30/03/2026
Scroll down for English:
Yn ddiweddar, croesawodd Cymorth Cynllunio Cymru gydweithwyr o Community Places Northern Ireland. Roedd yn gyfle ysbrydoledig i gyfnewid gwybodaeth dros ddeuddydd o amgylch Dydd Gŵyl Sant Padrig.
Yn ystod y deuddydd, buom yn rhannu gwybodaeth, archwilio ein systemau cynllunio cyffredin, a thynnu sylw at bŵer cynllunio dan arweiniad y gymuned. Roedd yn gyfle gwych i ddangos ein gwaith gyda Chyngor Tref Bae Colwyn gan ddod â phroses y Cynllun Lle (Place Plan) yn fyw trwy ddangos profiadau go iawn, a’r effaith a gafwyd yn lleol.
Roedd yn braf hefyd ymgysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gan rannu mewnwelediadau ar gynllunio lleoedd a gweld â'n llygaid ein hunain yr adfywio cyffrous sy'n digwydd ledled Bae Colwyn.
Roedd yn gyfle gwerthfawr i gryfhau partneriaethau, rhannu’r pethau a ddysgwyd a pharhau i gynyddu cysylltiadau rhwng Cymorth Cynllunio Cymru a Gogledd Iwerddon, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad cyffredin i rymuso cymunedau trwy gynllunio cydweithredol.
Planning Aid Wales recently welcomed colleagues from Community Places Northern Ireland to North Wales for an inspiring two-day knowledge exchange visit, held around St Patrick’s Day.
Over two days, we shared knowledge, explored our respective planning systems, and highlighted the power of community-led planning in action. It was a fantastic opportunity to showcase our work with the Bay of Colwyn Town Council, bringing the Place Plan process to life through real experiences and local impact.
We also valued the opportunity to engage with Conwy County Borough Council, exchanging insights on place planning alongside seeing first-hand the exciting regeneration taking place across Colwyn Bay.
A valuable opportunity to strengthen partnerships, share learning and continue building connections between Wales and N. Ireland Planning Aid Services, reinforcing our shared commitment to empowering communities through collaborative planning.
www.planningaidwales.org.uk
https://www.colwynplaceplan.com/video
https://vimeo.com/1101241273