01/10/2026
Wedi cryn ymchwil a thrafodaeth mae Partneriaeth GwyrddNi yn unfrydol yn gwrthwynebu canolfan ddata Menai.
Nod cwmni ‘Gwelyfenai Ltd’ yw adeiladu canolfan ddata enfawr 450 MW ar ein harfordir unigryw yng Nghaernarfon, ac mae angen i ni sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed cyn ei bod hi'n rhy hwyr.
Fel y nodwyd gan lawer o drigolion lleol, mae 5 prif rheswm pam ei fod yn anorfod y dylai Cyngor Gwynedd wrthod y cynnig yn llwyr:
1. Yr effaith ddinistriol ar ein tirwedd: Bydd adeiladau'r ganolfan ddata yn cyrraedd uchder o 100 troedfedd (30 metr), tuag uchder saith bws deulawr ar ben ei gilydd, ac yn ymestyn dros arwynebedd sy'n cyfateb a 57 cae pêl-droed, gan effeithio'n sylweddol ar ein treftadaeth naturiol.
2. Y pwysau enfawr ar anghenion trydan lleol: Bydd angen cysylltiad 450 MW ar y ganolfan ddata. I roi hynny mewn cyd-destun, mae 400 MW o ynni gwynt yn ddigon i gyflenwi trydan i 350,000 o gartrefi yng Nghymru. Gallai'r angen enfawr hwn am ynni hefyd gynyddu biliau pobl leol ar adeg pan fo llawer ohonom eisoes yn teimlo'r pwysau ariannol.
3. Bygythiad i gyflenwadau dŵr a charthffosiaeth: Gallai'r ganolfan ddata fod angen hyd at 12 miliwn litr o ddŵr yfed glân y dydd yn uniongyrchol o gyflenwad Dŵr Cymru. Bydd dŵr y ganolfan ddata yn cael ei ollwng yn ôl i’r Afon Menai a fydd yn ei dro yn cael effaith andwyol ar fywyd morol ein hardal unigryw a gwarchodedig.
4. Llygredd o 5.7 miliwn o litrau o ddisel: Mae’r ganolfan ddata yn bwriadu defnyddio generaduron disel wrth gefn a fydd yn defnyddio hyd at 5.7 miliwn o litrau o ddisel y flwyddyn os bydd angen. Gall hyn arwain at gynnydd sylweddol mewn llygredd aer ein hardal.
5. Dinistrio safleoedd bywyd gwyllt lleol a sŵn: Bydd y sŵn mecanyddol parhaus o wyntyllau a systemau oeri yn tarfu ar gwsg trigolion lleol ac yn effeithio'n ddifrifol ar fywyd gwyllt, pryfed a bywyd morol sy'n dibynnu ar signalau acwstig.
Beth allwch chi ei wneud?
Os ydych chi'n byw yng Ngwynedd neu Ynys Môn, fedrwch chi anfon eich gwrthwynebiad yn uniongyrchol at y cyngor cyn y 17eg Hydref. Ysgrifennwch Gwrthwynebiad i Gais Cynllunio C25/0740/20/EIA yn y llinell pwnc ar eich e-bost, ysgrifennu pam eich bod chi'n gwrthwynebu, ac anfonwch yr e-bost at [email protected] yng Ngwynedd a [email protected] ar Ynys Môn. Mae croeso mawr i chi ddefnyddio testun y post hwn ar gyfer eich e-byst. Diolch i chi.
Credyd llun: Josie Ryan, Felinheli