24/06/2026
‼️PLEASE SHARE ‼️
We are continuing to experience significant pressure across our hospital sites which is having an impact on the Emergency Departments within Princess of Wales, Prince Charles and Royal Glamorgan Hospitals.
We are urging the public to please only attend the Emergency Department in an emergency and to consider other healthcare options available to you. Some examples of a medical emergency include:
• Unconsciousness
• Difficulty in breathing
• Suspected heart attack
• Serious injury or heavy blood loss
• Sudden weakness or speech problems
If you have a minor injury, such as minor burns, minor wounds, minor limb injuries, minor head and neck injuries, you can visit our Minor Injuries Units at Ysbyty Cwm Cynon or Ysbyty Cwm Rhondda.
If your condition is urgent, but not life-threatening, you can also:
• Visit the NHS 111 Wales website for advice on your condition and the next steps to take
• Contact a member of the Primary Care team in the community such as your GP, dentist, optometrist or pharmacy
• Call 111 to access urgent advice and guidance and the Out of Hours service
We thank you for your understanding and cooperation.
-----
‼️RHANNWCH OS GWELWCH YN DDA ‼️
Rydym yn parhau i brofi pwysau sylweddol ar draws ein safleoedd ysbytai, sy'n cael effaith ar yr Adrannau Argyfwng yn Ysbytai Tywysoges Cymru, Tywysog Siarl a Brenhinol Morgannwg.
Rydym yn annog y cyhoedd i fynychu'r Adran Argyfwng mewn argyfwng yn unig ac i ystyried opsiynau gofal iechyd eraill sydd ar gael i chi. Mae rhai enghreifftiau o argyfwng meddygol yn cynnwys:
• Anymwybyddiaeth
• Anhawster anadlu
• Trawiad ar y galon a amheuir
• Anaf difrifol neu golled gwaed trwm
• Gwendid sydyn neu broblemau lleferydd
Os oes gennych anaf bach, fel mân losgiad, mân glwyf, mân anafiadau i'r breichiau neu goesau, mân anafiadau i'r pen a'r gwddf, gallwch ymweld â'n Hunedau Mân Anafiadau yn Ysbyty Cwm Cynon neu Ysbyty Cwm Rhondda.
Os yw eich cyflwr yn un brys, ond nid yn peryglu bywyd, gallwch hefyd:
• Ewch i wefan GIG 111 Cymru i gael cyngor ar eich cyflwr a'r camau nesaf i'w cymryd
• Cysylltwch ag aelod o'r tîm Gofal Sylfaenol yn y gymuned fel eich meddyg teulu, deintydd, optometrydd neu fferyllfa
• Ffoniwch 111 i gael cyngor ac arweiniad brys a'r gwasanaeth y Tu Allan i Oriau
Diolch i chi am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad.