Children in Wales - Plant yng Nghymru

Call Directions Website

Children in Wales - Plant yng Nghymru CIW are the national umbrella body for organisations and individuals who work with children.

Children in Wales is the national umbrella body for organisations and individuals who work with children, young people and their families in Wales.

Yfory yw  , nodyn atgoffa bod gormod o fabanod, blant a phobl ifanc yng Nghymru yn dal i gael eu heffeithio gan dlodi a’...
16/10/2026

Yfory yw , nodyn atgoffa bod gormod o fabanod, blant a phobl ifanc yng Nghymru yn dal i gael eu heffeithio gan dlodi a’r heriau y mae’n eu creu.

Dyna pam mae Plant yng Nghymru eisiau clywed yn uniongyrchol gan blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr am eu profiadau. Bydd eich barn yn helpu i lunio darlun cliriach o’r ffordd mae tlodi yn effeithio ar deuluoedd ledled Cymru, ac yn llywio camau gweithredu yn y dyfodol.

Cymerwch ychydig funudau i gwblhau arolwg tlodi Plant yng Nghymru, a helpwch i sicrhau bod profiadau bywyd go iawn yn cael eu clywed a’u deall.
Cwblhewch yr arolwg trwy'r linc yn ein bio.
-
Tomorrow is , a reminder that too many babies, children and young people in Wales are still affected by poverty and the challenges it brings.

That’s why Children in Wales wants to hear directly from children, young people, parents and carers about their experiences. Your views will help build a clearer picture of how poverty is affecting families across Wales and inform future action.

Take a few minutes to complete the Children in Wales poverty survey and help make sure lived experiences are heard and understood.
Complete the survey here via the link in our bio.

Do you work with or support neurodivergent young people aged 11-25? You could help shape the future of neurodevelopmenta...
15/10/2026

Do you work with or support neurodivergent young people aged 11-25? You could help shape the future of neurodevelopmental support in Wales.

We're looking for schools, organisations and professionals to help promote an opportunity for young people aged 11-25 to join our advisory group and share their insights to influence future policy and practice.

Our next session takes place on 14 November, 10am-3pm, at the Spark Building, Cathays, Cardiff.

To find out more, email the Young Wales team at [email protected] or sign up here: https://forms.office.com/e/H802qY1xQZ
-
Ydych chi'n gweithio gyda phobl ifanc niwro-amrywiol rhwng 11-25 oed, neu'n eu cefnogi? Gallech chi helpu i lunio dyfodol cymorth niwro-ddatblygiadol yng Nghymru.

Rydym yn chwilio am ysgolion, sefydliadau a gweithwyr proffesiynol i helpu i hyrwyddo cyfle i bobl ifanc rhwng 11-25 oed ymuno â'n grŵp cynghori a rhannu eu mewnwelediadau er mwyn dylanwadu ar bolisi ac arferion yn y dyfodol.

Cynhelir ein sesiwn nesaf ar 14 Tachwedd, rhwng 10am-3pm, yn Adeilad Spark, Cathays, Caerdydd.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at dîm Young Wales yn [email protected] neu cofrestrwch yma: https://forms.office.com/e/H802qY1xQZ

Shwmae bawb! 👋A big hello from everyone at Children in Wales! | Cyfarchion cynnes wrth bawb yn Plant yng Nghymru!We're t...
15/10/2026

Shwmae bawb! 👋

A big hello from everyone at Children in Wales! | Cyfarchion cynnes wrth bawb yn Plant yng Nghymru!

We're the national charity for children and young people in Wales, working with our members and partners to champion children's rights and create positive change for children, young people and families.

At Children in Wales, we're passionate about embracing the Welsh language. That's why we offer Welsh lessons for our team members, from beginner sessions for those taking their first steps in Cymraeg to more advanced classes for colleagues who are already confident Welsh speakers and want to develop their skills further.

Today, we're joining people across Wales in celebrating the Welsh language and encouraging everyone to use one simple word...

Shwmae! 💙
-
Ni yw'r elusen genedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac rydym yn gweithio gyda'n haelodau a'n partneriaid i hyrwyddo hawliau plant a chreu newid cadarnhaol i fabanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd.

Yn Plant yng Nghymru, rydym yn frwdfrydig iawn i hybu'r defnydd o'r iaith Gymraeg. Dyna pam rydym yn cynnig gwersi Cymraeg i aelodau ein tîm – o sesiynau i ddechreuwyr sy'n cymryd eu camau cyntaf yn y Gymraeg, i ddosbarthiadau mwy datblygedig ar gyfer cydweithwyr sydd eisoes yn siaradwyr Cymraeg hyderus ac eisiau datblygu eu sgiliau ymhellach.

Heddiw, rydym yn ymuno â phobl ledled Cymru i ddathlu'r iaith Gymraeg ac yn annog pawb i ddefnyddio un gair syml...

Shwmae! 💙

From thought-provoking discussions to inspiring connections, every Young Wales Summit has celebrated youth voice and chi...
15/10/2026

From thought-provoking discussions to inspiring connections, every Young Wales Summit has celebrated youth voice and children's rights. We're excited to do it all again on 21 November with a Summit shaped by young people, for young people. Sign up here: https://www.eventbrite.co.uk/e/young-wales-summit-2026-uwchgynhadledd-cymru-ifanc-2026-tickets-1999668483263
-
O drafodaethau sy'n ysgogi meddwl i gysylltiadau ysbrydoledig, mae pob Uwchgynhadledd Cymru Ifanc wedi dathlu llais pobl ifanc a hawliau plant. Rydym yn gyffrous i wneud y cyfan eto ar 21 Tachwedd, gydag Uwchgynhadledd sydd wedi'i llunio gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc. Mwy o wybodaeth yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/young-wales-summit-2026-uwchgynhadledd-cymru-ifanc-2026-tickets-1999668483263

No child should go hungry. Yet year after year, children have told us that hunger affects their concentration, participa...
14/10/2026

No child should go hungry. Yet year after year, children have told us that hunger affects their concentration, participation and wellbeing at school. Parents have also shared how they skip meals or cut food budgets to make ends meet.

What is happening in families and communities today?

Complete the 2026 Child and Family Poverty Surveys and help ensure these experiences are heard:

Visit our Children and Young People pages to learn more about Children's Rights, Young Wales, and other projects Children and Young People can get involved with.

Ni ddylai unrhyw blentyn fynd yn llwglyd. Ac eto flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae plant wedi dweud wrthym fod bod yn llwglyd...
14/10/2026

Ni ddylai unrhyw blentyn fynd yn llwglyd. Ac eto flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae plant wedi dweud wrthym fod bod yn llwglyd yn effeithio ar eu canolbwyntio, eu cyfranogiad a'u lles yn yr ysgol. Mae rhieni hefyd wedi rhannu sut maen nhw'n hepgor prydau bwyd neu'n torri cyllidebau bwyd i gadw dau ben llinyn ynghyd.

Beth sy'n digwydd mewn teuluoedd a chymunedau heddiw?

Cwblhewch Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd 2026 a helpwch i sicrhau bod y profiadau hyn yn cael eu clywed:

Bob blwyddyn, mae Plant yng Nghymru, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ECPN), yn cynnal yr Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd. Yr ydym yn awr yn ein 8fed flwyddyn.

Ydych chi'n Arweinydd Diogelu Dynodedig neu'n uwch ymarferydd? | Are you a Designated Safeguarding Lead or senior practi...
13/10/2026

Ydych chi'n Arweinydd Diogelu Dynodedig neu'n uwch ymarferydd? | Are you a Designated Safeguarding Lead or senior practitioner?

Mae ein hyfforddiant Grŵp C dwyieithog, ar-lein, a gyflwynir yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y naill iaith neu'r llall ac sydd am gryfhau eu gwybodaeth am ddiogelu a'u sgiliau arweinyddiaeth.

Archwiliwch ddeddfwriaeth, prosesau amddiffyn plant, rhannu gwybodaeth, cadw cofnodion a mwy – popeth wedi'i gynllunio i'ch helpu i gadw plant yn ddiogel.

Archebwch eich lle heddiw: https://www.eventbrite.co.uk/e/group-c-safeguarding-for-the-designated-lead-senior-practitioners-tickets-1995456652564

Gall aelodau Plant yng Nghymru gael gostyngiad o 10%.
📧E-bostiwch [email protected] am ragor o wybodaeth.
-
Our online bilingual Group C training, delivered in Welsh and English, is ideal for professionals working in either language who want to strengthen their safeguarding knowledge and leadership skills. Explore legislation, child protection processes, information sharing, record keeping and more, all designed to help you keep children safe.

Book your place today: https://www.eventbrite.co.uk/e/group-c-safeguarding-for-the-designated-lead-senior-practitioners-tickets-1995456652564

Members of Children in Wales can receive 10% off.
📧Email [email protected] for more information.

This  , we're highlighting the importance of ensuring every baby, child and young person in Wales can access the support...
10/10/2026

This , we're highlighting the importance of ensuring every baby, child and young person in Wales can access the support they need, when they need it.

You may have seen that the Children’s Mental Health Network recently published its new Calls for Action, bringing together the voices of organisations across Wales to call for a more coordinated, sustainable and child-centred approach to mental health support.

From early intervention and prevention to better support for vulnerable groups, the report sets out practical actions that can help create lasting change and improve outcomes for babies, children, young people and their families. Mental health matters at every stage of life.

Read the full report: https://isu.pub/3t6rdB6
-
Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni, rydym yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod pob babi, plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, pryd bynnag y bydd ei hangen arnynt.

Efallai eich bod wedi gweld bod y Rhwydwaith Iechyd Meddwl Plant wedi cyhoeddi ei Alwadau i Weithredu newydd yn ddiweddar, gan ddod â lleisiau sefydliadau ledled Cymru ynghyd i alw am ddull cymorth iechyd meddwl sy’n fwy cydlynol, yn gynaliadwy ac yn canolbwyntio ar y plentyn.

O ymyrraeth gynnar ac atal i well cefnogaeth i grwpiau agored i niwed, mae'r adroddiad yn nodi camau ymarferol a all helpu i greu newid parhaol a gwella canlyniadau i fabanod, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae iechyd meddwl yn bwysig ym mhob cam o fywyd.

Darllenwch yr adroddiad llawn: https://isu.pub/tKqDm6t

Free Webinar: DBS Changes from September 2026 - What’s new, who’s affected and what to doIf you work in HR, safer recrui...
08/10/2026

Free Webinar: DBS Changes from September 2026 - What’s new, who’s affected and what to do

If you work in HR, safer recruitment, safeguarding, workforce management or DBS decision-making, this FREE webinar is designed for you.

Join our expert-led session to understand the key DBS changes introduced on 1 September 2026, who they affect, and what they mean for organisations working with children, young people and adults at risk.

Find out more here: https://www.eventbrite.co.uk/e/dbs-changes-autumn-2026-whats-new-whos-affected-and-what-to-do-tickets-2002723442729?aff=oddtdtcreator
-
Gweminar Am Ddim: Newidiadau DBS o fis Medi 2026 - Beth sy'n newydd, pwy sy'n cael ei effeithio a beth i'w wneud

Os ydych chi'n gweithio ym meysydd Adnoddau Dynol, recriwtio mwy diogel, diogelu, rheoli'r gweithlu neu wneud penderfyniadau DBS, mae'r weminar AM DDIM hon wedi'i llunio ar eich cyfer chi.

Ymunwch â'n sesiwn dan arweiniad arbenigwyr i ddeall y newidiadau allweddol i DBS a chafodd eu cyflwyno ar 1 Medi 2026, pwy maen nhw'n effeithio arnynt, a beth maen nhw'n ei olygu i sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl.

Dysgwch fwy yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/dbs-changes-autumn-2026-whats-new-whos-affected-and-what-to-do-tickets-2002723442729?aff=oddtdtcreator

School uniform costs continue to be a challenge for many families. In 2024, 73% of children bought at least part of thei...
07/10/2026

School uniform costs continue to be a challenge for many families. In 2024, 73% of children bought at least part of their uniform from a specialist retailer, while parents described difficult choices between uniforms, school supplies and other essentials.

Has the situation improved, stayed the same, or become more difficult?

Complete the 2026 Child and Family Poverty Surveys and help influence future support for families: https://www.childreninwales.org.uk/news/child-and-family-poverty-surveys-are-now-open/
-
Mae costau gwisg ysgol yn parhau i fod yn her i lawer o deuluoedd. Yn 2024, prynodd 73% o blant o leiaf ran o'u gwisg ysgol gan fanwerthwr arbenigol, ac fe ddisgrifiodd rhieni ddewisiadau anodd rhwng gwisgoedd ysgol, cyflenwadau ysgol a hanfodion eraill.

A yw'r sefyllfa wedi gwella, wedi aros yr un fath, neu wedi dod yn anoddach?

Cwblhewch Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd 2026 a helpwch i ddylanwadu ar gefnogaeth i deuluoedd yn y dyfodol: https://www.childreninwales.org.uk/cy/newyddion/Mae-Arolygon-Tlodi-Plant-a-Theuluoedd-bellach-ar-agor/

Address

Spark/Sparc, Maindy Road
Cardiff
CF244HQ

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm

Telephone

+442920342434

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Children in Wales - Plant yng Nghymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share