26/09/2025
Helô bawb
Mae cymuned wrth wraidd popeth a wnawn ym Manc Bwyd Pwllheli.
Mae ein nod yn syml - cynnig cefnogaeth ar ffurf pecynnau bwyd, pethau ymolchi, deunyddiau glanhau a hanfodion eraill i deuluoedd ac unigolion mewn angen yn yr ardal leol.
Fodd bynnag, ni allwn wneud hyn heb ein gwirfoddolwyr gwych.
Rydym yn dod o gefndiroedd amrywiol, gyda chyfoeth o sgiliau ymarferol a phersonol, ond mae gennym ni i gyd y nod cyffredin o fod eisiau cynnig y gefnogaeth orau y gallwn i'r rhai mewn angen, beth bynnag fo'u hamgylchiadau.
Felly, hoffem i chi wirfoddoli eich amser a'ch ymrwymiad i'n helpu i wneud gwahaniaeth.
Os oes gennych amser i'w sbario rhwng 12 a 2pm ar ddydd Mawrth neu ddydd Gwener, ac os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Diolch yn fawr iawn
Helen Thomas a Dave Hill
Cyd-gadeiryddion
Hello everyone
Community is at the heart of everything that we do at Banc Bwyd Pwllheli Foodbank.
Our aim is simple - to offer support in the form of food packs, toiletries, cleaning materials and other essentials to families and individuals in need in the local area.
However, we can't do this without our wonderful volunteers.
We come from varied backgrounds, with a wealth of practical and personal skills, but we all have the common goal of wanting to offer the best support we can to those in need, whatever their circumstances.
So, we'd like you to volunteer your time and commitment to help us make a difference.
If you have time to spare between 12 & 2pm on a Tuesday or Friday, and are interested in volunteering.
Please contact us for further information.
Thank you very much.
Helen Thomas & Dave Hill
Co-chairs