Mae'r CIWA yn Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO yn Saesneg). Mae prif swyddfa yn Abertawe. [Gweler isod am y Gymraeg]
Chinese In Wales Association (CIWA) was set up in 2017 as a charitable organisation to meet the changing needs due to the demography transition of Chinese community in Wales. With a new vision and new team, it replaced Swansea Chinese Community Co-op Centre, which had 20 years history for serving for the Chinese ethnic residents in Swansea, to continue and expand the vital support services to people living in Wales. CIWA aims to promote social inclusion for the public benefit by working with people in Wales who are socially excluded on the grounds of their ethnic origin, age, disability, ill health, poverty and other personal circumstances, in particular members of the Chinese community, to relieve the needs of such people and assist them to integrate into society, in particular by:
· Promoting community cohesion, both within the ethnic Chinese community and the wider community;
· Delivering to and representing the Chinese community including disabled people, children and young people as well as elderly people, in planning and service delivery to ensure their wider well-being;
· Supporting members of the ethnic Chinese community facing disadvantage to address the inequalities that they face and participate fully in society;
· Promoting both Chinese and Welsh cultures and heritage;
· Progressing any other activities that promote the community development, health, well-being, welfare and art;
· Having due regard to the provisions of the Equality Act. Cymraeg:
Mae’r Cymdeithas Tsieiniaidd Yng Nghymru (Chinese in Wales Association, CIWA) yn sefydliad elusennol sydd â’r nod o ddarparu gwasanaethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau preswylwyr Tsieineaidd ethnig yng Nghymru. Sefydlwyd CIWA i ddiwallu anghenion demograffig cyfnewidiol y gymuned Tsieineaidd yng Nghymru. Rydym yn adeiladu ar y gefnogaeth a roddwyd gan y Swansea Chinese Community Co-op Centre dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nawr mae CIWA yn datblygu gwasanaethau gwell i ddiwallu anghenion cyfnewidiol y gymuned Tsieineaidd yn Abertawe a’r cyffiniau. Ein nod yw dod â’n gwasanaethau a sgiliau adeiladu cymunedau i Gymru gyfan. Mae pencadlys CIWA yn Abertawe. Mae gennym ganolfan galw heibio yn Theatr y Grand, Abertawe. Mae’r ganolfan yn darparu gwasanaethau craidd megis gwasanaethau ieithyddol mewn Mandarin, Cantoneg, tafodiaith Fujiaidd a Saesneg, ynghyd â gwasanaethau eiriolaeth, gwybodaeth ac atgyfeirio achosion. Rydym yn darparu cyngor ar les lleol, tai, gofal iechyd, addysg a chyflogaeth hyd eithaf ein gwybodaeth. Rydym hefyd yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol ac addysgol, yn ogystal â hyrwyddo cymdeithas amrywiol ac amlddiwylliannol. Nod y sefydliad yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau preswylwyr Tsieineaidd ethnig yng Nghymru trwy:
Hyrwyddo cydlyniant cymunedol, o fewn y gymuned Tsieineaidd ethnig a’r gymuned ehangach. Darparu ar gyfer, a chynrychioli’r gymuned Tsieineaidd gan gynnwys pobl anabl, plant, pobl ifanc yn ogystal â phobl hŷn. Gan gynnwys cynllunio a darparu gwasanaethau er mwyn sicrhau eu lles cyflawn. Cefnogi aelodau o’r gymuned Tsieineaidd ethnig sy’n wynebu anfantais i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n eu hwynebu a’u galluogi i gymryd rhan gyflawn yn y gymdeithas. Hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Tsieineaidd a Chymraeg i archwilio a hybu cyfnewid diwylliannol rhwng y ddwy gymuned. Datblygu unrhyw weithgareddau eraill sy’n hyrwyddo iechyd, lles, celfyddyd a diwylliant trigolion Tsieineaidd ethnig yng Nghymru. Rhoi sylw dyledus i ddarpariaethau’r Ddeddf Cydraddoldeb.