Y Borth Community Council: Cyngor Cymuned Y Borth

Directions Website Contact the organisation

Y Borth Community Council: Cyngor Cymuned Y Borth Improving awareness of the work of Borth Community Council, providing updates and information, understanding community views and local issues.

Heno! Croeso i bawb.Tonight! All welcome
02/11/2026

Heno! Croeso i bawb.

Tonight! All welcome

25/10/2026
💙 A HUGE THANK YOU FROM BORTH COMMUNITY COUNCIL!A huge thank you to everyone who braved the rather awful weather last ni...
22/10/2026

💙 A HUGE THANK YOU FROM BORTH COMMUNITY COUNCIL!

A huge thank you to everyone who braved the rather awful weather last night to join us for our Community Meeting — somewhat ironically (or perhaps very sensibly!) to talk about preparing for bad weather! 🌧️

It was lovely to see so many residents come along, share their thoughts and raise issues that matter to our community.

We’ve come away with plenty of ideas, suggestions and actions to follow up on. Your feedback is incredibly valuable, and we look forward to sharing updates as we work through everything discussed.

🌧️ With more unsettled weather potentially heading our way this weekend, we thought it would be useful to share three simple reminders from last night’s flood awareness presentation.

1️⃣ SIGN UP FOR FLOOD WARNINGS

Natural Resources Wales provides a FREE flood warning service, with alerts sent directly to your phone or email.

Please don’t rely on social media alone for important warnings.

📞 Floodline: 0345 988 1188

You can also register online through Natural Resources Wales.

2️⃣ MAKE A SIMPLE PLAN

A little preparation can make a big difference!

🔹 Keep a torch, batteries and charged power bank handy.

🔹 Have essential medication, important documents and emergency contact numbers accessible.

🔹 Know how to turn off your electricity, gas and water if it is safe to do so.

🔹 Consider what you would do if you needed to leave your home.

🔹 Secure loose garden furniture and other outdoor items ahead of strong winds.

🔹 Never walk or drive through floodwater.

3️⃣ LOOK OUT FOR ONE ANOTHER ❤️

One of Borth’s greatest strengths is its community spirit.

Please check in on neighbours, particularly those who live alone, are elderly, have limited mobility or may need additional support.

Sometimes a quick phone call or a knock on the door (when safe) can make all the difference.

⚡ IMPORTANT – SUPPORT DURING POWER CUTS

Did you know that there is a FREE Priority Services Register for people who may need extra help during a power cut?

This includes:

👵 People of state pension age

♿ People with disabilities or long-term health conditions

👶 Families with young children

❤️ Anyone who relies on electricity for essential medical equipment

Being registered can mean additional support, information and updates during power cuts.

Although it doesn’t guarantee that your electricity will be restored first, it helps electricity providers understand who may need extra assistance.

To register or find out more:

📞 National Grid Electricity Distribution: 0800 6783 105

📞 Power cuts: 105

You can also contact your electricity supplier to join the Priority Services Register.

☎️ USEFUL EMERGENCY NUMBERS – PLEASE SAVE OR SHARE!

🌊 Floodline: 0345 988 1188
For flood warnings and information.

⚡ Power cuts: 105
To report a power cut or receive updates.

🚰 Welsh Water: 0800 052 0130
For water supply emergencies.

💧 Sewer flooding: 0800 085 3968
For sewerage emergencies.

🚧 Ceredigion County Council: 01970 625277
For out-of-hours highways and flooding emergencies in North Ceredigion.

🔥 Gas emergencies: 0800 111 999

🚨 Emergency services: 999
If someone is in immediate danger.

A FINAL REMINDER ABOUT FLOOD WARNINGS

🟡 Flood Alert: Flooding is possible. Be prepared.

🟠 Flood Warning: Flooding is expected. Take immediate action.

🔴 Severe Flood Warning: Danger to life. Follow emergency services’ advice.

Please remember that different areas of Borth, Upper Borth, Ynyslas and Glanwern may be affected differently, so it’s important to register for warnings relevant to your own address.

💙 AND FINALLY, THANK YOU!

A special thank you to our volunteer Flood Wardens and all the local organisations, including Dyfed Powys, NRW and Kate from the Farmers Market who joined us last night.

We have plenty to take away from the evening, and your contributions will help shape our priorities and future work.

We can’t control the weather, but we can be prepared, stay informed and look out for each other.

Please share this information with anyone who may find it useful, particularly those who aren’t on social media.

Stay safe, everyone!

💙 Borth Community Council

💙 DIOLCH O GALON GAN GYNGOR CYMUNED Y BORTH!Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i’n Cyfarfod Cymunedol neithiwr, er gwae...
22/10/2026

💙 DIOLCH O GALON GAN GYNGOR CYMUNED Y BORTH!

Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i’n Cyfarfod Cymunedol neithiwr, er gwaetha’r tywydd garw — yr amgylchiadau’n eironig braidd (neu efallai’n amseroll iawn!) gan mai un o’n prif bynciau trafod oedd paratoi ar gyfer tywydd gwael! 🌧️

Roedd hi’n braf gweld cynifer o drigolion yn dod ynghyd, i rannu barn a chodi materion sy’n bwysig i’n cymuned.

Mae gennym ddigon o syniadau, awgrymiadau a chamau gweithredu i’w dilyn yn dilyn y cyfarfod - ac mae cael adborth o’r fath yn hynod werthfawr. Edrychwn ymlaen at rannu diweddariadau wrth i ni weithio drwy nifer o’r materion a drafodwyd.

🌧️ Gan fod mwy o dywydd ansefydlog yn bosibl dros y penwythnos, dyma ailrannu’r tair neges syml a gafodd eu crybwyll yn y cyflwyniad neithiwr ynghylch paratoi am lifogydd posib.

1️⃣ COFRESTRWCH AR GYFER RHYBUDDION LLIFOGYDD

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig gwasanaeth rhybuddio am lifogydd AM DDIM, gyda rhybuddion yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i’ch ffôn neu eich e-bost.

Peidiwch â dibynnu ar y cyfryngau cymdeithasol yn unig ar gyfer rhybuddion pwysig.

📞 Floodline: 0345 988 1188

Gallwch hefyd gofrestru ar-lein drwy wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

2️⃣ RHOWCH GYNLLUN SYML AT EI GILYDD

Gall ychydig o baratoi wneud gwahaniaeth mawr:

🔹 Gwnewch yn sîwr fod gennych fflachlamp, batris sbâr a banc pŵer wedi’i wefru wrth law.

🔹 Sicrhewch fod meddyginiaethau hanfodol, dogfennau pwysig a rhifau cyswllt argyfwng wrth law.

🔹 Byddwch yn ymwybodol o sut i ddiffodd y trydan, y nwy a’r dŵr yn eich cartref, os yw’n ddiogel gwneud hynny.

🔹 Ystyriwch beth fyddech chi’n ei wneud pe bai angen i chi adael eich cartref.

🔹 Sicrhewch fod dodrefn gardd rhydd ac eitemau awyr agored eraill yn gadarn yn eu lle neu mewn sied cyn i wyntoedd cryfion gyrraedd.

🔹 Peidiwch byth â cherdded na gyrru drwy ddŵr llif.

3️⃣ GOFALWCH AM EICH GILYDD ❤️

Un o gryfderau mwyaf Borth yw ein hysbryd cymunedol.

Cadwch olwg ar gymdogion – yn enwedig y rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain, pobl hŷn, y rhai sydd â symudedd cyfyngedig, neu'r rhai a allai fod angen cymorth ychwanegol.

Weithiau, gall galwad ffôn fer neu g**o ar y drws (pan fo'n ddiogel gwneud hynny) wneud gwahaniaeth mawr.

⚡ PWYSIG – CYMORTH YN YSTOD TORRIADAU PŴER

Wyddoch chi fod 'Cofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth' (Priority Services Register) AM DDIM ar gael i bobl a allai fod angen cymorth ychwanegol pan fydd toriad pŵer?

Mae hyn yn cynnwys:

👵 Pobl sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth

♿ Pobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor

👶 Teuluoedd â phlant ifanc

❤️ Unrhyw un sy'n dibynnu ar drydan ar gyfer offer meddygol hanfodol

Gall gofrestru olygu eich bod yn cael cymorth ychwanegol, gwybodaeth a diweddariadau yn ystod toriadau pŵer.

Er nad yw'n gwarantu y bydd eich cyflenwad trydan yn cael ei adfer yn gyntaf, mae'n helpu darparwyr trydan i ddeall pwy allai fod angen cymorth ychwanegol.

I gofrestru neu i gael mwy o wybodaeth:

📞 Dosbarthu Trydan y Grid Cenedlaethol: 0800 6783 105

📞 Toriadau pŵer: 105

Gallwch hefyd gysylltu â'ch cyflenwr trydan i ymuno â'r Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth.

☎️ RHIFAU ARGYFWNG DEFNYDDIOL – CADWCH NHW NEU RHANNWCH NHW!

🌊 Floodline: 0345 988 1188
Ar gyfer rhybuddion llifogydd a gwybodaeth.

⚡ Toriadau pŵer: 105
I adrodd am doriad pŵer neu i gael diweddariadau.

🚰 Dŵr Cymru: 0800 052 0130
Ar gyfer argyfyngau sy'n ymwneud â'r cyflenwad dŵr.

💧 Llifogydd carthffosiaeth: 0800 085 3968
Ar gyfer argyfyngau sy'n ymwneud â charthffosiaeth.

🚧 Cyngor Sir Ceredigion: 01970 625277
Ar gyfer argyfyngau priffyrdd a llifogydd y tu allan i oriau swyddfa yng Ngogledd Ceredigion.

🔥 Argyfyngau nwy: 0800 111 999

🚨 Gwasanaethau brys: 999
Os yw rhywun mewn perygl uniongyrchol.

NODYN PELLACH YN YMWNEUD Â RHYBUDDION LLIFOGYDD

🟡 Rhybudd Llifogydd Melyn: Mae posibilrwydd o lifogydd. Byddwch yn barod.
🟠 Rhybudd Llifogydd Oren: Disgwylir llifogydd. Cymerwch gamau ar unwaith.

🔴 Rhybudd Llifogydd Difrifol: Perygl i fywyd. Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys.

Cofiwch y gall gwahanol rannau o’r Borth, Y Borth Uchaf, Ynyslas a Glanwern gael eu heffeithio mewn ffyrdd gwahanol. Mae'n bwysig felly cofrestru ar gyfer rhybuddion sy'n berthnasol i'ch cyfeiriad chi.

💙 AC YN OLAF, DIOLCH!

Diolch yn arbennig i'n Gwarcheidwaid Llifogydd gwirfoddol, ac i'r holl sefydliadau a chynrychiolwyr lleol a ymunodd â ni neithiwr gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Heddlu Dyfed Powys. Diolch hefyd i Kate o’r Farchnad Ffermwyr am ddod aton ni.

Mae llawer i'w ddysgu o'r noson, a bydd eich cyfraniadau yn helpu i lunio ein blaenoriaethau a'n gwaith yn y dyfodol.

Ni allwn reoli'r tywydd, ond gallwn fod yn barod, cadw'n wybodus a gofalu am ein gilydd.

Rhannwch y wybodaeth yma gydag unrhyw un a allai ei chael yn ddefnyddiol, yn enwedig y rhai nad ydynt ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cadwch yn ddiogel, bawb!

💙 Cyngor Cymuned Y Borth

Rhwng fory (dydd Gwener) a dechrau'r wythnos nesaf, mae'r Swyddfa Dywydd yn rhagweld tywydd garw a all achosi trafferthi...
22/10/2026

Rhwng fory (dydd Gwener) a dechrau'r wythnos nesaf, mae'r Swyddfa Dywydd yn rhagweld tywydd garw a all achosi trafferthion, gan gynnwys hyrddiau gwynt cryf iawn, ar gryfder storm. Yn ogystal â hyn, mae disgwyl sawl llanw eithriadol o uchel. Felly, byddwch yn wyliadwrus a chadwch lygad ar y môr ar yr adegau hyn ac, os bydd angen, gofalwch am eich cymdogion hefyd, yn enwedig y rhai sy'n byw ar ochr y traeth i'r Stryd Fawr.

Between tomorrow (Friday) and early next week, the Met Office is forecasting disruptive weather including storm force gusts of wind. On top of this there are some very high tides. So stay alert and keep a collective eye on the sea at these times and, if necessary, watch out for your neighbours - particularly those on the beach side of the High Street

⚠️ The Met Office has warned of a danger to life, advising people to prepare

20/10/2026

Still a few a places left for Wednesday’s Carers’ Event ❤️

Come for the walk … come for the lunch .. or enjoy both .
ore book with your dietary requirements to -
[email protected]




20/10/2026
📣 OUR COMMUNITY EVENT IS TOMORROW! 🏡📣 MAE EIN CYFARFOD CYMUNEDOL NOS YFORY! 🏡Ry’n ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb no...
20/10/2026

📣 OUR COMMUNITY EVENT IS TOMORROW! 🏡

📣 MAE EIN CYFARFOD CYMUNEDOL NOS YFORY! 🏡

Ry’n ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb nos fory ac yn gobeithio y bydd nifer yn dod ynghyd ar gyfer ein cyfarfod yn y Neuadd Gymunedol.

💬 Dewch draw i leisio barn ar faterion lleol, i rannu syniadau ac i glywed awgrymiadau ymarferol o ran paratoi ar gyfer misoedd y gaeaf.
🌧️ Wardeniaid Llifogydd: Os ydych eisoes yn Warden Llifogydd, neu os hoffech fod yn un, byddwn yn cynnal cyfarfod ar y llawr cyntaf am 6yh, cyn i'r prif ddigwyddiad ddechrau am 7yh.

Mae'n addo bod yn noson anffurfiol, gyfeillgar a, gobeithio, yn un fydd yn dwyn ffrwyth yn y dyfodol!

Mae croeso i bawb - gobeithiwn eich gweld yno! 💙

📣 OUR COMMUNITY EVENT IS TOMORROW! 🏡

We’re looking forward to welcoming everyone tomorrow evening and hope to see a great turnout.

💬 Come along, have your say on local issues, share your ideas and hear some practical tips on preparing for the winter months.

🌧️ Flood Wardens: If you’re already a Flood Warden, or would like to become one, we’re holding a meeting upstairs at 6pm, ahead of the main event at 7pm.

It promises to be an informal, friendly and hopefully productive evening!

Everyone is welcome – we hope to see you there! 💙

Address

Borth

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Y Borth Community Council: Cyngor Cymuned Y Borth posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Y Borth Community Council: Cyngor Cymuned Y Borth:

Shortcuts

Share

Nearby non profit organisations