14/10/2026
Good food, great company and community spirit!
On Wednesday 30 September, we came together at Llandaff North Community Centre for a Free Community Meal, funded by Good Food Cardiff as part of their Autumn Festival 2026.
It was a wonderful opportunity for members of our walking groups, volunteers and community members to share delicious food, enjoy good company and make new connections.
Everyone got involved, from preparing food and setting tables to clearing up afterwards.
A special mention goes to lead volunteer Deepa, who designed and prepared with other volunteers a really tastey and healthy 3-course meal. Her delicious Indian-style cooking received plenty of praise, and we are incredibly grateful for everything she contributed!
One community member shared:
"It made me feel included as part of a team... It has made me feel better in myself for being around other people."
It was lovely to see friendships growing, confidence building and people making plans to meet again at future activities.
A huge thank you to Good Food Cardiff for funding the event, Llandaff North Community Centre for hosting us, Sam for organising and facilitating, and all our fantastic volunteers and community members who made the day possible.
A lovely reminder of how good food can bring people together and strengthen community connections!
---
Bwyd blasus, cwmni gwych ac ysbryd cymunedol!
Ddydd Mercher 30 Medi, daethom ynghyd yng Nghanolfan Gymunedol Ystum Taf ar gyfer Pryd o Fwyd Cymunedol am Ddim, a ariannwyd gan Good Food Cardiff fel rhan o'u Gŵyl yr Hydref 2026.
Roedd yn gyfle gwych i aelodau ein grwpiau cerdded, gwirfoddolwyr ac aelodau'r gymuned fwynhau bwyd blasus, treulio amser mewn cwmni da a meithrin cysylltiadau newydd.
Cymerodd pawb ran, o baratoi'r bwyd a gosod y byrddau i helpu i glirio ar ôl y pryd.
Mae diolch arbennig yn ddyledus i Deepa, ein prif wirfoddolwraig, a gynlluniodd ac a baratôdd bryd tri chwrs blasus ac iach gyda chymorth gwirfoddolwyr eraill. Cafodd ei choginio blasus yn null India ganmoliaeth fawr, ac rydym yn hynod ddiolchgar am ei holl gyfraniad!
Dywedodd un aelod o'r gymuned:
"Roedd yn gwneud i mi deimlo fy mod yn cael fy nghynnwys fel rhan o dîm... Mae bod yng nghwmni pobl eraill wedi gwneud i mi deimlo'n well amdanaf fy hun."
Roedd yn hyfryd gweld cyfeillgarwch yn datblygu, hyder yn cynyddu a phobl yn gwneud cynlluniau i gwrdd eto mewn gweithgareddau yn y dyfodol.
Diolch o galon i Good Food Cardiff am ariannu'r digwyddiad, Canolfan Gymunedol Ystum Taf am ein croesawu, Sam am drefnu a hwyluso'r digwyddiad, ac i'n holl wirfoddolwyr ac aelodau gwych o'r gymuned a helpodd i wneud y diwrnod yn bosibl.
Atgof hyfryd o sut y gall bwyd da ddod â phobl ynghyd a chryfhau cysylltiadau cymunedol!