawn heb ychydig o gyd-ganu, digon o chwerthin ac ambell un yn gwneud ei fersiwn ei hun o’r symudiadau!
Dyna sy’n gwneud y sesiynau hyn mor arbennig. Does dim rhaid i neb fod yn berffaith, does dim angen poeni am wneud camgymeriadau, a gall pawb gymryd rhan ar eu cyflymder eu hunain.
Diolch yn fawr iawn i Becky am sesiwn bleserus arall. Mae bob amser yn bleser dy gael di gyda ni. ❤️
🌺 Beth Sy’n Digwydd Wythnos Nesaf yn y Drindod Sanctaidd?
Mae gennym ni gwpl arall o ddiwrnodau hyfryd ar y gweill, ac rydyn ni’n gobeithio y dewch chi draw i ymuno â ni.
Ddydd Llun, byddwn ni’n dod at ein gilydd i greu ein torch goffa gyda’r Parchedig Janet.
Mae hwn bob amser yn weithgaredd arbennig o ystyrlon, gan y bydd y dorch rydyn ni’n ei chreu gyda’n gilydd yn cael ei gosod wrth y Gofeb Ryfel ar Sul y Cofio.
Dyma ein ffordd fach ni o ddod at ein gilydd fel cymuned i gofio ac anrhydeddu’r rhai a roddodd eu bywydau, y rhai a wasanaethodd a’r rhai sy’n parhau i wasanaethu.
Cyfle i fyfyrio, cofio a bod yn ddiolchgar. ❤️
Dydd Mawrth – Taith i Landudno ac Addurno Canhwyllau! 🕯️
Bydd dydd Mawrth ychydig yn wahanol i rai o’n hymwelwyr rheolaidd, gan y bydd grŵp yn mynd i Landudno gyda Thrafnidiaeth Cymru am ddiwrnod braf allan.
Ond peidiwch â phoeni, bydd Caffi Cymunedol y Drindod Sanctaidd ar agor fel arfer!
Bydd Paula a Davi yno i groesawu pawb, felly beth am alw heibio am baned, cael sgwrs dda ac ymuno â ni i roi cynnig ar addurno canhwyllau?
Byddwn ni’n greadigol unwaith eto ac, fel bob amser, does dim angen unrhyw sgiliau na phrofiad arbennig. Dewch draw, mwynhewch a gweld beth allwch chi ei greu.
❤️ Gair Bach o Ddiolch gan Bob Un Ohonom
Wrth i wythnos arall ddod i ben, rwy’n meddwl yn aml mor lwcus ydyn ni o gael cymuned fach mor hyfryd yn y Drindod Sanctaidd.
Mae mwy i’r caffi na’r gweithgareddau, y te a’r coffi, neu hyd yn oed y danteithion blasus. Mae’n ymwneud â’r cyfeillgarwch, y sgyrsiau, y chwerthin a’r ffordd mae pawb yn gofalu am ei gilydd.
P’un a ydych chi’n ymwelydd rheolaidd, yn wirfoddolwr, yn rhywun sy’n arwain gweithgaredd neu’n meddwl am ddod draw am y tro cyntaf, rydych chi i gyd yn rhan o’r hyn sy’n gwneud Caffi Cymunedol y Drindod Sanctaidd yn lle mor arbennig.
Mae ein drysau ar agor, mae’r tegell ymlaen, ac mae lle i un arall bob amser. ☕❤️
📍 Caffi Cymunedol y Drindod Sanctaidd, Y Rhyl
🕥 Ar agor bob dydd Llun a dydd Mawrth, 10.30yb – 2.30yp
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd wythnos nesaf!
Oddi wrth bob un ohonom yng Nghaffi Cymunedol y Drindod Sanctaidd. ❤️