It is tailored to meet Deaf and Hard of Hearing Young People. We cater for Deaf and Hard of Hearing Young People who communicate orally or in British Sign Language. It is led by Stuart Parkinson, Senior Youth Worker a deaf person himself and also a BSL user. He is supported by a team of volunteers. BSL/English Interpreters are also on hand to ensure that communication needs are met at all times. W
e have table tennis facilities, flip chart, tv, screen and projector. We also run some art activities and activities outside the Cardiff Deaf Centre. To date we have run Teen Fit sessions, visited other Youth Centres and we also run joint activities with Talking Hands Youth Club based in Swansea. Our facebook group was to ensure that there is effective communication between all youth members, Interpreters, Volunteers and Parents. For child protection issues we ensure that Parents are added to the page so that any issues that may arise can be sorted out swiftly. Mae Clwb Ieuenctid Cŵl Pobl Fyddar Caerdydd yn ddarpariaeth gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Caerdydd. Caiff ei deilwra i ddiwallu anghenion Pobl Ifanc Fyddar a Thrwm eu Clyw. Rydym yn darparu ar gyfer Pobl Ifanc Byddar a Thrwm eu Clyw sy’n cyfathrebu ar lafar neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Caiff ei arwain gan Stuart Parkinson, Uwch Weithiwr Ieuenctid sy’n berson byddar ei hun ac yn ddefnyddiwr BSL. Caiff ei gefnogi gan dîm o wirfoddolwyr. Mae dehonglwyr BSL/Saesneg wrth law drwy’r amser i ddiwallu anghenion cyfathrebu pawb. Mae gennym gyfleusterau tenis bwrdd, siart troi, teledu, sgrîn a thaflunydd. Rydym hefyd yn cynnig gweithgareddau celf a gweithgareddau tu allan i Ganolfan Pobl Fyddar Caerdydd. Hyd yn hyn rydym wedi cynnal sesiynau Pobl Ifanc Heini, ac ymweld â Chanolfannau Ieuenctid, ac rydym yn cynnal gweithgareddau ar y cyd â Chlwb Ieuenctid Talking Hands yn Abertawe. Crëwyd ein grŵp Facebook er mwyn sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng yr holl aelodau ieuenctid, dehonglwyr, gwirfoddolwyr a rhieni. I sicrhau diogelwch y plant rydym yn gwneud yn siŵr bod rhieni yn cael eu cynnwys ar y dudalen Facebook fel y gellir datrys unrhyw faterion sy'n codi yn gyflym.