10/07/2026
Arolwg Grwpiau Cymunedol
Mae Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (IGGC) yn bwriadu sefydlu prosiect hydwythedd cymunedol mewn dwy gymuned newydd yng Ngheredigion yn seiliedig ar fodel gofal sydd wedi'i ddatblygu i gefnogi pobl sy’n agored i niwed i fyw bywydau cymdeithasol gweithredol yn eu cymunedau eu hunain. Bydd y prosiect yn cynnwys cynnal cyfres o ddigwyddiadau cymdeithasol anffurfiol, hwyliog yn rhad ac am ddim (boreau coffi / gweithgareddau / cerddoriaeth) mewn lleoliadau cymunedol, gyda'r nod o ddenu trigolion i feithrin cysylltiadau newydd trwy gynyddu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol.
Bydd ail agwedd o'r prosiect yn cysylltu gwirfoddolwyr ag unigolion a hoffai gael cymorth ychwanegol, megis lifftiau i apwyntiadau ac oddi yno, dosbarthu siopa, cerdded cŵn neu hyd yn oed cael y cyfle i gael cwmni neu sgwrs.
Er mwyn archwilio a fyddai pobl y cymunedau yma (Talybont, Llanon, Tregaron, Ffostrasol) yn croesawu'r math hwn o brosiect, rydym ar hyn o bryd yn cysylltu â grwpiau cymunedol yn yr ardal ac yn gofyn iddynt gwblhau holiadur 5 munud cyflym i'n helpu i archwilio a hoffech weld y math hwn o gymorth ar gael i'ch preswylwyr.
Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech lenwi'r holiadur ar-lein sydd i'w weld yma:
https://www.smartsurvey.co.uk/t/OX0AO6/
Mae croeso i chi ddosbarthu'r e-bost hwn i'ch ffrindiau, cydweithwyr a rhwydweithiau, neu yn wir unrhywun y credwch a allai helpu i gyfrannu at y prosiect.
Mae Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys) yn edrych i gefnogi dwy gymuned leol yng Ngheredigion drwy'r prosiect Cymunedau Cynaliadwy (a ariennir gan Gronfa Fuddsoddi Cymru) a fydd yn cynnal gweithgareddau....