16/07/2026
Balch iawn o gael cyflwyno'r ardal yma i Sioe Mon - Anglesey Show eleni!
Yn dilyn adborth gan ymwelwyr dros y blynyddoedd diweddar, braint ydi cael cydweithio hefo Stable Minds: Your Safe Space Wales CIC a Canolfan Addysg Y Bont i gyflwyno'r babell sensori gan obeithio gwneud y Sioe yn le fwy hygyrch i bawb gael mwynhau.
Diolch i'r gymdeithas am eu cefnogaeth gyda hyn!
Cofiwch alw heibio'r babell wrth fynd o gwmpas y maes!⭐️
💙 NEWYDD AR GYFER 2026 💙
Un o syniadau Llysgennad Sioe Môn eleni, Mared Edwards, yw cyflwyno Pabell Synhwyraidd newydd i'r sioe. 💙
Wedi'i lleoli ger y Brif Fynedfa, mae'r lle tawel a chroesawgar hwn wedi'i greu ar gyfer unigolion niwroamrywiol, teuluoedd, neu unrhyw un sydd angen seibiant o brysurdeb y sioe.
✨ Lle tawel a diogel
💙 Goleuadau meddal ac adnoddau synhwyraidd
🧸 Man i ymlacio, cymryd seibiant a thawelu
📍 Ger y Brif Fynedfa
Mae'r fenter newydd hon wedi'i datblygu mewn partneriaeth â Stable Minds: Your Safe Space Wales CIC Canolfan Addysg Y Bont.
Mae croeso i bawb, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i'r gofod newydd hwn yn Sioe Môn eleni. 💙
----------
💙 NEW FOR 2026 | NEWYDD AR GYFER 2026 💙
One of our Anglesey Show Ambassador, Mared Edwards' initiatives for this year's show is the introduction of a Sensory Tent / Pabell Synhwyraidd. 💙
Located near the Main Entrance, this calm, welcoming space has been created for neurodiverse individuals, families, or anyone who needs a quiet break away from the hustle and bustle of the show.
✨ Safe and quiet space
💙 Soft lighting and sensory resources
🧸 A place to relax, reset and recharge
📍 Near the Main Entrance
This fantastic new addition has been made possible in partnership with Stabled Minds and Canolfan Addysg Y Bont.
Everyone is welcome. We look forward to welcoming you to this new space at this year's Anglesey Show. 💙