Gŵyl y Felinheli

Directions Website

Gŵyl y Felinheli 🎪 Gŵyl gymunedol dros wythnos o hyd ym mhentref y Felinheli, 26 Mehefin - 4 Gorffennaf 2026.

🎪 A week-long community festival in the village of Felinheli.

June 26 - July 4. 2026

Arbennig Gareth! Ysbrydoliaeth i bawb⚽✨Gareth is an inspiration to everyone⚽✨
28/10/2026

Arbennig Gareth! Ysbrydoliaeth i bawb⚽✨

Gareth is an inspiration to everyone⚽✨

⚽❤️ Heddiw, dwi am rannu stori ysbrydoledig un o fy etholwyr arbennig, Gareth Jones o’r Felinheli.

Ym mis Mehefin 2022, cafodd bywyd Gareth, plymar a thad i bump, ei droi ben i waered dros nos. Ar ôl dioddef ers wythnosau o ddiffyg anadl, cafodd Gareth ei daro’n ddifrifol wael. Roedd ei galon yn gweithio ar gapasiti o 10%, ac roedd angen trawsblaniad arno ar frys. Yn ffodus, daeth calon gan roddwr ar gael y diwrnod ar ôl iddo gael ei roi ar y rhestr aros. Ar ôl gwella, gweithiodd Gareth yn galed i adennill ei ffitrwydd ac ymunodd â Thîm Pêl-droed Trawsblaniad Cymru, gan deithio’n rheolaidd i dde Cymru i hyfforddi. Ar ôl cystadlu yng Nghwpan y Byd yn yr Eidal yn 2024, llwyddodd Gareth a’i gyd-chwaraewyr i ddod yn bedwerydd drwy’r byd yn yr Almaen eleni! Am gamp.

Diolch yn fawr iawn i deulu Gareth am dynnu fy sylw at ei stori ryfeddol.

⚽❤️ Today, I want to share the inspiring story of one of my fantastic constituents, Gareth Jones from Y Felinheli.

In June 2022, Gareth’s life changed overnight. A plumber and dad of five, he suddenly became seriously ill after weeks of struggling with breathlessness. His heart was working at just 10% capacity, and he urgently needed a transplant. Thankfully, a donor heart became available the day after he was placed on the waiting list. After his recovery, Gareth worked hard to regain his fitness and joined the Wales Transplant Football Team, travelling regularly to south Wales to train. After competing in the World Cup in Italy in 2024, Gareth and his teammates finished fourth in the world in Germany this year! An incredible achievement.

Thanks to Gareth’s family for bringing his amazing story to my attention. His determination is inspiring.

16/10/2026

❗CCB (AGM) Gŵyl y Felinheli | 28 Hydref/October | SHED am 7.30 📢

12/10/2026

Dewch i roi cynnig ar y Gymraeg!

Wyt ti eisiau ymarfer dy Gymraeg mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar?

Ymunwch â ni yn Llofft ar gyfer ein grŵp Dewch i Roi Gynnig ar y Gymraeg! Mae croeso i bawb, boed ti’n ddechreuwr neu eisiau magu hyder wrth siarad Cymraeg.

Dewch draw, cael sgwrs a chael hwyl gyda ni!

//

Give Welsh a Go!

Fancy practising your Welsh in a relaxed and friendly environment?

Come and join us at Llofft for our Give Welsh a Go group! Everyone is welcome, whether you're a complete beginner or just looking to build your confidence speaking Welsh.

Pop in, have a chat and give it a go!

12/10/2026

Karen ni! ❤✨🪄🎩

👇🏊‍♂️🌊
18/09/2026

👇🏊‍♂️🌊

Cefnogwch Eisteddfod y Felinheli drwy brynu tocyn i noson efo Pedair nos fory! 🤩
03/09/2026

Cefnogwch Eisteddfod y Felinheli drwy brynu tocyn i noson efo Pedair nos fory! 🤩

Noson yng nghwmni Pedair er budd Eisteddfod y Felinheli yn neuadd y pentref.

20/08/2026

Diolch am eich holl waith yn llunio gwefan newydd Gŵyl y Felinheli! ✨

Ydi’r felan eisteddfodol yn gafael? Peidiwch â phoeni! Mi fydd ’na ddarn bach o’r Steddfod yn dod i’r Felinheli ymhen je...
19/08/2026

Ydi’r felan eisteddfodol yn gafael? Peidiwch â phoeni! Mi fydd ’na ddarn bach o’r Steddfod yn dod i’r Felinheli ymhen jest dros bythefnos!

Mae tocynnau’n dal ar gael ar gyfer cyngerdd Peair yn y Neuadd Goffa! Manylion ar y digwyddiad Facebook!

Noson yng nghwmni Pedair er budd Eisteddfod y Felinheli yn neuadd y pentref.

Dyma grŵp sy'n dod â phedair o artistiaid gwerin amlycaf Cymru ynghyd: Siân James, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn a Meinir Gwilym. Bydd Pedair yn dod â’u cyfuniad unigryw o hen ganeuon gwerin a chaneuon gwreiddiol i awyrgylch braf Neuadd Goffa'r Felinheli. Mae holl fanylion y digwyddiad isod, ac mae tocynnau ar gael ar Eventbrite neu drwy law Osian Bonc.

👉 Neuadd Goffa’r Felinheli
👉 4 Medi, gyda'r drysau'n agor am 7pm
👉 Bydd bar ar y noson, dan ofal Pwyllgor Eisteddfod y Felinheli
👉 Nid oes parcio yn y Neuadd Goffa

https://www.eventbrite.co.uk/e/pedair-yn-y-felinheli-tickets-1990070329928?aff=oddtdtcreator

Address

Y Felinheli, Gwynedd, Cymru
Y Felinheli
LL564

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Gŵyl y Felinheli posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share

Nearby non profit organisations


Other Y Felinheli non profit organisations

Show All