Plas yn Rhiw NT/YG

Plas yn Rhiw NT/YG Plasdy bychan efo gardd addurnol hardd ym Mhen Llŷn
A small mansion with a beautiful landscaped garden on the Llŷn Peninsula

Yn eistedd yn uchel uwchben Bae Ceredigion a Phorth Neigwl. Achubwyd y tŷ rhag dadfeilio gan y chwiorydd Keating yn ystod y 30au. Roedd ei leoliad hardd a'r ardd ogoneddus yn ysbrydoliaeth i baentiadau tirlun enwog Honor Keating. Sitting high above Cardigan Bay and Hell's Mouth. The house was rescued from dereliction by the Keating sisters during the 1930s. Its beautiful setting and glorious garden provided the inspiration for Honor Keating's renowned landscape paintings.

Llwybr Peilliwr yn ystod hanner tymor Mai | Pollinator Trail during May half term***Mae'r Llwybr Peilliwr yn rhedeg drwy...
26/05/2026

Llwybr Peilliwr yn ystod hanner tymor Mai | Pollinator Trail during May half term

***

Mae'r Llwybr Peilliwr yn rhedeg drwy'r gwyliau hanner tymor mis Mai ym Mhlas yn Rhiw. Bydd y llwybr hunan-arweiniol hwn yn mynd â chi ar antur o amgylch y ddôl ac yn cynnwys llwybr o amgylch yr ardd, y goedwig a’r berllan. 🐝

Byddwch yn cael taflen o'r Dderbynfa Ymwelwyr ac yn dod yn fforwyr yn chwilio am wybodaeth am wahanol beillwyr i gyd. Cewch weld y wybodaeth wedi'i gwasgaru ar hyd y ffordd sydd yno i’ch helpu i ateb y cwestiynau. Dewch draw i fwynhau antur o gwmpas ardd a'r eiddo!

Mae Plas yn Rhiw ar agor 27, 28, 30 a 31 Mai, o 10.30yb hyd at 4yp at diwedd wythnos hanner tymor.

https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/plas-yn-rhiw/diwrnod-allan-ir-teulu-ym-mhlas-yn-rhiw

***
The bug-tastic Pollinator Trail is back during May half term week here at Plas yn Rhiw. This self-led trail will take you on a meadow adventure and also around a path in the garden, forest and orchard. 🐝

You'll be given a sheet of questions to head out and discover the answers for, becoming pollinator explorers whilst on the lookout for information and interesting facts all about them. Information will be scattered around the garden on boards that will help you answer all the questions. Come along to enjoy a late spring adventure through the garden and surrounding estate!

Plas yn Rhiw will be open 27, 28 30 and 31 May, from 10.30am until 4pm, during the end of half term week.

https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/plas-yn-rhiw/family-days-out-in-plas-yn-rhiw

***

Gwaith Adfer yn parhau yn y ty | Restoration work continues in the house  *** Mae'r tŷ ym Mhlas yn Rhiw yn mynd trwy wai...
09/05/2026

Gwaith Adfer yn parhau yn y ty | Restoration work continues in the house

***

Mae'r tŷ ym Mhlas yn Rhiw yn mynd trwy waith cadwraeth ac adfer helaeth ar hyn o bryd i ddiogelu ei ddyfodol. Mae’r prosiect hwn yn mynd i’r afael ag anghenion strwythurol a chadwedigaeth allweddol, gan sicrhau cynaliadwyedd hirdymor Plas yn Rhiw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae'r gwaith yma sydd wedi dechrau yn cynnwys atgyfnerthu'r ystafelloedd ar y llawr cyntaf a'r llawr uchaf gyda chynhalbyst dur, gosod distiau newydd i ddisodli'r rhai sydd wedi'u difrodi ac adnewyddu estyll y lloriau. Gyda'r lloriau wedi'u codi, bydd yr eiddo hefyd yn cael uwchraddio ei system drydanol, yn cynnwys y systemau tân a diogelwch.

Yn y cyfamser, bydd casgliadau, yn cynnwys dodrefn, tecstilau a serameg - sydd wedi'u storio'n ofalus yn ystod y cyfnod cau - yn cael eu hasesu a gwaith cadwraeth yn cael ei wneud arnynt lle bo angen yn barod ar gyfer eu dychwelyd i'w harddangos.

Er bod y tŷ ar gau fel mae’r gwaith ymlaen, mae’r ardd yn edrych yn fendigedig yn ystod y gwanwyn. Fel mae’r clychau’r gog yn dod at y diwedd, mae’r holl arddangosfa o’r lliwiau’r gwanwyn wrthi’n llenwi’r synhwyrau i gyd.

Cynlluniwch eich ymweliad ar ein gwefan yma; https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/plas-yn-rhiw

***

The house at Plas yn Rhiw is currently undergoing extensive conservation and restoration work to safeguard its future. This project addresses key structural, and preservation needs, ensuring the long-term sustainability of Plas yn Rhiw for future generations.

The current work already underway includes reinforcing first and upper floor rooms with steel supports, replacing damaged joists and restoring floorboards. With the floors lifted, the property will also undergo electrical upgrades including both fire and security systems.

Meanwhile, collections including furniture, textiles and ceramics - safely stored during the closure - will be assessed and conserved where needed in preparation for their future return to display.

Although the house is closed for this work to take place, the garden is open and looking spectacular in all its spring glory. The bluebells are slowly coming to an end for another year, but with a whole array of spring colour to enjoy, there’s plenty to fill the senses.

Plan your spring visit over on our webpage here; https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/plas-yn-rhiw

Gwylio’r glas ym Mhlas yn Rhiw | Beautiful blues at Plas yn Rhiw  *** Mae hi’n amser yno eto – i fwynhau’r persawr a’r g...
29/04/2026

Gwylio’r glas ym Mhlas yn Rhiw | Beautiful blues at Plas yn Rhiw

***

Mae hi’n amser yno eto – i fwynhau’r persawr a’r glas ysbrydoledig y clychau’r gog sy’n llenwi’r goedwig a’r parcdir ym Mhlas yn Rhiw. Ymgollwch yn yr arddangosfa ryfeddol o glychau'r gog sy'n garpedi’r llawr y coetir, a'r briallu melyn llachar sy’n cynnig sblash bach o haul yn y canol.

Mae’r ardd, parcdir a’r ystafell te ar agor dydd Mercher, Iau, Sadwrn a Sul. Hefyd ar agor am y ddau Ddydd Llun Gŵyl y Banc mis Mai. Oriau agor i gyd a mwy o fanylion drosodd ar ein gwefan.

https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/plas-yn-rhiw

***

It’s that time again – time to enjoy the perfumed air and inspiring views of the bluebells that fill the surrounding woodland here at Plas yn Rhiw. Find a bench to bask amid the display of bluebells that carpet the woodland floor, with the unmistakable yellow dazzle of primroses offering a gentle splash of sunshine.

Garden, parkland and tearoom open Wednesday, Thursday, Saturday and Sunday. Also open for both May Bank Holiday Mondays. See all opening times and details over on our website.

https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/plas-yn-rhiw

Ystafell De Plas yn Rhiw Tea Room

Rydym yn recriwtio! - Aelod o'r tim Croeso a GwasanaethWe're recruiting! - Welcome and Service Team member***Gan weithio...
22/04/2026

Rydym yn recriwtio! - Aelod o'r tim Croeso a Gwasanaeth

We're recruiting! - Welcome and Service Team member

***

Gan weithio mewn awyrgylch prysur fel rhan o dîm angerddol, mae'r rôl hon fel Aelod o’r Tim Croesawu a Gwasanaeth yn chwarae rhan greiddiol wrth ddarparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid i gyd. Yn y rôl hon byddwch yn croesawu ymwelwyr i Blas yn Rhiw.

Mae hon yn rôl cyfnod penodol i weithio 28 awr yr wythnos tan y 1af o Dachwedd 2026. Rydym yn ddelfrydol yn chwilio am rywun i weithio yn ystod ein horiau craidd o 10am-5pm ar ddydd Mercher, dydd Iau, dydd Sadwrn a dydd Sul gyda dyddiau ychwanegol ar gyfer hyfforddiant a gwyliau banc.
Dyddiad cau 3 May. Rhif IRC174692.

Am fwy o wybodaeth ac I ymgeisio arlein - https://careers.nationaltrust.org.uk/OA_HTML/a/ #/vacancy-detail/174692

***

Working within a bustling atmosphere as part of a passionate team at Plas yn Rhiw, this role as a Welcome & Service Team Member plays an important part in providing fantastic customer service, welcoming visitors to Plas yn Rhiw.

It's a fixed term role, 28 hours per week until the 1st of November 2026. We’re ideally looking for someone to work during our core hours of 10am-5pm on Wednesday, Thursday, Saturday and Sunday with additional days to cover training and bank holidays.
Closing date 3 May. Reference number IRC174692.

To find out more about the role and to apply online, head over to-https://careers.nationaltrust.org.uk/OA_HTML/a/ #/vacancy-detail/174692

Tamaid o’r nefoedd i’w ddarganfod ym Mhen Llŷn | A slice of heaven to discover in Pen Llŷn 🌊****Chwilio am ffordd i ymla...
17/04/2026

Tamaid o’r nefoedd i’w ddarganfod ym Mhen Llŷn | A slice of heaven to discover in Pen Llŷn 🌊

****

Chwilio am ffordd i ymlacio dros y penwythnos? Ewch am dro i Penrhyn Llŷn lle mae gerddi Plas yn Rhiw NT/YG yn cynnig afallon heddychlon ar Ddydd Mercher, Dydd Iau, Dydd Sadwrn a Sul.

Mae’r ardd, sy’n mwynhau golygfeydd godidog dros yr arfordir, yn llawn lliwiau’r gwanwyn ar hyn o bryd, gyda camellias, rhododendron ac asaleas yn eu blodau yn yr ardd, tegeirianau brith cyffredin yn blodeuo yn y berllan a’r coetir yn garped o glychau'r gog.

Ewch draw i’r ddolen yn y sylwadau i gynllunio eich ymweliad.

****

Looking for a way to switch off over the weekend? Head to the Llŷn Peninsula where the gardens at Plas yn Rhiw NT/YG offer a peaceful haven on Wednesdays, Thursdays, Saturdays and Sundays.

The garden, which enjoys stunning views of the coast, is full of colour at the moment as the camelias, rhododendron and azaleas bloom in the garden, the common spotted orchids flower in the orchard and the woodlands are carpeted with bluebells.

Head to the link in the comments to plan a visit.

Anturiaethau’r Pasg ym Mhlas yn Rhiw | Easter adventures at Plas yn Rhiw  🐰*** Ymunwch â ni ar ddydd Mercher, Iau, Sadwr...
07/04/2026

Anturiaethau’r Pasg ym Mhlas yn Rhiw | Easter adventures at Plas yn Rhiw 🐰

***

Ymunwch â ni ar ddydd Mercher, Iau, Sadwrn a Sul hyd at dydd Sul 12 Ebrill am Anturiaethau'r Pasg ym Mhlas yn Rhiw, gan ddilyn yn ôl traed y chwiorydd Keating a ymgyrchodd i warchod byd natur yma yn Llŷn.

Mae 10 gweithgaredd wedi'u hysbrydoli gan natur i'w darganfod. Profwch eich cydbwysedd yn y cwrs rhwystrau wy ar lwy, gwnewch gerddoriaeth gydag offerynnau, ac anelwch yn yr her bwa saeth wedi'i ysbrydoli gan y peillwyr. 🏹

£3.50 yr helfa, tal mynediad arferol, prisiau i gyd ar y gwefan. Ystafell Te ar agor.

Cynlluniwch eich ymweliad nesaf yma: https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/plas-yn-rhiw

***

Join us for Easter adventures at Plas yn Rhiw on Wednesday, Thursday, Saturday and Sunday until 12 April, following in the footsteps of the Keating sisters who campaigned to protect nature here on the Llŷn peninsula.

There are 10 nature-inspired activities to discover on the trail. Test your balance with the egg and spoon obstacle course, make music with some instruments and then take aim in the pollinator-themed archery challenge. 🏹

£3.50 per trail, normal admission applies. Tea room also open.

Plan your next visit here: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/plas-yn-rhiw

Pasg hapus pawb | Happy Easter everyone 🐇*** Pasg Hapus pawb! Rydym yn gobeithio bod pawb yn mwynhau penwythnos hir hedd...
05/04/2026

Pasg hapus pawb | Happy Easter everyone 🐇

***

Pasg Hapus pawb! Rydym yn gobeithio bod pawb yn mwynhau penwythnos hir heddychol a braf.

***

Wishing everyone a very Happy Easter! Here’s hoping that everyone enjoys a peaceful and lovely weekend.

Ar gau fory | Closed tomorrow*** Gyda rhagolygon gwyntoedd cryfion, byddwn ar gau fory, dydd Sadwrn, 4 Ebrill. Ymddiheur...
03/04/2026

Ar gau fory | Closed tomorrow

***
Gyda rhagolygon gwyntoedd cryfion, byddwn ar gau fory, dydd Sadwrn, 4 Ebrill. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.

***
With high winds forecast, we will be closed tomorrow, Saturday, 4 April. Apologies for any inconvenience.

Anturiaethau’r Pasg ym Mhlas yn Rhiw 🐰Easter adventures at Plas yn Rhiw 🐣*** Ymunwch â ni'r Pasg hwn ym Mhlas yn Rhiw, g...
01/04/2026

Anturiaethau’r Pasg ym Mhlas yn Rhiw 🐰
Easter adventures at Plas yn Rhiw 🐣

***

Ymunwch â ni'r Pasg hwn ym Mhlas yn Rhiw, gan ddilyn yn ôl traed y chwiorydd Keating a ymgyrchodd i warchod byd natur yma yn Llŷn.

Mae 10 gweithgaredd wedi'u hysbrydoli gan natur i'w darganfod. Profwch eich cydbwysedd yn y cwrs rhwystrau wy ar lwy, gwnewch gerddoriaeth gydag offerynnau, ac anelwch yn yr her bwa saeth wedi'i ysbrydoli gan y peillwyr neu cymerwch eich amser i eistedd a chwarae gemau ar y lawnt.

Mae'r helfa ymlaen yn ystod dyddiau agored rhwng 28 Mawrth – 12 Ebrill, a hefyd Dydd Gwener y Groglith a Llun y Pasg. £3.50 yr helfa, tal mynediad arferol.

A hefyd bydd Ystafell Te ar agor hefyd 🍰

Cynlluniwch eich ymweliad nesaf yma: https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/plas-yn-rhiw

***
Join us this Easter at Plas yn Rhiw and follow in the footsteps of the Keating sisters who campaigned to protect nature here on the Llŷn peninsula.

There are 10 nature-inspired activities to discover on the trail. Test your balance with the egg and spoon obstacle course, make music with some instruments and then take aim in the pollinator-themed archery challenge. There are also some games to enjoy a peaceful moment sitting on the lawn too.

Trails take place during our normal open days between 28 March – 12 April, and also Good Friday and Easter Monday. £3.50 per trail, normal admission applies.

And if you’re peckish, the Tea Room will be open for a tasty treat 🍰

Plan your next visit here: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/plas-yn-rhiw

Anturiaethau’r Pasg ym Mhlas yn Rhiw, dechrau'r penwythnos yma!Easter adventures at Plas yn Rhiw start this weekend!*** ...
26/03/2026

Anturiaethau’r Pasg ym Mhlas yn Rhiw, dechrau'r penwythnos yma!
Easter adventures at Plas yn Rhiw start this weekend!

***

Ymunwch â ni'r Pasg hwn ym Mhlas yn Rhiw, gan ddilyn yn ôl traed y chwiorydd Keating a ymgyrchodd i warchod byd natur yma yn Llŷn 🐰

Mae 10 gweithgaredd wedi'u hysbrydoli gan natur i'w darganfod. Profwch eich cydbwysedd yn y cwrs rhwystrau wy ar lwy, gwnewch gerddoriaeth gydag offerynnau, ac anelwch yn yr her bwa saeth wedi'i ysbrydoli gan y peillwyr neu cymerwch eich amser i eistedd a chwarae gemau ar y lawnt 🐣

Yn ystod dyddiau agored rhwng 28 Mawrth – 12 Ebrill, £3.50 yr helfa, tal mynediad arferol. Bydd Ystafell Te ar agor hefyd.

Cynlluniwch eich ymweliad nesaf yma: https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/plas-yn-rhiw

***

Join us this Easter at Plas yn Rhiw and follow in the footsteps of the Keating sisters who campaigned to protect nature here on the Llŷn peninsula 🐰

There are 10 nature-inspired activities to discover on the trail. Test your balance with the egg and spoon obstacle course, make music with some instruments and then take aim in the pollinator-themed archery challenge. There are also some games to enjoy a peaceful moment sitting on the lawn too 🐣

Trails take place during our open days between 28 March – 12 April, £3.50 per trail, normal admission applies. And if you’re peckish, the Tea Room will be open for a tasty treat.

Plan your next visit here: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/plas-yn-rhiw

Address

Rhiw
Pwllheli
LL538AB

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Plas yn Rhiw NT/YG posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Plas yn Rhiw NT/YG:

Share