Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy

Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy Mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn gydweithrediad sirol o bobl a sefydliadau o bob cefndir sy’n meddwl bod bwyd yn werth ei gymryd o ddifrif.

Tudalen i ledaenu’r gair am Bartneriaeth Bwyd Sir Fynwy ac adeiladu ein Mudiad Bwyd Da
To use our English-language page please go to https://www.facebook.com/facebook.commonmouthshirefoodpartnership Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio i greu system fwyd ffyniannus, foesegol a chynaliadwy o fewn y sir a thu hwnt. Nod Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yw:

• cysylltu pobl, prosiectau a phartneriaid sy'n ceis

io creu system fwyd leol gynaliadwy
• cymryd camau ar y cyd i lunio'r system fwyd leol
• bod yn llais cyfunol ar gyfer bwyd sy'n llywio polisi yn gadarnhaol ac yn rhannu arfer gorau

Mae hynny’n golygu ein bod yn cynnal prosiectau, yn ceisio ac yn dosbarthu cyllid, yn cysylltu pobl â’i gilydd, ac yn cynghori a chefnogi unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella ein system fwyd i ledaenu llawenydd a chariad at fwyd da. SIARTER FWYD: Y Sir Fynwy a Garem Ei Gweld

Bwyd Iachus i Bawb
• Bwyd maethlon, blasus sydd yn gyfeillgar i’r blaned ac sydd ar gael i bawb, nid oes ots beth yw eu hincwm
• Pawb yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i dyfu, paratoi coginio a bwyta bwyd da
• Nid oes neb yn dioddef o salwch sydd wedi ei achosi gan ddeiet gwael

Mudiad Bwyd Da
• Mae trigolion Sir Fynwy yn poeni am yr hyn y maent yn bwyta ac yn yfed, a sut y caiff ei baratoi
• Cymunedau yn dod at ei gilydd yn gyson drwy dyfu, paratoi a rhannu bwyd da
• Mae pobl leol yn teimlo eu bod wedi cysylltu gyda’r tir a’i gilydd drwy’r bwyd y maent yn prynu ac yn bwyta

Economi Bwyd Cynaliadwy
• Mae busnesau bwyd a diod sy’n gynaliadwy a’n foesol yn ffynnu drwy’r flwyddyn, gyda chefnogaeth gan drigolion parhaol ac ymwelwyr tymhorol
• Mae bwyd a ffermio yn cael eu hystyried fel llwybrau gyrfaol deniadol, yn cynnig gwaith a chyflogau teg
• Mae Sir Fynwy yn adnabyddus a’n cael ei pharchu am ansawdd a digonedd y cynnyrch

Bwyd i’r Blaned
• Mae ein tir yn cael ei reoli a’i ffermio’n gynaliadwy ac mae bioamrywiaeth yn ffynnu
• Mae pobl yn meddu ar wybodaeth gywrain er mwyn gwneud dewisiadau am fwyd sy’n gyfeillgar i’r blaned
• Mae gwastraff bwyd a phecynnu yn bethau sy’n perthyn i’r gorffennol

Os ydych yn rhannu ein gweledigaeth, Hoffwch a Dilynwch ein tudalen neu ewch ati i gysylltu gyda ni ar e-bost. Gyda'n gilydd byddwn yn adeiladu system fwyd gynaliadwy ar gyfer ein sir a thu hwnt.

Diwrnod Amgylchedd y Byd Hapus!Mae heddiw'n teimlo fel adeg da i ystyried y gwaith anhygoel sy'n digwydd ar draws Sir Fy...
05/06/2026

Diwrnod Amgylchedd y Byd Hapus!

Mae heddiw'n teimlo fel adeg da i ystyried y gwaith anhygoel sy'n digwydd ar draws Sir Fynwy i adeiladu system fwyd fwy cynaliadwy - a dathlu'r bobl a'r sefydliadau sy'n ei wireddu. Ar adeg pan mae’n teimlo na fu erioed gymaint o frys i sicrhau cysylltiad rhwng bwyd, tir a'r hinsawdd, mae'n galonogol gweld cymaint yn digwydd yma ar garreg ein drws.

O ffermwyr ar stadau ffermio gwledig Sir Fynwy sy'n archwilio arferion adfywiol ac yn gwella iechyd y pridd, i brosiectau tyfu cymunedol ar draws y sir, ysgolion sy'n gweini llysiau a gaiff ei tyfu yma yng Nghymru a phrosiectau bwyd cymunedol sy'n achub ac yn ailddosbarthu tunnelli o wastraff bwyd bob wythnos - mae cymaint i fod yn falch ohono yma.

Mae ein cymuned Talk Farm Regen Monmouthshire wedi tyfu - ffermwyr, tyfwyr a phobl sy'n caru bwyd yn rhannu gwybodaeth, cefnogaeth ac yn rhoi cynnig ar ddulliau newydd gyda'n gilydd. Ochr yn ochr â hyn, mae gwaith ehangach ar y gweill ar reoli llifogydd naturiol, adfer cynefinoedd a mwy - i gyd yn cysylltu'r dotiau rhwng bwyd da, tir iach ac economi leol wydn.

Mae llawer mwy ar y gweill hefyd - allwn ni ddim aros i'w rannu gyda chi…

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi a beth rydych chi'n ei wneud - gadewch sylw, anfonwch neges atom neu cysylltwch â: [email protected]



Llun o wyddau ar siop fferm Square gan Nanette Hepburn

Helo bawb. Neges gyflym gen i Elaine i adael i bawb ohonoch wybod y byddaf yn symud ymlaen o fy swydd gyda’r Bartneriaet...
01/06/2026

Helo bawb. Neges gyflym gen i Elaine i adael i bawb ohonoch wybod y byddaf yn symud ymlaen o fy swydd gyda’r Bartneriaeth Bwyd a’r cyngor. Rwyf wedi caru bob munud yn gweithio gyda phawb ohonoch. Fy niwrnod olaf yw dydd Gwener 5ed – o hyn ymlaen Sian Kidd fydd yng ngofal y dudlaen ac yn arwain y prosiect a hi fydd eich cyswllt. Rwyf ar LinkedIn os hoffai unrhyw un aros mewn cysylltiad – fe fyddwn wrth fy modd cael dal i wybod beth ydych chi yn ei wneud ac yn ei gyflawni dros Sir Fynwy. Cymerwch ofal ac rwy’n siŵr y byddwn yn gweld ein gilydd yn fuan. Elaine.

18/05/2026

📢Webinar TOMORROW📢

🥦The Lantra Wales Horticulture Team are organising an online discussion group focused on seed sourcing.

🌱Seed Sourcing in Welsh Horticulture: An Online Discussion🌱

💻ONLINE
📅19/5/26, 4pm-5pm

👇Sign up through the link below!👇

https://us02web.zoom.us/meeting/register/LRWmO1EHRPmKHRm3hKRTMQ

18/05/2026

Farming is the backbone of our communities - but it can also be one of the most isolating and high-pressure professions!

As part of , we’re highlighting the vital support available through Monmouthshire Rural Support Centre (MRSC), based at Livestock Market.

Farmers in Wales face significant challenges, including high levels of stress, anxiety, and depression driven by financial pressures, isolation, and unpredictable weather. The su***de rate within agriculture remains among the highest of any occupational group.

MRSC plays a key role in helping to reduce isolation and reconnect people with support services, offering advice across a range of issues and ensuring no one has to face these pressures alone 💚

MRSC supports the farming community across Monmouthshire and offers regular drop-ins with Mind in Gwent’s Rural Information, Advice and Assistance worker (Mondays and Wednesdays, 9–12.30).

These sessions provide practical support, guidance, and a listening ear to help improve the mental wellbeing of farmers and their families.

Mental Health Foundation Monmouthshire Monmouthshire County

13/05/2026

The training has been accredited by the Carbon Literacy Trust so that, by completing the course, you will become certified as Carbon Literate.

24/04/2026

Up to 60% Off & Free Delivery

13/04/2026

The next webinar in our working bioregionally series is on Wednesday 22nd April 1.30-3pm.

We will be joined by Nic MacPhail who is a regenerative business consultant, passionate about opportunities to regenerate rural areas – relocalising our food system, supporting rural communities, businesses and nature with new holistic approaches.

04/04/2026

Want to work with Cardiff, Torfaen, Monmouthshire or the Vale of Glamorgan Councils? The new Selling to the Council Guide is your roadmap on how to do business with us.
Visit https://www.eventbrite.co.uk/e/ardal-meet-the-buyer-event-tickets-1984285136258?aff=oddtdtcreator

Eisiau gweithio gyda Chynghorau Caerdydd, Torfaen, Sir Fynwy neu Bro Morgannwg? Y Canllaw Gwerthu i'r Cyngor newydd yw eich map ffordd ar wneud busnes gyda ni.
Ewch i https://www.eventbrite.co.uk/e/ardal-meet-the-buyer-event-tickets-1984285136258?aff=oddtdtcreator

02/04/2026

Address

Neuadd Y Sir, Y Rhadyr
Usk
NP151GA

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share