29/08/2026
We are delighted to welcome Beverley Humphreys MBE as a new Ambassador for the Black Welsh Music Awards.
Beverley is an acclaimed Welsh singer, broadcaster, presenter and community champion whose remarkable career spans opera, theatre, radio, television and international concert stages.
A graduate of Cardiff University, she began her professional career with Welsh National Opera, performing as Rosina in The Barber of Seville. She has since performed at major venues including the Royal Albert Hall, where she sang before Her Late Majesty Queen Elizabeth II and Prince Philip, and has appeared internationally from Vancouver to New York.
Her broadcasting career has been equally distinguished. Beverley has presented extensively for the BBC, including BBC Radio Wales and BBC Radio 4, and currently presents her weekly programme, Beverley’s World of Music, on BBC Radio Wales and BBC Sounds.
Beyond music and broadcasting, Beverley has dedicated decades to community cohesion, racial equality, mental health, homelessness, refugee support and preserving the legacy of Paul Robeson. She is a former High Sheriff of Mid Glamorgan, a Deputy Lieutenant, and in 2021 was awarded an MBE for services to Community Cohesion and Broadcasting.
Her commitment to music, equality, Wales and bringing communities together reflects so much of what the Black Welsh Music Awards stands for.
Beverley, we are incredibly proud to welcome you to the BWMA family and look forward to everything we can achieve together.
Croeso cynnes iawn, Beverley Humphreys MBE.
Welcome to the Black Welsh Music Awards. ❤️
Mae’n bleser mawr gennym groesawu Beverley Humphreys MBE fel Llysgennad newydd i Wobrau Cerddoriaeth Ddu Cymru.
Mae Beverley yn gantores, darlledwraig, gyflwynydd ac eiriolwraig gymunedol uchel ei pharch yng Nghymru, gyda gyrfa nodedig sy’n ymestyn ar draws opera, theatr, radio, teledu a llwyfannau cyngerdd rhyngwladol.
Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, dechreuodd ei gyrfa broffesiynol gydag Opera Cenedlaethol Cymru, gan berfformio rhan Rosina yn The Barber of Seville. Ers hynny, mae wedi perfformio mewn lleoliadau mawr gan gynnwys y Royal Albert Hall, lle canodd o flaen y diweddar Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II a’r Tywysog Philip, yn ogystal â pherfformio’n rhyngwladol o Vancouver i Efrog Newydd.
Mae ei gyrfa ym maes darlledu yr un mor nodedig. Mae Beverley wedi cyflwyno’n helaeth i’r BBC, gan gynnwys BBC Radio Cymru/Wales a BBC Radio 4, ac mae’n cyflwyno ei rhaglen wythnosol Beverley’s World of Music ar BBC Radio Wales a BBC Sounds.
Y tu hwnt i gerddoriaeth a darlledu, mae Beverley wedi ymroi dros ddegawdau i gydlyniant cymunedol, cydraddoldeb hiliol, iechyd meddwl, digartrefedd, cefnogi ffoaduriaid a chadw etifeddiaeth Paul Robeson yn fyw. Mae hi’n gyn Uchel Siryf Morgannwg Ganol, yn Ddirprwy Raglaw, ac yn 2021 dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaeth i Gydlyniant Cymunedol a Darlledu.
Mae ei hymrwymiad i gerddoriaeth, cydraddoldeb, Cymru a dod â chymunedau ynghyd yn adlewyrchu cymaint o’r hyn y mae Gwobrau Cerddoriaeth Ddu Cymru yn ei gynrychioli.
Beverley, rydym yn hynod falch o’ch croesawu i deulu BWMA ac yn edrych ymlaen at bopeth y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd.
Croeso cynnes iawn, Beverley Humphreys MBE.
Croeso i Wobrau Cerddoriaeth Ddu Cymru. ❤️