01/11/2026
Every Saturday, PSAber holds a fundraising stall to help support three families in Gaza. This is our priority campaign.
This week, we were joined by a member of Women in Black Aberystwyth and a member of both student societies, Star and Amnesty. Thank you so much for your hard work and solidarity.
Thank you to everyone who donated. The money we raise makes a difference, but unfortunately, it is nowhere near enough to cover the cost of the essentials our friends in Gaza need each week.
We speak and video-call the families regularly. Over time, they have become our dear friends. We see first-hand how practical financial support is needs to help them survive a genocide. These calls are about more than verification or checking that donations reach their destination. They create a mutual connection, offer a little sense of normality and hope, and remind us of the real people behind the statistics.
It breaks our hearts that we cannot help more people. But we hope that by sharing these posts, we will inspire other individuals and groups to build direct relationships with families in Gaza and support them in whatever ways they can.
The borders remain closed, food prices are extraordinarily high and famine has returned to Gaza. Aid agencies are doing their best, but they cannot provide everything people need. Despite the devastation, trade continues in Gaza, and families are forced to find money for the most basic necessities.
This week:
Mousa had to buy oxygen for his sick father, as well as food for his family.
Fares, the eldest son in a family of 13, eight of whom are children, has had to pay rent. They all urgently need warm blankets to get through the winter.
Ziad and Lulu have only been able to pay half their rent and desperately need medication, particularly for Lulu, who is struggling with her pregnancy.
These are not abstract needs or statistics. They are the everyday realities of people we know and care about.
Please donate to families in Gaza. They desperately need our practical solidarity.
Donation links are in the link section at the top of our page.
________
Bob dydd Sadwrn, mae PSAber yn cynnal stondin codi a***n i helpu tri theulu yn Gaza. Dyma ein hymgyrch flaenoriaeth.
Yr wythnos hon, ymunodd aelod o Women in Black Aberystwyth ac aelod o’r ddwy gymdeithas fyfyrwyr, Star ac Amnesty, â ni. Diolch yn fawr iawn i chi am eich gwaith caled a’ch cydsefyll.
Diolch i bawb a gyfrannodd. Mae’r a***n rydym yn ei godi yn gwneud gwahaniaeth, ond yn anffodus, mae ymhell o fod yn ddigon i dalu am gost yr hanfodion sydd eu hangen ar ein ffrindiau yn Gaza bob wythnos.
Rydym yn siarad â’r teuluoedd ac yn cynnal galwadau fideo gyda nhw’n rheolaidd. Dros amser, maent wedi dod yn ffrindiau annwyl i ni. Rydym yn gweld drostom ein hunain pa mor bwysig yw cymorth a***nnol ymarferol i’w helpu i oroesi hil-laddiad. Mae’r galwadau hyn yn ymwneud â llawer mwy na dilysu neu wirio bod y rhoddion yn cyrraedd eu cyrchfan. Maent yn creu cysylltiad rhwng y naill ochr a’r llall, yn cynnig ychydig o ymdeimlad o normalrwydd a gobaith, ac yn ein hatgoffa o’r bobl go iawn y tu ôl i’r ystadegau.
Mae’n torri ein calonnau na allwn helpu mwy o bobl. Ond rydym yn gobeithio y bydd rhannu’r negeseuon hyn yn ysbrydoli unigolion a grwpiau eraill i feithrin perthynas uniongyrchol â theuluoedd yn Gaza a’u cefnogi ym mha bynnag ffordd y gallant.
Mae’r ffiniau’n parhau ar gau, mae prisiau bwyd yn eithriadol o uchel ac mae newyn difrifol wedi dychwelyd i Gaza. Mae asiantaethau cymorth yn gwneud eu gorau, ond ni allant ddarparu popeth sydd ei angen ar bobl. Er gwaethaf y dinistr, mae masnach yn parhau yn Gaza, ac mae teuluoedd yn cael eu gorfodi i ddod o hyd i a***n i dalu am yr angenrheidiau mwyaf sylfaenol.
Yr wythnos hon:
Bu’n rhaid i Mousa brynu ocsigen i’w dad sy’n sâl, yn ogystal â bwyd i’w deulu.
Mae Fares, mab hynaf teulu o 13, ac wyth ohonynt yn blant, wedi gorfod talu rhent. Mae angen blancedi cynnes ar bob un ohonynt ar frys i’w helpu i ymdopi â’r gaeaf.
Dim ond hanner eu rhent y mae Ziad a Lulu wedi gallu ei dalu, ac mae dirfawr angen meddyginiaeth arnynt, yn enwedig Lulu, sy’n cael trafferth gyda’i beichiogrwydd.
Nid anghenion haniaethol nac ystadegau mo’r rhain. Dyma realiti bob dydd pobl rydym yn eu hadnabod ac yn gofalu amdanynt.
Os gwelwch yn dda, cyfrannwch i helpu teuluoedd yn Gaza. Mae gwir angen ein cydsefyll ymarferol arnynt.
Mae’r dolenni cyfrannu i’w gweld yn yr adran dolenni ar frig ein tudalen.