12/10/2026
BILINGUAL POST/NEGES DWYIEITHOG
Rydym yn diolch o galon i teulu a ffrindiau y diweddar Mrs Eira Jones am eu rhoddion hael iawn tuag at gwaith Gofal Dydd er cof amdani. Roedd Eira Jones mor gefnogol ini o'r cychwyn a tyfodd y cysylltiad pan ddaeth ei nith Eurgain atom a gan mae Anti Eira oedd y teulu yn ei galw - dyna beth oeddem ni yn ei galw hefyd. Roedd Anti Eira yn berson arbennig iawn - er iddi cael salwch dwys pan yn blentyn a treulio cyfnodau hir iawn mewn ysbyty a hefyd y tristwch enfawr o golli ei gwr yn ifanc, roedd yn edrych ar y byd a phawb ynddo, trwy llygaid ofalgar a chalon llawn cariad. Wedi hyfforddi fel athrawes cafodd swydd yn Ysgol Pant Pastynog a ddaeth yn Bennaeth - roedd yn meddwl y byd o'r Ysgol a'r holl ddisgyblion bu iddi ddysgu ac yn eu cofio i gyd. Os oedd un o'r athrawon yr oedd wedi hyfforddi gyda neu un o'i cyn-ddisgyblion yn dod atom i Ofal Dydd bydde siwr o anfon nodyn yn son am ei hatgofion a pa mor arbennig yr oeddent iddi. Pan bu ini ail agor wedi y cyfnod clo cynta, cyn i neb cael eu brechu a pan oedd pawb mor ansicr, anfonodd cerdyn i ddweud pa mor bwysig yr oedd i rhai oedd yn gaeth i'w cartrefi gael dod atom fel rywle ddiogel ac ini gwneud yn siwr ein bod yn dal ati - cerdyn oedd yn golygu gymaint ini gyd. Cafodd ofal arbennig iawn gan ei theulu estyngedig yn ystod y blynyddoedd diweithaf a chael parhau i fyw gartref. Diolch Anti Eira am eich holl garedigrwydd ac am ein cefnogi yng Ngofal Dydd a cefnogi cannoedd o ffrindiau a chydnabod mewn adegau o tristwch a llawenydd.
We are so very grateful to the family and friends of Mrs Eira Jones for their very kind and generous donations in her memory towards the work of Gofal Dydd. Eira Jones was supportive since we opened and when her niece Eurgain started attending Gofal Dydd, we all started calling her Anti Eira as that was how she was known to all. Anti Eira was a very special person - despite a serious illness as a child that meant very long periods of time in hospital and the huge sadness of losing her husband at a young age, she looked at the world and all within it with caring eyes and a heart full of love. After training as a teacher she started her career at Ysgol Pant Pastynog and became the Headteacher. She thought so much of the school and all the pupils she taught and remembered them all and when we had some of her fellow teacher training friends or some of her former pupils at Gofal Dydd she always wrote a note sharing her memories and how special they were to her. When we re-opened after the first lockdown, when nobody had been vaccinated and everyone felt very anxious, we received a card from her to say how important it was that those who could not leave their homes could come to us as a safe place and for us to carry on - a card that meant so much. She received wonderful care and support from her extended family over the last few years that allowed her to manage at home . Thank you Anti Eira for all your kindness and support to us through the years and for all you gave to so many others during both sad and happy times.