Cylch Cinio Glannau Llwchwr

Directions Website

Cylch Cinio Glannau Llwchwr Cylch cinio hwyliog a chroesawgar, yn cwrdd yn fisol yn ardal Pontarddulais

Bydd cyfarfod cyntaf tymor 2026-27 yn digwydd yng Nghlwb Rygbi Pontarddulais nos Fercher 16 Medi am 7pm. Ein siaradwr gw...
07/09/2026

Bydd cyfarfod cyntaf tymor 2026-27 yn digwydd yng Nghlwb Rygbi Pontarddulais nos Fercher 16 Medi am 7pm. Ein siaradwr gwadd yw Osian Llywelyn.
Croeso cynnes i aelodau presennol a newydd, a gwesteion untro – tâl aelodaeth y flwyddyn (8 cyfarfod) yw £160 a thâl dod am un noson heb ymaelodi yw £23 y tro.
Am ragor o fanylion, ymaelodi neu hysbysu yr hoffech ddod i'r cyfarfod cyntaf, cysylltwch â Bethan Mair

Mae hi bron yn fis Medi, a bron yn adeg agor drysau Cylch Cinio Glannau Llwchwr! Mae gennym westeion rhagorol i’ch didda...
27/08/2026

Mae hi bron yn fis Medi, a bron yn adeg agor drysau Cylch Cinio Glannau Llwchwr! Mae gennym westeion rhagorol i’ch diddanu, bwyd blasus a chroeso twymgalon yng Nghlwb Rygbi Pontarddulais. Pris tymor cyfan ac aelodaeth lawn yw £160 ond gallwch ddod i sesiynau unigol fel gwestai am £23 y tro. Eisiau ymuno? Gadewch i Bethan Mair wybod erbyn nos Sul 13 Medi. Croeso twymgalon i bawb.

16 Medi 2026 - Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg
21 Hydref 2026 – Martin Huws, Enillydd y Goron, Eisteddfod y Garreg Las
18 Tachwedd 2026 - Mari Grug, Darlledwraig a Chyflwynydd
9 Rhagfyr 2026 - Noson y Llywydd, Huw Evans
20 Ionawr 2027 – Dr Catrin Edwards, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.
17 Chwefror 2027 – Hywel M. Davies, academydd ac awdur
17 Mawrth 2027 – Yr Athro Daniel Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Richard Burton, Prifysgol Abertawe
21 Ebrill 2027 - Cyfarfod Blynyddol i Aelodau Llawn yn unig.

Noson ragorol yn Cylch Cinio Glannau Llwchwr heno. Diolch i JDK Catering at Pontarddulais Rugby Club am y cinio eidion /...
18/03/2026

Noson ragorol yn Cylch Cinio Glannau Llwchwr heno. Diolch i JDK Catering at Pontarddulais Rugby Club am y cinio eidion / nut roast gwych, a diolch o galon i Steffan Donnelly a Fflur Thomas, Theatr Cymru, am rannu o’u doniau hael.

Y gwefreiddiol a rhagorol Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, cyfarwyddwr ac actor, fydd gwestai olaf y...
14/03/2026

Y gwefreiddiol a rhagorol Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, cyfarwyddwr ac actor, fydd gwestai olaf y tymor ar nos Fercher 18 Mawrth. Dyma eich cyfle olaf i rannu’r gwmnïaeth tan fis Medi, felly peidiwch tin-droi - dewch! Bargen i westeion £20. Cysylltwch erbyn nos Sul i ymuno.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies, yw gwestai Cylch Cinio Glannau Llwchwr nos Fercher yma. Dewch i fwynhau ...
15/02/2026

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies, yw gwestai Cylch Cinio Glannau Llwchwr nos Fercher yma. Dewch i fwynhau pysgod a sglodion a phwdin, cymdeithas gynnes a sgwrs ddeallus - £21 yw’r pris untro. Cysylltwch â Bethan Mair cyn prynhawn Llun (16 Chwefror) os hoffech ddod.

Address

Oakfield Street
Pontardulais
SA48LW

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cylch Cinio Glannau Llwchwr posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share