31/07/2026
Work-shadowing can be the first step towards a new career, and that's exactly what it was for Dylan.
As part of the SustainAbility project, Dylan recently completed a work-shadowing placement with the WRU Community Team, where he gained hands-on experience in graphic design and content creation.
Working alongside Content Developer Benny Griffiths, Dylan developed new creative skills, gained insight into the industry and built confidence in his future career path.
Dylan shared: "I had a great time shadowing the WRU Community Team. I've picked up some great skills here that have greatly enhanced my graphic design knowledge. This experience has been fantastic, and I can't wait to see how my career will progress in the future!"
A huge thank you to the WRU Community Team for giving Dylan this fantastic opportunity and helping him take another step towards achieving his goals.
If your organisation is interested in supporting local talent through work experience or employment opportunities, we'd love to hear from you. https://elitesea.co.uk/our-projects/sustainability/
________________________________________________
Gall cysgodi yn y gwaith fod yn gam cyntaf tuag at yrfa newydd, a dyna'n union oedd hi i Dylan.
Fel rhan o brosiect SustainAbility, cwblhaodd Dylan yn ddiweddar gyfnod o gysgodi gyda Thîm Cymunedol Undeb Rygbi Cymru (URC), lle cafodd brofiad ymarferol o ddylunio graffig a chreu cynnwys.
Wrth weithio ochr yn ochr â'r Datblygwr Cynnwys, Benny Griffiths, datblygodd Dylan sgiliau creadigol newydd, cafodd gipolwg gwerthfawr ar y diwydiant, ac adeiladodd fwy o hyder yn ei lwybr gyrfa yn y dyfodol.
Dywedodd Dylan:
"Cefais amser gwych yn cysgodi Tîm Cymunedol yr URC. Rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau newydd yma sydd wedi ehangu fy ngwybodaeth am ddylunio graffig yn sylweddol. Mae'r profiad hwn wedi bod yn wych, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut bydd fy ngyrfa'n datblygu yn y dyfodol!"
Diolch yn fawr i Dîm Cymunedol yr URC am roi'r cyfle gwych hwn i Dylan ac am ei helpu i gymryd cam arall tuag at gyflawni ei nodau.
Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn cefnogi talent leol drwy gynnig cyfleoedd profiad gwaith neu gyflogaeth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.