Clwb cerdded Eryri walking club

Call Directions Website Contact the organisation

Clwb cerdded Eryri walking club Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn trefnu teithiau cerdded i bobl â nam golwg. Cwmniaeth tywysydd a thrafnidiaeth o Fangor ar gael.

North Wales Society of the Blind arrange walks for the sight impaired. Guides and transport from Bangor available. English Translation Below

Clwb Cerdded Eryri
Hoffech chi ymuno a clwb cerdded sydd yn rhoi cyfle i adenill annibyniaeth, i droedio llwybrau gwahanol yn nghwmni ffrindiau newydd ? Mae clwb cerdded Eryri yn grwp o gerddwyr brwdfrydig sy'n mwynhau bod allan yn yr awyr iach ac sy'n hoffi cwrdd â phobl newydd. Mae yno griw o wirfoddolwyr gwych ar gael i gynnal sgwrs neu i gynnig help llaw wrth eich tywys ar hyd y llwybr. Rydym yn cwrdd bob 3ydd dydd yn y mis Mercher yn swyddfa Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor. Rydym yn croesawu aelodau newydd bob amser. Eryri Walking Club

Would you like to join a walking club that gives you the opportunity to regain independence, take different paths with new friends? Eryri walking club is a group of enthusiastic walkers who enjoy being outdoors and who like to meet new people. There is a great group of volunteers available to chat or offer a helping hand along the route. We meet every 3rd Wednesday in the month at the North Wales Society of the Blind office in Bangor. We always welcome new members.

Rhybudd ein taith gerdded nesaf – Rhyd-Ddu-Beddgelert 21.10.26Y mis hwn, byddwn yn cerdded ar hyd Adran 6 Lôn Gwyrfai o ...
06/10/2026

Rhybudd ein taith gerdded nesaf – Rhyd-Ddu-Beddgelert 21.10.26

Y mis hwn, byddwn yn cerdded ar hyd Adran 6 Lôn Gwyrfai o Llwybr Llechi Eryri - Snowdonia Slate Trail, rhwng Rhyd-Ddu a Beddgelert.

(English version also)

Mae'n daith gerdded hawdd a hyfryd, 5.2 milltir (8.4km) o hyd, ar hyd llwybrau a thraciau coedwig, gyda golygfeydd o rai o gopaon uchaf Eryri.

Byddwn yn dechrau'r daith gerdded ym maes parcio Gorsaf Reilffordd Rhyd-Ddu (LL54 6TM), lle mae toiledau ar gael.

Dyma wybodaeth am yr hyn y mae angen i chi ei wybod cyn y daith:
• Byddwn yn dechrau cerdded am 11:30yb
• Bydd y daith yn cymryd tua 3 awr

Bydd angen y canlynol arnoch:
Dillad addas, gan gynnwys esgidiau cerdded, dillad gwrth-ddŵr a chinio pecyn

Fel arfer, mae'r Gymdeithas wedi trefnu bws i adael swyddfeydd Bangor am 10:15yb.

Bydd yn codi teithwyr yn arosfan bws Morrisons Caernarfon am 10:35yb ac yn dychwelyd i Fangor tua 4:00yp.

A fyddech cystal â rhoi gwybod i Bethan Sage Williams yn y Gymdeithas erbyn dydd Gwener 16 Hydref fan bellaf os ydych yn bwriadu ymuno â ni.

Edrychwn ymlaen at eich cwmni unwaith eto y mis hwn.

Lluniau: Llywelyn2000 WiciCommons

Notice of our next walk – Rhyd-Ddu to Beddgelert 21.10.26This month we will be walking along Lôn Gwyrfai's Section 6 of ...
06/10/2026

Notice of our next walk – Rhyd-Ddu to Beddgelert 21.10.26

This month we will be walking along Lôn Gwyrfai's Section 6 of the Llwybr Llechi Eryri - Snowdonia Slate Trail from Rhyd-Ddu to Beddgelert.

(Fersiwn Cymraeg hefyd)

It is a pleasant and easy walk of 5.2 miles (8.4km) along paths and forestry trails with views of some of Eryri's highest peaks.

We will start the walk at Rhyd-Ddu’s Railway Station car park (LL54 6TM) where there are toilets.

Here's some information on what you need to know before the walk:
• We will start walking at 11:30am
• The walk will take approximately 3 hours

You will need:
Appropriate clothing including walking boots, waterproofs and packed lunch

As usual a coach has been provided by the Society, to leave Bangor offices at 10:15am; picking up at Morrisons Caernarfon bus stop at 10:35am and returning to Bangor at approximately 16:00pm.

Would you be as kind as to notify Bethan Sage Williams at the Society at no later than Friday 16 October if you intend to join us.

Looking forward to your company again this month.

Photos: Llywelyn2000 WiciCommons

21/09/2026

Dewch i arddangosfa Sight Village, Llandudno yfory!

Dyma Bethan Sage Williams, Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind yn eich gwahodd i Arddangosfa Sight Village yfory!

I bwy mae o? Deillion, pobl sy’n byw gyda nam golwg a’u teuluoedd

Lle mae o? 9-4yp, yfory, dydd Mawrth, Medi 22, 2026 yn Venue Cymru, Llandudno, LL30 1BB

Be fydd yno? Cyfle i archwilio’r offer diweddaraf. Dros 30 o gwmnïau yn arddangos teclynnau sydd a’r dechnoleg fwyaf blaengar gan gynnwys VisionAid Technologies Ltd, Optelec a llawer mwy.

MYNEDIAD AM DDIM!
--------------------------------

Come to the Sight Village exhibition in Llandudno tomorrow!

Here is Bethan Sage Williams from Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind, inviting you to the Sight Village exhibition tomorrow!

Who is it for? Blind people, people living with sight loss, and their families.

Where is it? 9am–4pm, tomorrow, Tuesday, September 22, 2026, at Venue Cymru, Llandudno, LL30 1BB.

What will be there? An opportunity to explore the latest equipment. Over 30 companies showcasing devices featuring cutting-edge technology, including VisionAid Technologies Ltd, Optelec, and many more.

FREE entry!

Daeth 24 o gerddwyr a phump ci tywys gyda ni ar ein taith gerdded y Ddwy Bont heddiw – dydd Mercher, Medi 16, 2026.Y ddw...
16/09/2026

Daeth 24 o gerddwyr a phump ci tywys gyda ni ar ein taith gerdded y Ddwy Bont heddiw – dydd Mercher, Medi 16, 2026.
Y ddwy bont oedd Phont Grog y Borth a elwir hefyd yn Pont Menai a Phont Britannia.
(English version also)
Roedd yn daith hawdd o tua 4 milltir.
Fe ddechreuon ni’r daith ar ochr Bangor o Bont Menai, lle gerddon ni ar hyd rhan o’r llwybr arfordirol tuag at Bont Britannia.
Aethon ar hyd llwybr y goedwig gymysg sy’n rhan o ardd fotaneg Treborth gyda’r Afon Menai ar y dde inni.
Yna, ar ol cyrraedd Pont Britannia fe ddychwelon ni ar hyd yr un llwybr i Bont Menai, gan aros yn y gerddi i gael cinio a defnyddio’r cyfleusterau cy’n croesi draw i Ynys Môn.
Fe barhaon ni â’n taith gerdded i Ynys Tysilio
Credir bod yr hen eglwys wedi’i hadeiladu ym 1400.
Yna aethom ar hyd Rhodfa’r Belgiaid, a synnu ar bobl yn canwio er gwaetha’r cerrynt cryf.
Fe aethom d tref Porthaethwy cyn gwneud ein ffordd yn ôl i’r bont i groesi yn ôl i’r tir mawr ac i’n man cychwyn a chael ein cludo yn ol i Fangor gan ein bws a phawb wedi mwynhau.

Twenty-four walkers and five guide dogs joined us on our 'Two Bridges' walk today – Wednesday, September 16, 2026.(Fersi...
16/09/2026

Twenty-four walkers and five guide dogs joined us on our 'Two Bridges' walk today – Wednesday, September 16, 2026.
(Fersiwn Cymraeg hefyd)
The two bridges were the Menai Suspension Bridge (also known as Pont Menai) and the Britannia Bridge.
It was an easy walk of about 4 miles.
We started the walk on the Bangor side of the Menai Suspension Bridge, walking along part of the coastal path towards the Britannia Bridge.
The path went along a mixed woodland that forms part of Treborth Botanic Garden, with the Menai Strait on our right.
After reaching the Britannia Bridge, we returned along the same path to the Menai Suspension Bridge, stopping in the gardens for lunch and to use the facilities before crossing over to Anglesey.
We continued our walk to Ynys Tysilio.
The old church there is believed to have been built in 1400.
Then we walked along Belgian Promenade, marvelling at people canoeing on Afon Menai, despite the strong current.
We headed to the town of Porthaethwy before making our way back to the bridge to cross back to the mainland and our starting point, where we were transported back to Bangor by bus.
Everybody agreed that it had been a thoroughly enjoyable day for everyone.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnal cyfarfod i drafod eu cynlluniau trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol.(Scroll down for Engli...
09/09/2026

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnal cyfarfod i drafod eu cynlluniau trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol.
(Scroll down for English version)
Cynhelir y cyfarfod ar Medi 15, 2026 rhwng 10 ac 11 y.b. ar TEAMS.
Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar Deithio Llesol; cyfle i drafod sut brofiad yw teithio o amgylch Ynys Môn a sut y gellir gwella hyn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, cysylltwch â [email protected].
----------------------------------------
Cyngor Sir Ynys Môn Isle of Anglesey County Council is
holding a meeting to discuss their transport plans for the future.
The meeting is on September 15, 2026 from 10-11am on TEAMS.
The meeting will be about Active Travel, a chance to talk about what it is like to travel around Ynys Môn and how this can be improved.
If you are interested in joining please contact [email protected]
📸Mae'r llun yn dangos arwydd 'Croeso i Ynys Môn' 'Welcome to Anglesey' ym Mhorthaethwy gyda arwydd arall, llai o faint, gyda 'Ffordd Cymru . Wales Way' oddi tano. Mae'r awyr yn las yn y llun.
----------------------------------------
📸The photo shows a 'Croeso i Ynys Môn' / 'Welcome to Anglesey' sign in Porthaethwy, with another, smaller sign reading 'Ffordd Cymru . Wales Way' beneath it. The sky in the photo is blue.(WiciCommons/Meirion)

👉Dim ond tair wythnos i fynd!🏟️Dros 30 o stondinau!❤️Tocynnau AM DDIM!🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿Dewch i Sight Village, Llandudno!✅Dydd Mawr...
07/09/2026

👉Dim ond tair wythnos i fynd!
🏟️Dros 30 o stondinau!
❤️Tocynnau AM DDIM!
🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿Dewch i Sight Village, Llandudno!
✅Dydd Mawrth, Medi 22, 2026

👉Only three weeks to go!🏟️Over 30 stands!❤️FREE tickets!🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿Come to Sight Village, Llandudno!✅Tuesday, September 22, ...
07/09/2026

👉Only three weeks to go!
🏟️Over 30 stands!
❤️FREE tickets!
🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿Come to Sight Village, Llandudno!
✅Tuesday, September 22, 2026! Gweld Llai

Hysbysiad: Taith Gerdded y Ddwy Bont – Dydd Mercher, Medi 16, 2026Byddwn yn ymweld â Phont Grog y Borth/Pont Menai a Pho...
03/09/2026

Hysbysiad: Taith Gerdded y Ddwy Bont – Dydd Mercher, Medi 16, 2026
Byddwn yn ymweld â Phont Grog y Borth/Pont Menai a Phont Britannia ar ein taith gerdded y mis hwn.
(English version also)
Mae'n daith hawdd o tua 4 milltir.
Bydd y daith yn cychwyn ar ochr Bangor o Bont Menai, lle byddwn yn mynd ar hyd rhan o’r llwybr arfordirol tuag at Bont Britannia.
Yna byddwn yn dychwelyd ar hyd yr un llwybr i Bont Menai, ac yn croesi draw i Ynys Môn.
Byddwn yn parhau â’n taith gerdded i Ynys Tysilio
Credir bod yr hen eglwys wedi’i hadeiladu ym 1400. Yna byddwn yn mynd ar hyd Rhodfa’r Belgiaid, lle rydym yn bwriadu cael cinio tua 12:30yp.
Mae meinciau ar Rodfa’r Belgiaid lle gallwn eistedd i fwyta.
Ar ôl egwyl fer, byddwn yn parhau ar hyd y rhodfa ac yn cerdded o amgylch tref Porthaethwy, gan wneud ein ffordd yn ôl i’r bont i groesi yn ôl i’r tir mawr ac i’n man cychwyn.
Dyma wybodaeth am yr hyn sydd angen i chi ei wybod cyn y daith:
• Byddwn yn cyfarfod ar ochr Treborth o Bont Menai
• Bydd y daith yn cymryd tua 3 awr, gan ddechrau am 11yb
Bydd angen y canlynol arnoch: Dillad addas gan gynnwys esgidiau cerdded, dillad gwrth-ddŵr a phecyn cinio.
Fel arfer, mae bws wedi’i ddarparu gan CDGC i adael ein swyddfeydd ym Mangor am 10:30yb a dychwelyd tua 14:45yp.
Os ydych yn teithio mewn car, mae digon o le parcio rhwng Pont Menai a Gardd Fotaneg Treborth.
A fyddech cystal â rhoi gwybod i Bethan Sage Williams (CDGC.) erbyn dydd Gwener, Medi 11 fan bellaf, os ydych yn bwriadu ymuno â ni.
Edrychwn ymlaen at eich cwmni eto’r mis hwn.
Mark
📸Mae’r llun yn dangos Pont Menai (Menai Suspension Bridge). Anne Burgess/WiciCommons Gweld Llai

Address

325 Stryd Fawr, Bangor
Gwynedd
LL571YB

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Clwb cerdded Eryri walking club posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Clwb cerdded Eryri walking club:

Shortcuts

Share