16/10/2026
Rwyt ti'n haeddu teimlo'n ddiogel. Ni ddylai unrhyw un deimlo eu bod wedi eu targedu oherwydd pwy ydyn nhw.
Os wyt ti'n meddwl dy fod wedi cael dy dargedu oherwydd dy hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol, neu anabledd, gallai hyn fod yn drosedd gasineb - ac nid oes rhaid i ti ddelio ag ef ar dy ben dy hun.
Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yma i ti 24/7. Mae'r cyngor yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol, mewn unrhyw iaith. Ffonia 0300 3031 982.