Theatr Fach Llangefni

Theatr Fach Llangefni 🎭 Cysgodion ydym : fel Cysgodion yr ymadawn 🎭

Theatr yng nghalon Ynys Môn

18/06/2026

🐭Parti Theatr : Llygoden y Llwyfan

Dewch i fwynhau bore o hwyl yn y theatr gyda’r awdures plant, Catrin Angharad Jones! 🌟

Dyma sesiwn addas i blant 4 i 7 oed sy’n mwynhau straeon, canu, dawnsio a pherfformio, dylunio neu fwyta danteithion!

Bydd cyfle i’r plant fwynhau llu o weithgareddau mewn awyrgylch hamddenol yng nghofal Catrin ac aelodau’r theatr. 🎭

Bydd rhaid cael oedolyn i oruchwylio pob plentyn ond bydd bar y theatr ar agor i rieni/gofalwyr a bydd cyfle i ymlacio ac archebu paned a theisen pe dymunir tra bo’r sesiwn ymlaen.

Bydd y plant yn derbyn diod a danteithion fel rhan o’r arlwy a chawn gloi’r cyfan drwy roi cyfle i’r plant berfformio caneuon cyfarwydd i’w rheini a gofalwyr yn yr awditoriwm.

Dyma gyfle unigryw i danio cariad ein plant at ddarllen, y theatr a’u cymuned.

Niferoedd cyfyngedig felly bachwch eich tocyn

🎟️ www.theatrfachllangefni.cymru/digwyddiadau
🗓️5 Gorffennaf - 10:00-12:30

Bradwrs - over and out! 🔥Diolch o galon i bawb ddaeth draw i Theatr Fach Llangefni i wylio Bradwrs yr wythnos ddiwethaf....
04/05/2026

Bradwrs - over and out! 🔥

Diolch o galon i bawb ddaeth draw i Theatr Fach Llangefni i wylio Bradwrs yr wythnos ddiwethaf.

Yr wythnosau o waith caled a gwirfoddol gan y cast a chriw i gyd wedi talu ar ei ganfed. Gobeithio fod pawb wedi mwynhau yn arw.

'Da ni'n edrych ymlaen at y sioe gomedi nesaf yn barod.

Diolch i Phil Hen am y lluniau, rhagor o luniau ar gael ar ein gwefan yma - https://www.theatrfachllangefni.cymru/bradwrs

Ambell docyn ychwanegol ar gael ar ein gwefan🎟️ www.theatrfachllangefni.cymru/digwyddiadau
27/04/2026

Ambell docyn ychwanegol ar gael ar ein gwefan

🎟️ www.theatrfachllangefni.cymru/digwyddiadau

🔥 SIOE GOMEDI - BRADWRS! 🔥

Dewch ar daith i Gastell Biwmares, i fyd o dwyll a brad!

A fydd ein ffyddloniaid yn llwyddo i gadw’r a***n o grafangau y Bradwrs?!

A fydd Clodia Wankleman yn llwyddo i gadw trefn ar bawb? 🤔

A phwy tybed fydd yn llwyddo i oroesi muriau brawychus a bradychus y castell tra bo’r bradwr cudd ar droed? 🏰

Amser a ddengys….ar “BRADWRS!”

🔞 Sioe yn llawn hwyl a hiwmor coch - yn cynnwys iaith gref a golygfeydd anaddas i rai dan 18 oed.

🗓️ Ebrill 29,30 & Mai 1,2
🎟️ www.theatrfachllangefni.cymru/digwyddiadau neu ar gael o siop Cain Llangefni

___

Welsh-language comedy show at Theatr Fach Llangefni (18+)

Dyluniad - Sïan Angharad

13/04/2026

🔥Os ydych wedi ffonio siop Cain i gadw tocynnau Bradwrs, a newch chi fynd i'w casglu cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda.

Diolch

SELL OWT! 😱Holl docynnau Bradwrs wedi gwerthu ar ein gwefan - diolch 🤩Llond llaw o docynnau ar gael o siop Cain yn unig ...
28/03/2026

SELL OWT! 😱

Holl docynnau Bradwrs wedi gwerthu ar ein gwefan - diolch 🤩

Llond llaw o docynnau ar gael o siop Cain yn unig bellach

Peidiwch â cholli allan - ewch i gael tocyn 🔥

28/03/2026

Diolch 🌟

Diolch i bawb sydd wedi prynu tocyn ar gyfer BRADWRS! 🔥

Mae sioe nos Wener ar y wefan bellach wedi gwerthu, a'r tocynnau ar gyfer y sioeau eraill yn brin iawn.

Cofiwch gael eich tocynnau chi mewn da bryd. Mae rhagor o docynnau hefyd ar gael o siop Cain yn Llangefni 🏰

🎟️ www.theatrfachllangefni.cymru/digwyddiadau

🔥 SIOE GOMEDI - BRADWRS! 🔥Dewch ar daith i Gastell Biwmares, i fyd o dwyll a brad!A fydd ein ffyddloniaid yn llwyddo i g...
27/03/2026

🔥 SIOE GOMEDI - BRADWRS! 🔥

Dewch ar daith i Gastell Biwmares, i fyd o dwyll a brad!

A fydd ein ffyddloniaid yn llwyddo i gadw’r a***n o grafangau y Bradwrs?!

A fydd Clodia Wankleman yn llwyddo i gadw trefn ar bawb? 🤔

A phwy tybed fydd yn llwyddo i oroesi muriau brawychus a bradychus y castell tra bo’r bradwr cudd ar droed? 🏰

Amser a ddengys….ar “BRADWRS!”

🔞 Sioe yn llawn hwyl a hiwmor coch - yn cynnwys iaith gref a golygfeydd anaddas i rai dan 18 oed.

🗓️ Ebrill 29,30 & Mai 1,2
🎟️ www.theatrfachllangefni.cymru/digwyddiadau neu ar gael o siop Cain Llangefni

___

Welsh-language comedy show at Theatr Fach Llangefni (18+)

Dyluniad - Sïan Angharad

🤣 Pwy sy'n barod am laff?Sioe gomedi newydd sbon - yn Theatr Fach Llangefni yn fuan iawn 👀Cadwch lygad allan ar ein cyfr...
26/03/2026

🤣 Pwy sy'n barod am laff?

Sioe gomedi newydd sbon - yn Theatr Fach Llangefni yn fuan iawn 👀

Cadwch lygad allan ar ein cyfryngau cymdeithasol nos fory am 7 o'r gloch am yr holl fanylion a sut i brynu tocynnau 🔥

(Ddim yn addas i rai dan 18 oed)

Address

Theatr Fach Llangefni
Llangefni
LL777LA

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Theatr Fach Llangefni posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Theatr Fach Llangefni:

Share