05/08/2026
A community that’s still changing lives 20 years later. What could you do as a Macmillan Professional? 💚
Earlier this month, we proudly supported a special celebration and educational event for a Lymphoedema Support Group in Wrexham.
The group was founded in 2006 by a Macmillan Professional who successfully applied for £500 of funding to create a dedicated support network for people living with lymphoedema.
Over the past two decades, the group has gone from strength to strength, providing invaluable support, information and a sense of community for its members.
Marking its 20th anniversary, this event brought together support group members and healthcare professionals for a day of learning, reflection and celebration. Members shared their personal experiences of living with lymphoedema with a wide range of professionals while highlighting the impact the group has had on their lives.
“The day was fantastic, with excellent presentations and lots of engagement from professionals and those with lived experience. It's wonderful to see the strength of the support group after so many years and the continued dedication of the committee and Macmillan professionals.”
This story is a powerful reminder of the lasting impact Macmillan Professionals can have. What started with one professional's idea and a small grant has grown into a thriving community that continues to support and empower people today.
We know, every day, health and social care professionals go above and beyond. They bring compassion, expertise, and resilience to support people living with cancer. It’s so important that those doing this vital work feel supported too.
That’s why Macmillan has launched a free Macmillan Membership for professionals who support people living with cancer. Whether you’re a nurse, physiotherapist, dietitian, speech therapist, or part of the wider care community, you’re welcome to join us.
Find out more here: https://membership.macmillan.org.uk/
-----
Cymuned sy’n parhau i newid bywydau 20 mlynedd yn ddiweddarach. Beth allech chi ei wneud fel Gweithiwr Proffesiynol Macmillan? 💚
Yn gynharach y mis hwn, roeddem yn falch o gefnogi dathliad arbennig a digwyddiad addysgol ar ran Grŵp Cymorth Lymffoedema yn Wrecsam. Sefydlwyd y grŵp yn 2006 gan Weithiwr Proffesiynol Macmillan a gyflwynodd gais llwyddiannus am £500 o gyllid i greu rhwydwaith cymorth ymroddedig ar gyfer pobl sy’n byw gyda lymffoedema.
Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae’r grŵp wedi mynd o nerth i nerth gan ddarparu cymorth amhrisiadwy, gwybodaeth ac ymdeimlad o gymuned ar gyfer ei aelodau.
Gan gofnodi 20 mlynedd ers ei sefydlu, daeth y digwyddiad hwn ag aelodau o’r grŵp cymorth a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd ynghyd am ddiwrnod o ddysgu, myfyrio a dathlu. Rhannodd aelodau eu profiadau personol o fyw gyda lymffoedema ag ystod eang o weithwyr proffesiynol gan bwysleisio’r effaith y mae’r grŵp wedi’i chael ar eu bywydau.
“Roedd y diwrnod yn wych, cawsom gyflwyniadau ardderchog a llawer o ymgysylltu gan weithwyr proffesiynol a’r rhai sydd â phrofiad bywyd. Roedd gweld nerth y grŵp ar ôl cynifer o flynyddoedd yn wych yn ogystal ag ymroddiad parhaus y pwyllgor a’r gweithwyr proffesiynol Macmillan.”
Mae’r stori hon yn ffordd gryf o’n hatgoffa am yr effaith barhaol y gall Gweithwyr Proffesiynol Macmillan ei chael. Mae’r hyn a ddechreuodd fel syniad un gweithiwr proffesiynol wedi tyfu’n gymuned ffyniannus sy’n parhau i gefnogi a grymuso pobl heddiw. Rydym yn gwybod bod gweithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl bob dydd.
Maent yn cynnig tosturi, arbenigedd a gwydnwch i gefnogi pobl sy’n byw gyda chanser. Mae’n bwysig iawn bod y bobl sy’n cyflawni’r gwaith hanfodol hwn yn teimlo eu bod wedi’u cefnogi hefyd. Dyna pam bod Macmillan wedi lansio cynllun Aelodaeth Macmillan am ddim i weithwyr proffesiynol sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda chanser. Os ydych chi’n nyrs, yn ffisiotherapydd, yn ddietegydd, yn therapydd lleferydd, neu’n rhan o’r gymuned ofal ehangach, mae croeso i chi ymuno â ni.
Cewch ragor o wybodaeth yma: https://membership.macmillan.org.uk/