Cymraeg - Coleg Sir Benfro

Cymraeg - Coleg Sir Benfro Contact information, map and directions, contact form, opening hours, services, ratings, photos, videos and announcements from Cymraeg - Coleg Sir Benfro, Community Service, MErlins Bridge, Haverfordwest.

Llongyfarchiadau i Hanna, sydd wedi ennill Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a g...
18/06/2026

Llongyfarchiadau i Hanna, sydd wedi ennill Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a gyflwynwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, ym Mae Caerdydd.

Mae Hanna yn brentis NHS a Llysgennad y Gymraeg ac yn gweithio fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd ar ward dementia Cadog yn Ysbyty Glangwili, lle mae hi'n defnyddio ei Chymraeg bob dydd i gefnogi cleifion ac annog ei chydweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg hefyd. Mae’r wobr hon yn cydnabod ymdrechion, ymrwymiad ac angerdd Hanna dros y Gymraeg ym maes iechyd a gofal.

Cyflawniad gwych a haeddiannol iawn Hanna – llongyfarchiadau mawr i ti 👏

Bu myfyrwyr Lefel 3 Gofal Plant Coleg Sir Benfro mewn cynhadledd ‘Gofal Plant a’r Gymraeg’ heddiw yn yr Haliwell, Y Drin...
10/06/2026

Bu myfyrwyr Lefel 3 Gofal Plant Coleg Sir Benfro mewn cynhadledd ‘Gofal Plant a’r Gymraeg’ heddiw yn yr Haliwell, Y Drindod Dewi Sant. Roedd y diwrnod yn cynnwys gweithdai llawn hwyl, yn cynnwys chwarae a natur yn y blynyddoedd cynnar, ynghyd â chanu a gemau’r buarth i ddatblygu iaith. Fe wnaeth y myfyrwyr adael gyda syniadau a hyder i ddefnyddio’u Cymraeg yn eu lleoliadau gwaith.

Diolch yn fawr i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ariannu’r gynhadledd ac i Brifysgol Y Drindod Dewi Sant am y croeso.

Gair y dydd - Balchder. Mor falch o’r holl ddysgwyr gymerodd rhan yn yr Urdd. I’r rhai a lwyddodd llongyfarchiadau. I’r ...
01/06/2026

Gair y dydd - Balchder. Mor falch o’r holl ddysgwyr gymerodd rhan yn yr Urdd. I’r rhai a lwyddodd llongyfarchiadau. I’r rhai na gafodd fedal tro hyn.. ma wastad blwyddyn nesaf - Eisteddfod Bro’r Wenynwen Eisteddfod Yr Urdd Coleg Sir Benfro

Mae Coleg Sir Benfro yn cefnogi Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2026 yr Urdd. Mae’r neges eleni yn canolbwyntio ar Ieithoedd...
19/05/2026

Mae Coleg Sir Benfro yn cefnogi Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2026 yr Urdd. Mae’r neges eleni yn canolbwyntio ar Ieithoedd Lleiafrifol gan annog pobl ar draws y byd eu gwerthfawrogi, eu dysgu a’u defnyddio.

Cafodd y neges ei hsgrifennu gan y bardd Marged Tudur, myfyrwyr Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, Coleg Cambria, a Phrifysgol Wrecsam. Diolch iddyn nhw am neges mor bwysig a phwerus.

Dyma ddolen i’r neges: https://www.youtube.com/watch?v=qT0fsFzQbb0

‘Ieithoedd Lleiafrifol’ yw thema Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2026 yr Urdd. Ysgrifennwyd y neges gan y bardd Marged Tudur, myfyrwyr Ysgol Morgan Llwyd yn Wrec...

Ar gyfer ein sesiwn Cyrchfannau Creadigol (Creative Destinations) olaf y flwyddyn, roedd hi’n bleser croesawu Pennaeth G...
06/05/2026

Ar gyfer ein sesiwn Cyrchfannau Creadigol (Creative Destinations) olaf y flwyddyn, roedd hi’n bleser croesawu Pennaeth Gweithrediadau a Chynhyrchu yr Eisteddfod Genedlaethol, Angharad Mair Davies a’i chydweithiwr Gruff, i siarad â'n myfyrwyr Creadigol. Fe wnaethon nhw rannu mewnwelediad i redeg gŵyl deithiol fwyaf Ewrop, sef yr Eisteddfod, taith yrfa y ddau, a’r cyfleoedd gwaith sydd ar gael i fyfyrwyr. Cymerodd y myfyrwyr ran hefyd mewn tasg hwyliog i gynllunio'u gŵyl 8 diwrnod eu hunain.

Sesiwn hynod addysgiadol, pleserus ac amserol iawn gyda llai na chan diwrnod i fynd cyn Eisteddfod y Garreg Las!

Diolch yn fawr iawn i Angharad a Gruff am eich amser i ddod i siarad â’n myfyrwyr.

Braf oedd gallu dathlu talent ein dysgwyr yr wythnos hon yn Eisteddfod Coleg Sir Benfro, gyda Daniel, myfyriwr Lefel 3 Y...
01/05/2026

Braf oedd gallu dathlu talent ein dysgwyr yr wythnos hon yn Eisteddfod Coleg Sir Benfro, gyda Daniel, myfyriwr Lefel 3 Y Cyfryngau Creadigol yn ennill y Gadair a Sasha, myfyriwr Lefel 1 Celf yn ennill y Goron.

Roedd hi’n gyfle gwych hefyd i gyflwyno tystysgrifau rhanbarthol Eisteddfod yr Urdd i’r myfyrwyr llwyddiannus. Enillodd 16 naill ai’r 1af, 2il neu’r 3ydd am eu gwaith celf a dylunio ac mae 13 yn mynd i’r Genedlaethol ym mis Mai. Rhagorol pawb a phob lwc ym Môn!

Diolch yn fawr hefyd i Barry ac Eva am lywio ein seremoni a chymryd rôl yr ‘Archdderwydd’ yn eu tro a hynny’n urddasol iawn!

Diolch yn fawr i'n dau Lysgennad y Gymraeg, Owain a Lili am fod wrth y Stondin Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg gyda'r Tîm Cymr...
27/04/2026

Diolch yn fawr i'n dau Lysgennad y Gymraeg, Owain a Lili am fod wrth y Stondin Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg gyda'r Tîm Cymraeg yn noson agored y Coleg wythnos diwetha. Fe wnaethon nhw waith gwych yn rhedeg y stondin.

Mor falch o’n dysgwyr yn manteision ar eu cyfle gan yr Urdd Gobaith Cymru yn yr Hysting. Diwrnod llwyddiannus iawn. Cewc...
19/03/2026

Mor falch o’n dysgwyr yn manteision ar eu cyfle gan yr Urdd Gobaith Cymru yn yr Hysting. Diwrnod llwyddiannus iawn. Cewch weld heno yn Pawb a'i Farn ar S4C am 9

Bore gwerth chweil yng Ngoleg Caerxydd a'r Fro ar y Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd Cymraeg Gwaith. Roedd cyfle i wrando ar Helen...
19/03/2026

Bore gwerth chweil yng Ngoleg Caerxydd a'r Fro ar y Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd Cymraeg Gwaith. Roedd cyfle i wrando ar Helen Prosser yn trafod Stormydd Geirfa a Iaith, cyn trafod llwyddiant a heriau'r cynllun yn yr holl golegau. Mor braf cyfarfod â'r tiwtoriaid eraill unwaith eto

Bore gwleidyddol yn parhau, esbonio’r system newydd a’r etholiad ansicr. A gweithdy diddorol am flaenoriaethu, cyfaddawd...
19/03/2026

Bore gwleidyddol yn parhau, esbonio’r system newydd a’r etholiad ansicr. A gweithdy diddorol am flaenoriaethu, cyfaddawdu a chydweithio. Hwn cyn prynhawn yn holi’r gwleidyddion.. cewch chi weld hynny heno ar Pawb a'i Farn ar S4C am 9.

Address

MErlins Bridge
Haverfordwest
SA612RL

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cymraeg - Coleg Sir Benfro posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Cymraeg - Coleg Sir Benfro:

Share