Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National Library of Wales

Directions Website Contact the organisation

Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National Library of Wales Dy Lyfrgell Di 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Your Library 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Am y tro cyntaf ers bron i fil o flynyddoedd, bydd tair llawysgrif eithriadol a grëwyd yn scriptorium enwog Llanbadarn F...
30/10/2026

Am y tro cyntaf ers bron i fil o flynyddoedd, bydd tair llawysgrif eithriadol a grëwyd yn scriptorium enwog Llanbadarn Fawr yn dychwelyd i gael eu harddangos ochr yn ochr â llawysgrifau a thrysorau canoloesol o'n casgliadau.

Dewch i ddarganfod stori'r Normaniaid o safbwynt y Cymry drwy lawysgrifau a thrysorau canoloesol.

//

For the first time in almost a thousand years, three exceptional manuscripts created in the famous Llanbadarn Fawr scriptorium will be reunited and displayed alongside medieval manuscripts and treasures from our collections.

Discover the story of the Normans from a Welsh perspective through manuscripts and medieval treasures.

Normaniaid: O Safbwynt y Cymry | Normans: The Welsh Perspective
AGOR | OPENS: 21.11.2026-20.03.2027

British Library Bodleian Libraries Trinity College Dublin

29/10/2026

29 oed... a dim diwrnod yn hŷn!

The amazing Shirley Bassey. Still doesn't look a day over 29!

📹
16/09/1993 The Slate
BBC Cymru Wales

Gwyliwch mwy o glipiau fel hyn ar ein gwefan Gwylio a Gwrando | See more clips like this on our Watch and Listen website

27/10/2026

👻 Ydych chi erioed wedi teimlo presenoldeb arallfydol yn y felin neu Ffermdy Cilewent yn Sain Ffagan? 🎃

👻Have you felt a presence in the mill or Cilewent Farmhouse at St Fagans? 🎃

29/10/2004
Wales Today
BBC Cymru Wales

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru - St Fagans National Museum of History

26/10/2026
Bydd Canolfan Archif Ddarlledu Cymru ar gau dydd Llun 26 Hydref oherwydd digwyddiad allanol.Ymddiheurwn am unrhyw anghyf...
24/10/2026

Bydd Canolfan Archif Ddarlledu Cymru ar gau dydd Llun 26 Hydref oherwydd digwyddiad allanol.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

//

The Wales Broadcast Archive Centre will be closed on Monday 26 October because of an external event.

We apologise for any inconvenience.

Fel rhan o Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd 2026, rydym yn cynnal cyfres o weithgareddau sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd amgylch...
23/10/2026

Fel rhan o Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd 2026, rydym yn cynnal cyfres o weithgareddau sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol, codi ymwybyddiaeth o'r hinsawdd ac amlygu'r rôl y mae llyfrgelloedd yn ei chwarae wrth gefnogi gweithredu am yr hinsawdd.

Mae hefyd yn gyfle i fyfyrio ar y cynnydd rydym wedi'i wneud tuag at ein huchelgais o fod yn sefydliad blaenllaw ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol. Drwy raglen ôl-ffitio uchelgeisiol, rydym wedi buddsoddi mewn systemau gwresogi adnewyddadwy, gosod 1,622 o baneli solar a chyflwyno technolegau rheoli adeiladau craff i helpu i leihau ein hôl troed carbon a sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy.

//

As part of Green Libraries Week 2026, the National Library of Wales is hosting a range of activities that promote environmental sustainability, raise climate awareness and highlight the role libraries can play in supporting climate action.

It's also an opportunity to reflect on the progress we've made towards our ambition of being a leading organisation in environmental sustainability. Through an ambitious retrofit programme, we've invested in renewable heating, installed 1,622 solar panels and introduced smart building technologies to help reduce our carbon footprint and secure a more sustainable future.

Read more (👉link in comments)

⚠️Neges i ymwelwyr heddiwMae Storm Austen yn dod â thywydd gwyntog i ardal Aberystwyth heddiw. Mae'r Llyfrgell ar agor f...
23/10/2026

⚠️Neges i ymwelwyr heddiw

Mae Storm Austen yn dod â thywydd gwyntog i ardal Aberystwyth heddiw. Mae'r Llyfrgell ar agor fel arfer, ond gofynnwn i ymwelwyr gymryd ychydig o ofal ychwanegol wrth gyrraedd a gadael yr adeilad. Bydd ein porthor wrth y Brif Fynedfa i'ch croesawu ac i gynorthwyo ymwelwyr os oes angen.

Os ydych yn ymweld â ni heddiw, caniatewch ychydig o amser ychwanegol ar gyfer eich taith a chadwch yn ddiogel wrth deithio. Byddwn yn monitro'r sefyllfa drwy gydol y dydd ac yn rhannu unrhyw ddiweddariadau pellach yma os bydd angen.

Diolch am eich cydweithrediad. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

//

⚠️Visitor Update

Storm Austen is bringing windy conditions to the Aberystwyth area today. The Library remains open as usual, but we ask visitors to take a little extra care when arriving at and leaving the building. Our porter will be at the Main Entrance to welcome visitors and provide assistance if needed.

If you're planning to visit today, please allow a little extra time for your journey and take care when travelling. We will continue to monitor the situation throughout the day and will share any further updates here if necessary.

Thank you for your cooperation. We look forward to welcoming you.

🎨 Camwch i mewn i fyd Kyffin Williams i ddarganfod ei waith fel erioed o'r blaen.Bydd Profiad Kyffin Experience yn agor ...
22/10/2026

🎨 Camwch i mewn i fyd Kyffin Williams i ddarganfod ei waith fel erioed o'r blaen.

Bydd Profiad Kyffin Experience yn agor i'r cyhoedd ddydd Mercher 18 Tachwedd. Mae'r profiad hwn yn dod â phaentiadau eiconig Kyffin yn fyw, gan nodi 20 mlynedd ers rhodd arlunydd mwyaf poblogaidd Cymru i'r genedl drwy adael rhan helaeth o’i ystâd i'r Llyfrgell Genedlaethol.

Bydd tocynnau ar gael o 2 Tachwedd.

👇Tanysgrifiwch i'r cylchlythr i fod y cyntaf i gael tocynnau!

//

🎨 Step inside the world of Kyffin Williams to explore his art like never before.

The Profiad Kyffin Experience opens to the public on Wednesday 18 November. This free immersive experience brings Kyffin's iconic paintings to life and marks 20 years since Wales’ best loved artist gifted much of his life’s work to the nation by entrusting the Library at Aberystwyth.

Tickets will be available from 2 November.

👇 Sign up to our Newsletter to be the first to get tickets!

21/10/2026

Mae heddiw yn nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan. Rydym yn cofio'r 144 o bobl a gollodd eu bywydau ac yn talu teyrnged i gymuned sydd wedi dangos urddas a gwytnwch rhyfeddol dros y degawdau.

/

Today marks 60 years since the Aberfan Disaster. We remember the 144 people who lost their lives and pay tribute to a community that has shown remarkable dignity and resilience over the decades.

📽️
Cyfarwyddwr / Director - Chris Rushton
Cyfarwyddwr / Director - Richard Davies
Cwmni Cynhyrchu / Production Company - Community Video Workshop, Cardiff

17/10/2026

👻Ysbryd yn crwydro'r Llyfrgell? 👻 We thought we'd caught a ghost wandering the Library...

Y gwir amdani yw ein bod ni eisiau rhoi gwybod i bawb am ein taith tywys arswydus.

Ymunwch â'r adroddwr straeon Owen Staton wrth iddo ddod â straeon ysbrydion Cymreig i'r golwg, wrth i chi fynd ar antur yng nghorneli dirgel a chasgliadau rhyfeddol y Llyfrgell.

//

Turns out we wanted to spread the word about our Halloween ghost tour.

Join storyteller Owen Staton as he brings to life eerie Welsh ghost tales while you explore Library’s mysterious corners and remarkable collections.

📍Llyfrgell Genedlaethol Cymru | National Library of Wales
🗓️Noson Calan Gaeaf | Halloween 31/10/26

Ewch i'r sylwadau am fwy o wybodaeth tocynau | Link in comments to book tickets

Address

Aberystwyth
SY233BU

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National Library of Wales posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National Library of Wales:

Shortcuts

Share


Other Community Organizations in Aberystwyth

Show All