Eisteddfod Gadeiriol Trefeglwys Chair Eisteddfod

Eisteddfod Gadeiriol Trefeglwys Chair Eisteddfod Eisteddfod flynyddol | An annual Eisteddfod

EISTEDDFOD TREFEGLWYS 2025The 108th Eisteddfod was held on Saturday, 4th of October. The adjudicators this year were:Mus...
19/10/2025

EISTEDDFOD TREFEGLWYS 2025

The 108th Eisteddfod was held on Saturday, 4th of October. The adjudicators this year were:

Music - Elen Rhys, Cardiff
Recitation - Gareth Wyn Thomas, Ammanford
Dancing - Ruby Grigg, Newtown
Literature - Arwyn Davies, Groe, Dolanog
Arts and Crafts / Needlework – Pippa Sillitoe, Trefeglwys,
Handwriting – Eryl Douglas Jones, Trefeglwys

The children’s competitions during the afternoon were very well supported, especially by Ysgol Dyffryn Trannon, the local school, with up to twelve competing in several competitions.

The cup for the most promising performer in the afternoon competitions went to Mabon Prys Davies, Llidiart-y-waun, and Mari Wyn Edwards, Y Fan, won the Catrin Alwen shield for the best solo performance. Cadi Davies won the cup in the off-stage competition for her depiction of Countries of the World. Quite an achievement for a pupil in the reception class. Heledd Besent of Aberaeron won the Gwynfryn Evans Trophy for the best musical performance durig the evening.

This year’s president was Professor Neil Evans, the head of Veterinary Research at the University of Glasgow. He spoke about his upbringing in the area at Geseilfa, Llawryglyn, and the importance of the Eisteddfod for nurturing our young people. He was kept busy presenting the cups and awards during the day.

The chair was offered for a poem entitled ‘Returning’ and was won this year by Eifion Daniels from Blaenffos, near Crymyrch. His poem spoke of memories of his childhood home, a Carmarthenshire farm, and his description of taking his grandchildren there.

The accompanists were Fflur Davies, Llidiart-y-waun and Siân Davies, Bridgend with Bethan Lloyd Owen, Anwen Orrells and Gareth Jenkins conducting the proceedings.

EISTEDDFOD GADEIRIOL TREFEGLWYS 2025(English report in a separate post) Cynhaliwyd yr 108fed Eisteddfod ddydd Sadwrn, 4 ...
19/10/2025

EISTEDDFOD GADEIRIOL TREFEGLWYS 2025
(English report in a separate post)

Cynhaliwyd yr 108fed Eisteddfod ddydd Sadwrn, 4 Hydref, yn y Neuadd Goffa. Y beirniaid eleni oedd:
Cerdd – Gareth Wyn Thomas, Rhydaman
Llefaru – Elen Rhys, Caerdydd
Llên – Arwyn Groe, Dolanog
Dawnsio - Ruby Grigg, y Drenewydd

Bu’r beirniaid yn brysur iawn trwy’r dydd, yn arbennig yng nghyfarfod y prynhawn, gyda hyd at ddeuddeg o blant yn cystadlu mewn rhai cystadlaethau. Cafwyd cefnogaeth dda iawn o’r ysgol leol, Ysgol Dyffryn Trannon.

Enillwyd y cwpan am y cystadleuydd mwyaf addawol yng nghystadlaethau’r prynhawn gan Mabon Prys Davies o Lidiart-y-waun, a thlws Catrin Alwen am yr unawdydd gorau yng nghyfarfod y prynhawn gan Mari Wyn Edwards o’r Fan. Mae’n siŵr y bydd dyfodol disglair i’r ddau ohonyn nhw. Cadi Davies enillodd y cwpan yn yr adran grefftau am greu llun oedd yn portreadu Gwledydd y Byd.

Bethan Lloyd Owen, Anwen Orrells a Gareth Jenkins fu’n cadw trefn ar gystadlaethau’r llwyfan, gyda Fflur Davies, Llidiart-y-waun, yn cyfeilio yng nghyfarfod y prynhawn a Sian Davies, Penybont-ar-Ogwr yng nghyfarfod yr hwyr. Enillydd Tlws Coffa Gwynfryn Evans eleni oedd Heledd Besent o Aberaeron am ei pherfformiad ar yr Unawd Gymraeg.

Roedd y gwaith llaw i’w weld yng nghefn y neuadd eleni a’r beirniaid oedd:
Crefftau a Gwniadwaith – Pippa Sillitoe, Trefeglwys
Llawysgrifen - Eryl Douglas Jones, Trefeglwys

Cynigiwyd Tlws y Gadair eleni am gerdd ar y testun ‘Dychwelyd’. Daeth pedair ar ddeg o gerddi i fewn i’r gystadleuaeth, gydag Eifion Daniels, Blaenffos yn dod i’r brig. Roedd y gerdd yn sôn am ei atgofion wrth fynd yn ôl at fferm ei fagwraeth, gan fynd â’i wyrion gydag ef. Y beirniad, Arwyn Groe, arweiniodd seremoni’r cadeirio, ac ar ôl y feirniadaeth cyrchwyd y bardd buddugol i’r llwyfan gan Susan Williams a Joyce Smithies. Ceidwad y Cledd oedd Iwan Owen, gydag Owen Lloyd Jones yn canu Cân y Cadeirio a Bethan Lloyd Owen a Margaret Jones yn cyfarch y bardd.

Llywydd yr Eisteddfod eleni oedd yr Athro Neil Evans o Brifysgol Glasgow. Yn enedigol o Geseilfa, Llawr-y-glyn, bu’n sôn am ei fagwraeth a’i atgofion o fynychu’r Eisteddfod, ac am pan ddaeth â’i fab flynyddoedd yn ôl i gystadlu ar yr unawd offerynnol ar y ‘bagpipes’! Dymunodd bob lwc i'r Eisteddfod yn y dyfodol.

Ar ddiwedd y noson gwnaed y diolchiadau gan gadeirydd y Pwyllgor, Iwan Owen. Yn sicr cafwyd diwrnod i’w gofio.

08/09/2025

Address

Caersws
SY175PH

Website

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Eisteddfod Gadeiriol Trefeglwys Chair Eisteddfod posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share