Chwarae Cymru

Directions Website

Chwarae Cymru Chwarae Cymru yw'r elusen cenedlaethol ar gyfer chwarae plant.

Mae ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Marianne Mannello yn cymryd rhan ym mhennod diweddaraf podlediad Yr Iechyd a'r Gofal Cy...
16/10/2026

Mae ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Marianne Mannello yn cymryd rhan ym mhennod diweddaraf podlediad Yr Iechyd a'r Gofal Cymdeithasol Rydym Eu Heisiau gyda Alyson Thomas. Mae’r bennod yn canolbwyntio ar pam mae chwarae yn ran hanfodol o iechyd, lles ac adferiad plant.

Maent yn trafod sut mae chwarae yn gwneud i blant deimlo’n llai pryderus, adeiladu eu gwydnwch a rhoi llais cryfach iddynt yn eu gofal, yn ogystal â datblygiadau newydd cyffrous drwy brosiect Chwarae Cymru a Starlight, Chwarae’n Dda yng Nghymru.

Gwyliwch y podlediad ar: https://www.youtube.com/watch?v=sa0Ih547Hqw

15/10/2026

Rydym wedi symud swyddfa!

Ein cyfeiriad newydd yw: Sbarc | Spark, Heol Maendy, Caerdydd CF24 4HQ

Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) newydd ar gyfer gwaith chwarae wedi eu cyhoeddi 🎉Mae’r NOS yn gyfres o saf...
12/10/2026

Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) newydd ar gyfer gwaith chwarae wedi eu cyhoeddi 🎉

Mae’r NOS yn gyfres o safonau sy’n amlinellu’r cymwyseddau sydd eu hangen ar weithwyr chwarae yn eu gwaith. Bydd y NOS newydd yn cael eu defnyddio i ddiweddaru cymwysterau gwaith chwarae a gall gweithwyr chwarae a chyflogwyr hefyd eu defnyddio i ddatblygu hyfforddiant, swydd ddisgrifiadau ac i asesu safon ymarfer gwaith chwarae.

Ynghyd â’r NOS, mae Consortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU hefyd wedi cyhoeddi Map Swyddogaethol a Geirfa.

Dysgwch fwy ar: https://chwarae.cymru/gwaith-chwarae/nos/

Mae’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd heddiw💚Nid hwyl yn unig yw chwarae – mae hefyd yn hanfodol i iechyd meddwl plant. I d...
10/10/2026

Mae’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd heddiw💚

Nid hwyl yn unig yw chwarae – mae hefyd yn hanfodol i iechyd meddwl plant. I ddysgu mwy, darllenwch ein taflen wybodaet sy’n disgrifio sut mae chwarae’n gwneud cyfraniad hollbwysig at les emosiynol plant ac arddegwyr.
Ymwelwch â’n gwefan i’w lawrlwytho: https://chwarae.cymru/publications_category/play-mental-health-and-wellbeing/

I orffen Wythnos Chwarae mewn Gofal Iechyd rydym yn cyhoeddi ein prosiect newydd – Chwarae’n Dda yng Nghymru. Rydym yn g...
09/10/2026

I orffen Wythnos Chwarae mewn Gofal Iechyd rydym yn cyhoeddi ein prosiect newydd – Chwarae’n Dda yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda Starlight Children's Foundation i gefnogi dull strategol tuag at chwarae mewn lleoliadau gofal iechyd ar draws Cymru.

I ddysgu mwy am y prosiect Chwarae’n Dda yng Nghymru ewch at: https://chwarae.cymru/news_category/play-well-in-wales-project/

Mae’n Wythnos Chwarae mewn Gofal Iechyd – mae’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae yn rhoi gwybodaeth am bwysigrwydd a buddi...
08/10/2026

Mae’n Wythnos Chwarae mewn Gofal Iechyd – mae’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae yn rhoi gwybodaeth am bwysigrwydd a buddiannau chwarae mewn lleoliadau gofal iechyd ac mae’n gwneud argymhellion ar gyfer polisi gofal iechyd sy’n ymwneud â chwarae yng Nghymru.

Darllenwch y Ffocws ar chwarae ar:

Mae’n Wythnos Chwarae mewn Gofal Iechyd (5 - 9 Hydref 2026)Mae’n taflen wybodaeth yn trafod effaith gadarnhaol chwarae a...
05/10/2026

Mae’n Wythnos Chwarae mewn Gofal Iechyd (5 - 9 Hydref 2026)

Mae’n taflen wybodaeth yn trafod effaith gadarnhaol chwarae ar les plant ac arddegwyr mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill.

Mae’n disgrifio’r gwahanol rolau medrus ac arbenigol sydd gan y gweithlu chwarae iechyd ac yn egluro pam ei bod yn bwysig darparu gwahanol fannau a chyfleoedd i blant mewn lleoliadau gofal iechyd chwarae.

Darllenwch Chwarae mewn gofal iechyd ar: https://chwarae.cymru/publications_category/chwarae-gofaliechyd/

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd terfynol ar gyfer yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae. Ma...
01/10/2026

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd terfynol ar gyfer yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae.

Mae’r adroddiad yn amlinellu’r cynnydd a wnaed rhwng mis Chwefror 2025 a mis Mai 2026 a chamau gweithredu i’w rhoi ar waith ar ôl mis Mai 2026.

Mae fersiynau plant a phobl ifanc ar gael hefyd.

Dysgwch fwy ar: https://chwarae.cymru/news_category/ministerial-review-of-play-final-progress-report/

Address

Tŷ Parc, Heol Y Brodyr Llwydion
Cardiff
CF103AF

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 4:30pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Chwarae Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share