12/06/2026
Mae prosiect newydd ym Mharc Bryn Bach yn Nhredegar yn helpu pobl ifanc i ennill sgiliau gwerthfawr tra'n gwneud gwahaniaeth i'w hamgylchedd lleol 🌳
Mae'r prosiect yn cael ei gyflwyno fel rhan o ddarpariaeth gwaith ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr ac mae'n dod â phobl ifanc a thîm tiroedd y parc at ei gilydd i ddarparu cyfleoedd dysgu ymarferol mewn lleoliad awyr agored.
Wythnos yma yw’r Great Big Green Week, dathliad mwyaf y DU o weithredu cymunedol i fynd i'r afael â newid hinsawdd a gwarchod natur.
Mae'r prosiect yn helpu i gefnogi pobl ifanc sy'n dechrau dangos arwyddion o ymddieithrio o addysg. Y nod yw eu hail-ymgysylltu trwy weithgareddau ystyrlon sy'n meithrin hyder, sgiliau ac ymdeimlad o gyflawniad.
Darllen mwy: https://loom.ly/hyeB1f4
BG - Youth Service Aneurin Leisure Parc Bryn Bach