Maethu Cymru Sir y Fflint

Maethu Cymru Sir y Fflint Gallwch wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn lleol heddiw.
💜💜💜
📞 01352 701965

Rydym yn croesawu eich sylwadau ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ond mae rhai pethau – fel hiliaeth, rhywiaeth, homoffobia, iaith/delweddau anweddus a bygythiadau – na fyddwn yn eu goddef. Dangoswch barch at bobl eraill a darllenwch ein polisi sylwadau cyn rhoi sylwadau:
https://maethucymru.llyw.cymru/ein-polisi-sylwadau-cyfryngau-cymdeithasol-maethu-cymru/

“Wrth eich ochr bob cam o’r ffordd.” 💜Mae maethu gyda ni yn golygu nad ydych byth ar eich pen eich hun. O’ch ymholiad cy...
19/06/2026

“Wrth eich ochr bob cam o’r ffordd.” 💜

Mae maethu gyda ni yn golygu nad ydych byth ar eich pen eich hun. O’ch ymholiad cyntaf, drwy hyfforddiant, ac wrth groesawu plentyn i’ch cartref, mae ein tîm yma i’ch tywys a’ch cefnogi ym mhob carreg filltir ar y ffordd.

Yn barod i wneud gwahaniaeth yn Sir y Fflint? Byddwn wrth eich ochr bob cam o’r ffordd.

Dechreuwch eich taith heddiw. 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni

Mae gofal maeth yn aros yn lleol gyda Maethu Cymru. 💜 Drwy faethu’n uniongyrchol gyda’ch awdurdod lleol, gall plant a ph...
17/06/2026

Mae gofal maeth yn aros yn lleol gyda Maethu Cymru. 💜

Drwy faethu’n uniongyrchol gyda’ch awdurdod lleol, gall plant a phobl ifanc aros yn eu cymuned eu hunain pan fydd hynny’n iawn iddyn nhw — yn agos at ffrindiau, yr ysgol, a’r pethau sy’n bwysicaf iddynt.

Mae hyn yn eu cadw’n gysylltiedig, yn creu sefydlogrwydd, ac yn eu helpu i gadw eu synnwyr o hunaniaeth.

Dysgwch sut y gallwch helpu plentyn lleol yn Sir y Fflint heddiw.
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

Antur i’w chofio gyda’r Gryffalo! ✨🌲Yn ystod gwyliau hanner tymor bu i deuluoedd o Ganolfan Mockingbird Cheryl fwynhau d...
15/06/2026

Antur i’w chofio gyda’r Gryffalo! ✨🌲

Yn ystod gwyliau hanner tymor bu i deuluoedd o Ganolfan Mockingbird Cheryl fwynhau diwrnod allan gwych yn lleoliad Llwybr y Gryffalo yng Nghoedwig Delamere. O chwilio am hoff gymeriadau ar hyd y llwybr i grwydro drwy’r goedwig gyda’i gilydd cafwyd llawer o wenu a chwerthin gydag atgofion yn cael eu creu ar hyd y daith.✨🌲

Roedd y diwrnod yn gyfle gwych i blant a gofalwyr i dreulio amser gyda’i gilydd, mwynhau yr awyr agored a chysylltu gyda theuluoedd eraill sy’n maethu mewn lleoliad hamddenol a llawn hwyl. 🥰

💜Mae’r profiadau hyn a rennir yn greiddiol i Mockingbird. Drwy ddod â theuluoedd sy’n maethu ynghyd, mae’r canolfannau yn creu synnwyr o berthyn, cyfeillgarwch a chefnogaeth sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i weithgareddau a drefnir, gan olygu nad oes neb yn teimlo fel ei fod yn maethu ar ei ben ei hun.

Allech chi wneud gwahaniaeth a maethu gyda’ch Awdurdod Lleol? Os ydych yn byw yn Sir y Fflint, cysylltwch â Maethu Cymru Sir y Fflint a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu i benderfynu a yw maethu yn iawn i chi. 💜

👉 https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/mockingbird/

Lle mae gofal maeth yn teimlo fel teulu 💜Pan ydych yn maethu gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, rydych yn rhan o gymuned sy...
12/06/2026

Lle mae gofal maeth yn teimlo fel teulu 💜

Pan ydych yn maethu gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, rydych yn rhan o gymuned sy’n eich cefnogi, eich gwerthfawrogi ac yn eich dathlu bob cam o’r ffordd. 💚

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

Cofiwch: Nid oes angen i chi wybod popeth. Dim ond malio sydd angen i chi ei wneud💜Cliciwch isod i ddarganfod sut y gall...
10/06/2026

Cofiwch: Nid oes angen i chi wybod popeth. Dim ond malio sydd angen i chi ei wneud💜

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

"Y peth mwyaf gwerth chweil am faethu yw gweld plentyn yn ffynnu, dysgu ymddiried, a gwenu eto. Mae'n ymwneud â chael ef...
08/06/2026

"Y peth mwyaf gwerth chweil am faethu yw gweld plentyn yn ffynnu, dysgu ymddiried, a gwenu eto. Mae'n ymwneud â chael effaith gadarnhaol a'u cadw'n ddiogel yn y gymuned." 💜

- Sue, Gofalwr maeth awdurdod lleol a gofalwr hwb Mockingbird, Sir y Fflint

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇

https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

Eisiau gwybod am faethu gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, eich tîm methu awdurdod lleol? Ymunwch â ni ar gyfer Paned gyda ...
03/06/2026

Eisiau gwybod am faethu gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, eich tîm methu awdurdod lleol? Ymunwch â ni ar gyfer Paned gyda Gofalwr – sgwrs un-i-un gyda gofalwr maeth lleol profiadol

☕Chi sy’n dewis yr amser a’r lleoliad
📍Ni fydd yn trefnu bob dim arall
🥤Ac yn talu am eich diod!

Mae’n gyfle gwych i ofyn cwestiynau, clywed straeon go iawn a gweld a yw maethu yn addas i chi.

📲Gallwch archebu a darganfod mwy yn:
👉 https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/paned-gyda-gofalwr/

Am antur hanner tymor bythgofiadwy gawsom ni yn Woolly Experiences Therapy Farm!  🦙🐴🐓Daeth teuluoedd i ymuno â ni am ddi...
01/06/2026

Am antur hanner tymor bythgofiadwy gawsom ni yn Woolly Experiences Therapy Farm! 🦙🐴🐓

Daeth teuluoedd i ymuno â ni am ddiwrnod hyfryd yn llawn profiadau newydd, chwerthin a digonedd o ffrindiau blewog. Cafodd y plant a’r gofalwyr gyfle i fynd â’r alpacas, y merlod a’r asynnod am dro drwy harddwch cefn gwlad, gan ddysgu popeth am yr anifeiliaid a helpu i’w bwydo ar hyd y daith. 🌳

Cafodd y plant hefyd fwynhau rhywfaint o therapi ieir, lle buont yn treulio amser yn gafael yn yr ieir a’u hanwesu, gan wenu a chwerthin drwy gydol y dydd.🐓

Mae darparu cyfleoedd fel hyn i’n plant a’n teuluoedd mor bwysig. Arbennig oedd gweld pawb yn rhoi cynnig ar bethau newydd, meithrin hyder, creu atgofion ar y cyd a rhannu amser braf tu allan mewn awyrgylch mor groesawgar. 🧡

Diolch yn fawr i bawb yn Woolly Experiences am ddiwrnod mor arbennig. ’Allwn ni ddim aros tan yr antur nesaf! 💜

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

💜 Gyda’n gilydd, rydym yn gwneud i faethu deimlo fel bod yn rhan o deuluYm Maethu Cymru Sir y Fflint, credwn fod cefnoga...
27/05/2026

💜 Gyda’n gilydd, rydym yn gwneud i faethu deimlo fel bod yn rhan o deulu

Ym Maethu Cymru Sir y Fflint, credwn fod cefnogaeth yn fwy na dim ond galwad ffôn neu gyfarfod. Mae’n golygu cymuned, cysylltiad a gwybod nad ydych byth ar eich pen eich hun 🤝

Mae ein gofalwyr yn dod at ei gilydd trwy gydol y flwyddyn ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau cyfeillgar a hamddenol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn. O grwpiau babanod a phlant cyn ysgol i Grosio gyda Rachel, Cymdeithasu gydag Andy a Chanhwyllau gyda Charley, mae bob amser rhywbeth ar gael i gymryd rhan ynddo.😀

Rydym wedi rhannu gwaith anadlu, ioga, crefftau gwydr, nosweithiau pitsa a digonedd o chwerthin ar hyd y ffordd. Mae pob sesiwn yn gyfle i ymlacio, dysgu rhywbeth newydd a threulio amser gyda phobl sydd wir yn deall maethu. ✨

Mae nifer o’r gweithgareddau hyn yn cael eu harwain gan ein gofalwyr ac aelodau o’n tîm, sy’n defnyddio eu sgiliau a’u hangerdd er mwyn cefnogi eraill. 🌟

Pan ydych yn maethu gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, rydych yn rhan o gymuned sy’n eich cefnogi, eich gwerthfawrogi ac yn eich dathlu bob cam o’r ffordd. 💚

👉 https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

Ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth, fe wnaethom ofyn cwestiwn syml i’n gofalwyr maeth awdurdod lleol: Beth mae maethu yn ei ...
23/05/2026

Ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth, fe wnaethom ofyn cwestiwn syml i’n gofalwyr maeth awdurdod lleol: Beth mae maethu yn ei olygu i chi?🧐

“Mwynhau gweithgareddau yn yr awyr agored a gwneud pethau rydym ni’n eu mwynhau gyda’n gilydd.” 💭

Mae maethu yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb. Yr eiliadau bach, bob dydd. Yr heriau. Y drefn sy’n dechrau teimlo’n gartrefol fesul dipyn. Wrth ei wraidd, mae’n golygu bod yno i blentyn sydd angen sefydlogrwydd, gofal a rhywun i gadw eu hochr.💜

Dechreuwch eich taith heddiw. 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni

Address

County Offices
Flint
CH65BD

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Maethu Cymru Sir y Fflint posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Maethu Cymru Sir y Fflint:

Share