24/04/2026
Yr Uned Ymchwiliadau Natur yw elfen ymchwiliol newydd Cymru Wyllt — sy’n canolbwyntio ar ddatgelu’r methiannau, y pwysau, a’r mannau dall sy’n achosi colli byd natur yng Nghymru.
Oherwydd dyma’r realiti: mae bywyd gwyllt yn dirywio, nid yw’r warchodaeth yn gweithio bob amser, ac yn rhy aml nid yw’r problemau’n cael eu harchwilio.
Yn y ffilm lansio hon, mae newyddiadurwraig ymchwiliol Cymru Wyllt, Helen Callaghan, yn cael sgwrs gyda’r Athro Lynda Warren, Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru, i siarad am oruchwyliaeth, atebolrwydd, ac a yw’r systemau sydd yn eu lle wir yn cyflawni dros fyd natur.
Os ydyn ni am newid pethau, mae angen i ni fod yn onest ynglŷn â’r hyn sydd wedi torri, pam mae wedi torri, a sut i’w atgyweirio.