02/12/2025
Llongyfarchiadau i bawb gafodd eu dewis i berfformio yng nghyngerdd y Diwrnod Piano. 🎶
Congratulations to everyone who was chosen to perform at the Piano Day concert. 🎶
Cronfa CGWM er cof am Ben Muskett
Sefydlwyd y gronfa arbennig hon i gofio am yr athro piano ysbrydoledig fu farw mewn damwain car yn 2011 yn 25 oed.
Roedd Ben yn bianydd disglair. O Fethesda’n wreiddiol, bu’n ddisgybl yn Ysgol Friars, Bangor, cyn graddio o Brifysgol Manceinion. Tra yn y coleg, dechreuodd fel tiwtor piano yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon. Pan ddigwyddodd y ddamwain, roedd yn Bennaeth Cerdd Ysgol Uwchradd Llanidloes ac yn dal i roi gwersi yn CGWM.
Roedd Ben yn angerddol dros ddysgu piano a cherddoriaeth. Pwrpas yr Ysgoloriaeth ydy cynnigrhywfaint o gymorth ariannol i bianyddion ifanc y dyfodol â’u hastudiaethau.
Bydd bob pianydd gafodd eu dewis gan y pianyddion proffesiynol i chwarae yng nghyngerdd y Diwrnod Piano yn derbyn rhodd o’r gronfa.
CGWM’s fund in memory of Ben Muskett
This special fund was established in memory of the inspirational 25-year-old piano tutor who died in a car accident in 2011.
Ben was a gifted pianist. Born in Bethesda, he attended Friars School in Bangor and graduated from the University of Manchester. Whilst still at college he started as a Piano Tutor in Canolfan Gerdd William Mathias in Caernarfon. At the time of the accident, he was Head of Music at Llanidloes High School as well as teaching at CGWM.
Ben was passionate about teaching music and piano. The Scholarship was set up to offer some financial help for young pianists of the future with their studies.
Each pianist chosen by the professional pianists to perform at the Piano Day concert will receive an award from the fund.