12/06/2026
Mae Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid CGLlSFf ar gael i helpu pobl ifanc i gychwyn prosiectau gwirfoddoli mewn cymunedau ledled Sir y Fflint.
Gallai’r grantiau ariannu’r cyfarpar a’r adnoddau sydd eu hangen i fwrw iddi gyda phrosiectau sy’n arwain at weithgareddau gwirfoddoli ystyrlon.
Mae grantiau gwerth £250, £500, £750 neu £1,000 ar gael i gefnogi prosiectau o dan arweiniad ieuenctid yn Sir y Fflint ac mae’n rhaid eu defnyddio ar gyfer gweithgarwch gwirfoddol.
Mae’n rhaid i brosiect Grant dan Arweiniad Ieuenctid:
• Ymwneud yn bennaf gyda gwirfoddolwyr ifanc (mae’n rhaid i’r mwyafrif fod yn 14-25 oed).
• Ymwneud gydag un oedolyn o leiaf ar gyfer atebolrwydd (gall fod yn staff neu’n wirfoddolwr ym mudiad / man gwirfoddoli y bobl ifanc).
• Fodloni un o’r saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
• Fod ar waith yn Sir y Fflint a bod o fudd i bobl o Sir y Fflint.
Caiff ymgeiswyr eu hannog i ddarllen y nodiadau canllaw cyn ymgeisio. Mae’n rhaid i berson ifanc neu bobl ifanc gwblhau’r cais; fodd bynnag, mae’n rhaid darparu manylion cyswllt oedolyn cyfrifol.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi drafod eich prosiect cyn ymgeisio, cysylltwch gyda Heather Hicks ar 01352 754004 neu dros e-bost ar [email protected].
Cliciwch yma i fwrw golwg ar y nodiadau canllaw ac i ymgeisio am y grant.
https://www.flvc.org.uk/cy/cymorth-i-fudiadau/cyllid/grantiau-cyfredol/ #:~:text=Grantiau%20a%20Arweinir%20Gan%20Ieuenctid%20FLVC