19/10/2026
A 'Pay What You Feel' community screening:
THE TOLL
83 mins | 15
Directed by Ryan Andrew Hooper
📅 13 November
🚪 Doors open 6.00pm
🕡 Film starts 6.30pm
📍 Newport Memorial Hall
🎟️ Pay What You Feel (booking a seat in advance is recommended)
As part of Spotlight, WOW Film Festival is building a new network of community film clubs across Wales, working with local partners and venues to bring independent and international cinema closer to home.
In collaboration with Newport Memorial Hall, WOW Film Festival is bringing a new community film club to Newport! Through this project, we hope to create a welcoming space for people to come together, discover films and enjoy cinema locally, building connections through shared experiences on the big screen.
Our screening at Newport Memorial Hall is THE TOLL, a darkly comic Welsh crime film set in rural Wales. Written and directed by Ryan Andrew Hooper, the film follows a toll-booth operator whose quiet, isolated life becomes entangled in a world of crime, corruption and unexpected twists.
Blending dark humour with a distinctly Welsh setting, THE TOLL offers a quirky and entertaining take on the crime thriller, bringing together an eccentric cast of characters in a story full of surprises.
Come along, discover a new film community at the Newport Memorial Hall, and pay what you feel. Your contribution helps support accessible community cinema and the development of future screenings.
About Spotlight
The BFI Film Audience Network (FAN) Spotlight programme invests in all eight hub regions across the UK, taking a hyper-local approach to areas where there are otherwise few or no screenings of UK independent or international film.
Working in three-year cycles, a lead delivery partner works with locally based film organisations to establish new community-driven screening activities and learning opportunities, helping projects continue into the future.
In Wales, WOW Film Festival is leading this initiative, working with local partners such as Cwm A***n to develop community film activity in venues and communities across the country.
Supported by Film Hub Wales as part of the BFI BFI Film Audience Network (FAN), made possible by the National Lottery.
WOW Wales One World Film Festival
CY:
Sgriniad cymunedol ‘Talwch yr hyn a deimlwch’:
THE TOLL
83 munud | 15
Cyfarwyddwyd gan Ryan Andrew Hooper
📅 13 Tachwedd
🚪 Drysau’n agor am 6.00pm
🕡 Y ffilm yn dechrau am 6.30pm
📍 Neuadd Goffa Casnewydd (Newport Memorial Hall)
🎟️ Talwch yr hyn a deimlwch (argymhellir cadw sedd ymlaen llaw)
Fel rhan o Spotlight, mae Gŵyl Ffilm WOW yn datblygu rhwydwaith newydd o glybiau ffilm cymunedol ledled Cymru, gan weithio gyda phartneriaid a lleoliadau lleol i ddod â sinema annibynnol a rhyngwladol yn nes at ein cymunedau.
Mewn cydweithrediad â Neuadd Goffa Casnewydd, mae Gŵyl Ffilm WOW yn dod â chlwb ffilm cymunedol newydd i Gasnewydd! Drwy’r prosiect hwn, rydym yn gobeithio creu gofod croesawgar lle gall pobl ddod ynghyd, darganfod ffilmiau a mwynhau sinema yn lleol, gan feithrin cysylltiadau drwy brofiadau a rennir ar y sgrin fawr.
Ein sgriniad yn Neuadd Goffa Casnewydd fydd THE TOLL, ffilm drosedd Gymreig dywyll ei hiwmor, wedi’i lleoli yng nghefn gwlad Cymru. Wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Ryan Andrew Hooper, mae’r ffilm yn dilyn gweithredwr bwth tollau y mae ei fywyd tawel ac ynysig yn cael ei droi ben i waered wrth iddo gael ei dynnu i fyd o droseddu, llygredd a throeon annisgwyl.
Gan gyfuno hiwmor tywyll â chefndir Cymreig unigryw, mae THE TOLL yn cynnig golwg wreiddiol a difyr ar y ffilm gyffro droseddol, gyda chast o gymeriadau ecsentrig a stori sy’n llawn syrpreisys.
Dewch draw, darganfyddwch gymuned ffilm newydd yn Neuadd Goffa Casnewydd, a thalwch yr hyn a deimlwch. Mae eich cyfraniad yn helpu i gefnogi sinema gymunedol hygyrch a datblygu rhagor o sgriniadau yn y dyfodol.
Am Spotlight
Mae rhaglen Spotlight Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN) yn buddsoddi ym mhob un o wyth rhanbarth canolfannau ledled y DU, gan fabwysiadu dull hyperleol mewn ardaloedd lle nad oes llawer o gyfleoedd, neu ddim cyfleoedd o gwbl, i weld ffilmiau annibynnol o’r DU neu ffilmiau rhyngwladol.
Gan weithio mewn cylchoedd tair blynedd, mae partner cyflawni arweiniol yn gweithio gyda sefydliadau ffilm leol i sefydlu gweithgareddau sgrinio cymunedol a chyfleoedd dysgu sy’n cael eu harwain gan gymunedau, gan helpu’r prosiectau hyn i barhau i’r dyfodol.
Yng Nghymru, Gŵyl Ffilm WOW sy’n arwain y fenter hon, gan weithio gyda phartneriaid lleol fel Cwm A***n i ddatblygu gweithgareddau ffilm gymunedol mewn lleoliadau a chymunedau ledled y wlad.
Cefnogir gan Ganolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN), a wnaed yn bosibl gan y Loteri Genedlaethol.