26/10/2026
🛠️ Gwaith Pont Menai | 🛠️ Menai Bridge Works
Rhwng 2 Tachwedd a 20 Tachwedd, bydd rhaglen arall o waith a gynlluniwyd yn digwydd ar ddec Pont Menai yn rhan o raglen barhaus Cam Dau. Mae'r gwaith ar y dec yn cynnwys: archwiliadau o gyfrwy tir Gorllewinol Ynys Môn; clirio a glanhau berynnau tŵr yr ochr orllewinol; ac archwiliadau pellach o echelau'r tyrau sy'n cario'r cadwyni dros y bont.
Bydd lôn orllewinol Pont Menai ar gau rhwng 09:00 a 15:00 ar ddyddiau'r wythnos o 2 Tachwedd hyd at 20 Tachwedd er mwyn caniatáu i'r gwaith hwn gael ei wneud yn ddiogel. Bydd goleuadau traffig dros dro yn eu lle i reoli llif y traffig yn ystod y cyfnodau hyn.
Mae'r cyfnodau byr hyn o reolaeth ar y traffig yn hanfodol wrth gyflawni ein rhaglen gynnal a chadw Cyfnod Dau, er mwyn caniatáu i'n contractwyr gael mynediad at elfennau hanfodol o'r bont mewn amgylchedd sy'n ddiogel a rheoledig iddyn nhw ac i ddefnyddwyr y bont. Fel gyda'n caewiad lôn sengl blaenorol, gwneir pob ymdrech i ailagor y lôn orllewinol cyn gynted â phosibl ac unwaith y bydd yn ddiogel gwneud hynny ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.
------------------
Between 2 November and 20 November, a further programme of planned works will be undertaken on the Menai Suspension Bridge deck as part of the ongoing Phase Two programme. The works on the deck includes: inspections of the Anglesey West land saddle; clearing and cleaning of the west side tower bearings; and further inspections of the tower saddles which carry the chains over the bridge.
The west lane of Menai Suspension Bridge will be closed between 09:00 - 15:00 on weekdays from 2 November to 20 November to allow these works to be carried out safely. Temporary traffic lights will be in place to manage traffic flow during these periods.
These brief periods of traffic management are critical to delivering our Phase Two maintenance programme, allowing our contractors to access essential elements of the bridge in a safe and controlled environment for both them and bridge users. As with our previous single lane closure, every effort will be made to re-open the west lane as soon as possible and once safe to do so after works have been completed.
Welsh Government Llywodraeth Cymru Trafnidiaeth Isle of Anglesey County Council Cyngor Gwynedd Cyngor Gwynedd Cyngor Sir Ynys Môn