06/03/2026
DARLITH ZŴM MIS MAWRTH
Darlith nesaf yr Archif fydd ‘The Diary of Amy Dillwyn: editing a Victorian life’ gan yr Athro Kirsti Bohata i'w chynnal ar Ddydd Mercher 18fed Mawrth am 4 o’r gloch.
Roedd y nofelydd, yr ymgyrchydd a’r ddiwydiannwraig Amy Dillwyn, yn cadw dyddlyfr o 17 mlwydd oed tan ei bod bron yn 30 oed. Mae dyddlyfrau teithio diweddarach a chofnodion dyddlyfrau achlysurol eraill yn taflu goleuni pellach ar agweddau allweddol o’i bywyd, gan gynnwys ei gyrfa ddiwydiannol ryfeddol.
Wedi eu hysgrifennu gyda hiwmor hunan-fychanol, mae’r dyddiaduron yn cynnig cipolwg prin o fywyd y dosbarth canol-uwch yn ne Cymru a Llundain. Yn bwysicach, ac yn anarferol, cofnododd Amy Dillwyn rai o’i meddyliau a’i theimladau dyfnaf am ei hymdrechion yn fenyw ifanc yn dod i oed yng Nghymru ganol oes Victoria. Gwelwn bentrefwyr glofaol a’u plant trwy lygaid difrif, ond dryslyd droeon, menyw yn ceisio cael hyd i bwrpas i’w bywyd, ei chyffro a’i rhwystredigaeth gyda chymdeithas ffasiynol Llundain, a thystiwn i drybestod ei theimladau angerddol am ei ‘bien aimée’, Olive. Yn ddiweddarach, ymglywn â rhwystredigaeth Amy gyda’i hiechyd brau a’i hynni adnewyddol yn fenyw fusnes a ffeminydd.
Bydd y sgwrs hon yn cynnig blas o’r dyddiaduron a’r bywyd rhyfeddol a groniclir ynddynt a bydd yn trafod y broses o dalfyrru a golygu bron i hanner miliwn o eiriau i’w cyhoeddi. Cyhoeddwyd The Diary of Amy Dillwyn, 1863-1917 gan Gymdeithas Gofnodion De Cymru yn 2025 https://www.southwalesrecordsociety.co.uk/37.htm
Mae Kirsti Bohata yn Athro Llenyddiaeth Saesneg a chyd-Gyfarwyddwr CREW, Canolfan Ymchwil i Lenyddiaeth Saesneg ac Iaith Cymru, Prifysgol Abertawe. Mae hi’n awdur sawl traethawd ar ffuglen Amy Dillwyn, ac mae wedi cyhoeddi yn ehangach am awduron Cymreig sy’n ysgrifennu yn Saesneg. Ymhlith ei llyfrau diweddar mae cyfrol o straeon byrion, ar y cyd â Mihangel Morgan a Huw Osborne, Q***r Square Mile: Q***r Short Stories from Wales (Parthian, 2022) sy’n cynnwys un o storïau Amy Dillwyn, a chyd-awduro llyfr, gydag Alexandra Jones, Mike Mantin a Steven Thompson, Disability in Industrial Britain: A cultural and literary history of impairment in British coalfields 1880-1948 (Gwasg Prifysgol Manceinion, 2020).
I archebu dolen [erbyn dydd Llun 16eg Mawrth] e-bostiwch [email protected] os gwelwch yn dda.
[Nodwch os gwelwch yn dda na chaiff y ddarlith hon ei recordio]