01/06/2026
Saesneg isod // English below
Wrth i'r tywydd gynhesu, mae mwy a mwy o bobl yn mynd i lynnoedd, afonydd ac arfordiroedd i oeri.
Yn anffodus, rydym wedi gweld straeon trist yn y newyddion yn ddiweddar am blant, pobl ifanc ac oedolion sydd wedi colli eu bywydau ar ôl mynd i drafferthion mewn dŵr agored.
Gall ymddangos yn ddiogel, a gall fod yn demtasiwn neidio i mewn, ond mae dŵr agored yn gallu bod yn llawer mwy peryglus nag y mae'n ymddangos. Gall sioc dŵr oer, cerrynt cryf a pheryglon cudd droi diwrnod hwyl yn argyfwng mewn eiliadau.
Os byddwch yn cael trafferth yn y dŵr, cofiwch gyngor yr RNLI - Arnofio i Fyw:
💙 Gogwyddwch eich pen yn ôl fel bod eich clustiau o dan y dŵr
💙 Ymlaciwch a cheisiwch reoli eich anadlu
💙 Symudwch eich dwylo a'ch coesau'n ysgafn i'ch helpu i aros ar wyneb y dŵr
💙 Peidiwch â phoeni os bydd eich coesau'n suddo – mae pawb yn arnofio'n wahanol
💙 Unwaith y bydd eich anadlu dan reolaeth, galwch am help neu nofiwch i le diogel
Gall gwybod beth i'w wneud achub eich bywyd chi neu fywyd rhywun arall.
_____________________________________________________________
As the weather gets warmer, more people are heading to lakes, rivers and the coast to cool off.
Sadly, we've recently seen news stories about children, young people and adults losing their lives after getting into difficulty in open water.
It might look safe, and it can be tempting to jump in, but open water can be much more dangerous than it appears. Cold water shock, strong currents and hidden hazards can quickly turn a fun day out into an emergency.
If you find yourself struggling in the water, remember the RNLI's advice - Float to Live:
💙 Tilt your head back with your ears submerged
💙 Relax and try to control your breathing
💙 Move your hands and legs gently to stay afloat
💙 Don't worry if your legs sink - everyone floats differently
💙 Once your breathing is under control, call for help or swim to safety
Knowing what to do could save your life or someone else's.
Ymddiheurwn nad yw'r neges wreiddiol yn ddwyieithog // We apologise that the original post is not bilingual