Llyn Parc Mawr - Grŵp Coedwig Cymunedol/ Community Woodland Group

Llyn Parc Mawr - Grŵp Coedwig Cymunedol/ Community Woodland Group Llyn Parc Mawr Community Woodland Group was set up to manage Llyn Parc Mawr as a sustainable woodland

**Scroll for English**
Yn 2014 cynhaliodd ragor na 80 o drigolion Niwbwrch a’r cyffiniau gyfarfod i drafod posibilrwydd cael rhan i’r gymuned yn rheoli Coed Niwbwrch. Yn dilyn 3 cyfarfod cymunedol dilynol, rydym yn creu Grŵp Coed Cymunedol Llyn Parc Mawr. Daeth cyfnod o drafod efo Cyfoeth Naturiol Cymru i ben efo cytundeb rheoli am 50 erw o Goed Niwbwrch. Mae’n bwysig cofio bod y grŵp hwn ar gyfer

pawb yn y gymuned leol, felly os hoffech chi fod â rhan, byddai croeso mawr i chi! Mae yna wastad lawer o ddatblygiadau cyffrous sy’n creu digon o waith i’r grŵp, felly gorau po fwyaf o gymorth y cawn ni! Ein diben ni
Diben y Cwmni yw sefydlu Llyn Parc Mawr fel coetir cynaliadwy er budd bywyd gwyllt, a chyfrannu at les cymuned Niwbwrch a’r cyffiniau, ac i’r cyhoedd fwynhau:

Sicrhau coedwigaeth gynhyrchiol, amrywiol a chadarn gan ddefnyddio systemau coedwriaethol addas. Sicrhau a chynnal amrywiaeth eang o gynefinoedd bywyd gwyllt gweithredol, efo poblogaethau iach, hyfyw a chadarn o blanhigion ac anifeiliaid brodorol. Cefnogi cynnal lles pobl Niwbwrch a’r cyffiniau trwy:
Annog ymdeimlad o le
Adeiladu hunaniaeth gymunedol
Darparu amrywiaeth o weithgareddau hamdden a chymdeithasol, a
Chyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith ac addysg
Ein Gweledigaeth ni
Y weledigaeth yw creu coetir ffyniannus er mwyn gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth Llyn Parc Mawr a chyfrannu at les tymor hir y gymuned. Caiff y coetir tan reolaeth Grŵp Coed Cymunedol Llyn Parc Mawr(GCCLlPM) ei reoli er sawl diben. Y prif ddibenion yw ar gyfer hamdden, iechyd a lles, bioamrywiaeth, cynhyrchu pren ar raddfa fechan i’w ddefnyddio yn yr economi lleol, a bod yn adnodd addysg cymunedol. Y weledigaeth ar gyfer deng mlynedd o rŵan yw bod â chysylltiad a chyfraniad ffyniannus gan y gymuned mewn perthynas â’u coetir nhw. Bod pobl yn defnyddio, yn dysgu ac yn mwynhau bod yn y coetir, ac â rhan weithredol mewn cadw’r amgylchedd er lles y gymuned a natur. Daw’r coetir yn fwy amrywiol ei rhywogaethau coed trwy blannu amryw rywogaethau llydanddail brodorol ac Ewropeaidd a rhywogaethau conwydd estron. Ymhen 50 mlynedd bydd gan y coetir binwydd, deri a choed castan ymysg y coed talaf, ynghyd â chanran fechan o binwydd Corsica goraeddfed. Bydd haen dda o brysgwydd, a haen amrywiol yn agosach ar y ddaear. Bydd digonedd o goed ifainc yn yr haen isaf i ddod i le’r coed hŷn wrth i’r rheiny gael eu cwympo. Bydd y coetir yn parhau i gael ei reoli trwy goedwigaeth gorchudd di-fwlch, a sefydlir trefn dewis coed unigol er mwyn darparu pren o ansawdd da ar gyfer y gymuned. Yr hyn rydym ni’n ei wneud
Amcanwn reoli Llyn Parc Mawr ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys:

Plannu coed, planhigion a bylbiau newydd
Cael gwared ar goed anniogel
Cael gwared ar rywogaethau planhigion ymledol
Bwydo’r adar a’r gwiwerod cochion
Clirio sbwriel
Trwsio ffensys
Mae peth o’n gwaith ni ychydig yn llai awyr agored, ond yn angenrheidiol iawn! Cael barn a syniadau defnyddwyr y goedwig
Cynnal arolwg o’r hyn sydd yn y goedwig eisoes
Ysgrifennu cylchlythyrau
Cyfarfod yn rheolaidd efo perchen y tir
Trafod ein cynlluniau ni ar gyfer y dyfodol
Cyfarfod â grwpiau coetir eraill
Cynnal y wefan hon
Diweddaru ein cyfrifol cyfryngau cymdeithasol
Tywys grwpiau o gwmpas
Mynd i arddangosfeydd
Ceisio cymorthdaliadau
Ond rydym yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn y goedwig, hefyd, felly ’da ni’n cael llwyth o hwyl, hefyd! Sesiynau chwarae plant yn yr awyr agored – Tylwyth Teg Llyn Parc
Helfeydd trychfilod
Arolygon anifeiliaid a phlanhigion
Teithiau cerdded gwyfynod ac ystlumod
Helfeydd ffyngau
Sesiynau Ysgol y Coed
Partïon coetir
Digwyddiadau tymhorol

Who we are
In 2014 over 80 people living in the Newborough and district area held a meeting to discuss the possibility of the community being involved with the management of Newborough Forest. Following three more community meetings we created the Llyn Parc Mawr Community Woodland Group. A period of negotiation with Natural Resources Wales ended in a management agreement for 50 acres of Newborough Forest. It’s important to remember that this group is for everyone in the local community, so if you’d like to get involved, you’ll be very welcome! There are always lots of exciting developments which create plenty to do for the group, so the more help we can get, the better! Our purpose
The purpose of the Company is to establish Llyn Parc Mawr as a sustainable woodland area to benefit wildlife and contribute to the well-being of the community of Newborough and District and for public enjoyment:

Ensuring productive, diverse and resilient forestry using appropriate silvicultural systems. Establishment and maintenance of a diverse range of functional wildlife habitats healthy, viable and resilient populations of native flora and fauna. Supporting the well-being maintenance of the people of Newborough and District by:
Encouraging a sense of place
Building community identity
Providing a range of recreational and social activities and
Opportunities for volunteering, training, work and education
Our Vision
The vision is to create a thriving woodland to improve the habitats and biodiversity of Llyn Parc Mawr and to contribute to the long-term well-being of the community. The area of woodland under the management of Llyn Parc Mawr Community Woodland Group (LPMCWG) will be managed for multiple objectives. The primary objectives are for recreation, health and well-being, biodiversity, small scale timber production to be used in the local economy and as a community education resource. The vision for ten years’ time is to have a thriving connection and contribution from the community in connection with their woodland. People use, learn and enjoy being in the woodland and be actively engaged in conserving the environment for the well-being of the community and nature. The woodland will become more diverse in tree species through planting a range of native and European broadleaved tree species and non-native coniferous species. In 50 years’ time the woodland will have semi-mature pine, oak and sweet chestnut in the canopy shared with a small percentage of over-mature Corsican pine. There will be a well-developed shrub layer and a diverse field layer. There will be an abundance of young trees in the field layer to act as replacements for the older trees as they are removed. The woodland will still be managed under continuous cover forestry and there will be a single tree selection system established to provide quality timber for the community. What we do
We aim to manage Llyn Parc Mawr for wildlife and people. This work includes:

Planting new trees, plants and bulbs
Removing unsafe trees
Clearing invasive species of plants
Feeding the birds and red squirrels
Clearing litter
Mending fences
Some of our work is a little less outdoorsy, but very necessary! Gathering feedback and ideas from the forest’s users
Surveying what’s already in the forest
Writing newsletters
Meeting the landlord regularly
Discussing our future plans
Meeting with other woodland groups
Operating this website
Keeping our social media accounts up to date
Showing groups around
Attending exhibitions
Applying for grants
But we also hold lots of events and activities in the forest, so we get to have a lot of fun too! Children’s outdoor play sessions – Llyn Parc Pixies
Bug hunts
Animal and plant surveys
Moth and bat walks
Fungi forays
Forest School sessions
Woodland parties
Seasonal events

🌲🌿🙏🧡🌳Do you have a child or children aged 0-5? Coed Lleol/Small Woods Wales need your help!Please could you take a few m...
18/06/2026

🌲🌿🙏🧡🌳Do you have a child or children aged 0-5? Coed Lleol/Small Woods Wales need your help!
Please could you take a few miniutes to fill in their consultation form? It will help Coed Lleol Small Woods Anglesey to apply for funding to run more outdoor play sessions for children, and to shape the sessions around your needs/requirements/ideas.
Dyma'r ddolen i'r ffurflen -
https://forms.office.com/pages/responsepage.aspx?id=Zgq4O84MQkqSUfzfni2px0icZrMuMVhHpLPVjgvoJ4pUOVo2MDZMSDNIVVFKUEpBWVRFS1RDVDJJRS4u&route=shorturl
Coed Lleol/Small Woods Consultation 2026 | Ymgynghoriad Coed Lleol/Small Woods 2026 – Fill in form

🙏🌳🧡Diolch/Thank you! 🧡🌳🙏

🌲🌿🙏🧡🌳Sgynnoch chi plentyn neu blant oed 0-5? Mae Coed Lleol angen eich help! Cewch llenwi ffurflen ymgynghori? Bydd yn e...
18/06/2026

🌲🌿🙏🧡🌳Sgynnoch chi plentyn neu blant oed 0-5? Mae Coed Lleol angen eich help! Cewch llenwi ffurflen ymgynghori? Bydd yn eu helpu Coed Lleol i wneud cais am gyllid i gynnal mwy o sesiynau coetir i blant, ac i ffurfio'r sesiynau hynny i'ch anghenion / gofynion / syniadau.
Dyma'r ddolen i'r ffurflen -
https://forms.office.com/pages/responsepage.aspx?id=Zgq4O84MQkqSUfzfni2px0icZrMuMVhHpLPVjgvoJ4pUOVo2MDZMSDNIVVFKUEpBWVRFS1RDVDJJRS4u&route=shorturl
Coed Lleol/Small Woods Consultation 2026 | Ymgynghoriad Coed Lleol/Small Woods 2026 – Fill in form

🙏🌳🧡Diolch/Thank you! 🧡🌳🙏

🌞🙏🌲Diolch o galon gwirfoddolwyr am glirio llwybroedd dros Llyn Parc Mawr dydd Sadwrn! 🌲🙏🌞🌞🙏🌲 Huge thanks volunteers for ...
15/06/2026

🌞🙏🌲Diolch o galon gwirfoddolwyr am glirio llwybroedd dros Llyn Parc Mawr dydd Sadwrn! 🌲🙏🌞
🌞🙏🌲 Huge thanks volunteers for clearing paths this Saturday at Llyn Parc Mawr!🌲🙏🌞
📅Nodwch; bydd y diwrnod gwirfoddoli nesaf ar 18fed o Fehefin (nid 11fed)
📅Please note - the next volunteer day is on 18th July (not 11th)
Diolch i Gary hefyd am tynnu lluniau! Thanks to Gary for also taking photos!)

The incredibly knowledgeable Ynys Twca has been running many interesting green wood craft workshops recently at Llyn Par...
10/06/2026

The incredibly knowledgeable Ynys Twca has been running many interesting green wood craft workshops recently at Llyn Parc Mawr, including a recent shrink pot workshop for volunteers. These are pots made from hollowed out pieces of tree trunk – hard work but very satisfying. Thank you .
🙏
More volunteer training opportunities coming soon.twca Ynys Twca

🪴🍯🌳🍯🪴Mae Ynys Twca, sy'n hynod wybodus, wedi bod yn cynnal llawer o weithdai crefft pren gwyrdd diddorol yn ddiweddar yn...
10/06/2026

🪴🍯🌳🍯🪴Mae Ynys Twca, sy'n hynod wybodus, wedi bod yn cynnal llawer o weithdai crefft pren gwyrdd diddorol yn ddiweddar yn Llyn parc Mawr, gan gynnwys gweithdy potiau crebachu diweddar i wirfoddolwyr. Potiau wedi'u gwneud o ddarnau gwag o foncyff coeden yw'r rhain - gwaith caled ond yn foddhaol iawn. Diolch .twca 🪴🍯🌳🍯🪴
🙏
Mwy o gyfleoedd hyfforddi gwirfoddolwyr yn dod yn fuan.

🌸🥳🌿🥳🌸Parti Coetir MaiDiolch yn fawr i bawb a ddaeth i barti mis Mai eleni, roedd y tywydd yn wych, fel yr oedd y stondin...
09/06/2026

🌸🥳🌿🥳🌸
Parti Coetir Mai
Diolch yn fawr i bawb a ddaeth i barti mis Mai eleni, roedd y tywydd yn wych, fel yr oedd y stondinwyr lleol a'r darparwyr gweithgareddau – diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran.
Os hoffech chi roi unrhyw adborth am y digwyddiad, byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn – felly rydym wedi creu ffurflen ar-lein i chi ei rhannu gyda ni. Dyma'r ddolen –
https://forms.gle/tARvocBG4GRy4Kxv8
twca North Wales Rivers Trust -Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru Bro Aberffraw Alliance Coedwig Môn - Anglesey Woods Coed Lleol Small Woods Anglesey

🌸🥳🌿🥳🌸May Woodland PartyMany thanks once again to everyone that made it to this year’s May party, the weather was fantast...
09/06/2026

🌸🥳🌿🥳🌸
May Woodland Party
Many thanks once again to everyone that made it to this year’s May party, the weather was fantastic, as were the local stallholders and activity providers – huge thanks to everyone that was involved.
If you would like to give any feedback about the event, we would love to hear your thoughts – so we’ve created an online form for you to share them with us. Here’s the link –
https://forms.gle/tARvocBG4GRy4Kxv8twca North Wales Rivers Trust -Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru Bro Aberffraw Alliance Coed Lleol Small Woods - North Wales Coed Lleol Small Woods Anglesey

02/06/2026

Do you know what to do if you get into difficulty in the water? These five simple steps could save your life in an emergency. Learn how to float to live.

🥳🌷🌿🎉Dyma MWY o ffotos gan y Parti Coetir dydd Sadwrn Llyn Parc Mawr - Grŵp Coedwig Cymunedol/ Community Woodland Group ....
28/05/2026

🥳🌷🌿🎉Dyma MWY o ffotos gan y Parti Coetir dydd Sadwrn Llyn Parc Mawr - Grŵp Coedwig Cymunedol/ Community Woodland Group .....🥳🎉🌷🌿
🥳🌷🌿🎉Here are some more photo's from Saturday's Woodland Party 🥳🎉🌷🌿
🙏Diolch am eich cefnogaeth pawb/Thanks for your continued support everyone!🙏
.twca Bro Aberffraw Alliance Coed Lleol Small Woods Anglesey .of.the.hedgerider

Address

Llyn Parc Mawr
Newborough
LL616SU

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Llyn Parc Mawr - Grŵp Coedwig Cymunedol/ Community Woodland Group posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Llyn Parc Mawr - Grŵp Coedwig Cymunedol/ Community Woodland Group:

Share