24/08/2026
We created an interactive Bilingual Train Installation.
Visitors could drive the train themselves from the station, receive a message from a wonderful stranger, and leave one in return.
The prompt was simple:
“Write something worth finding.”
“Ysgrifennwch rywbeth sy’n werth ei ffeindio.”
At the loading station, you could pick up a note for yourself before writing one for the next stranger. Most importantly, every message had to be sealed with love, using heart stickers, before being sent on its journey.
The whole installation was made using resources we already had in-house. The train came from our cupboard of toys, alongside a huge table, green screen fabric and a collection of painted cardboard rescued from a skip.
Working with what we had, we created something playful and surprisingly touching. It was lovely to watch members of the public connect with one another through these tiny messages.
The installation was created as part of our 2026 CULVR Open Day, supported by Arts Council of Wales.
____________
Fe wnaethom ni greu Gosodiad Trên Dwyieithog Rhyngweithiol
Roedd yn cynnig cyfle i ymwelwyr yrru’r trên o’r orsaf, derbyn neges gan ddieithryn bendigedig, ac yna gadael neges eu hunain.
Roedd y cam cyntaf yn syml:
“Ysgrifennwch rywbeth sy’n werth ei ffeindio.”
“Write something worth finding.”
Yn yr orsaf lwytho, roedd cyfle i chi godi neges i’w darllen cyn sgwennu’r neges nesaf ar gyfer y person nesaf. Y peth mwyaf pwysig – roedd rhaid selio pob neges â chariad, gan ddefnyddio sticeri calon, cyn anfon y neges ar ei siwrnai.
Fe wnaethom ni ddefnyddio pob math o ddeunyddiau – stwff oedd gyda ni o gwmpas y ganolfan - i greu’r gosodwaith. Daeth y trên o’n cwpwrdd teganau, ac roedd gyda ni fwrdd anferth, deunydd i greu sgrin gwyrdd, a phentwr o ddarnau o gardfwrdd wedi’u peintio, (a gafodd eu hachub o sgip).
Gan ddefnyddio beth oedd gyda ni, fe wnaethom ni greu rhywbeth bach chwareus oedd hefyd yn deimladwy a chofiadwy. Roedd yn hyfryd i weld ymwelwyr yn cysylltu â’i gilydd drwy’r negeseuon bach twymgalon hyn.
Cafodd y gosodwaith ei greu fel rhan o Ddiwrnod Agored CULVR 2026, a gafodd ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.