Cyfrinfa Dewi Sant Lodge 9067

Directions Website

Cyfrinfa Dewi Sant Lodge 9067 Contact information, map and directions, contact form, opening hours, services, ratings, photos, videos and announcements from Cyfrinfa Dewi Sant Lodge 9067, Nonprofit Organization, Masonic Hall, Coychurch Road, Brackla, Bridgend (Pen-y-bont ar Ogwr).

Cyfrinfa Dewi Sant:   Cyfle i Gyfrani i Ysgol Gyfun Gymraeg GlantafBydd carfan rygbi uwch, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf y...
16/06/2026

Cyfrinfa Dewi Sant: Cyfle i Gyfrani i Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Bydd carfan rygbi uwch, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ymweld â De Affrica yr haf hwn i chwarae yn erbyn tair o ysgolion blaenllaw'r wlad. Mae'r staff a'r rhieni wedi bod yn brysur yn codi a***n i alluogi'r garfan gyfan i wneud y daith. Gwahoddwyd Cyfrinfa Dewi Sant i gyfrannu at y gronfa gymorth ac o ganlyniad i gasgliad ymhlith ein haelodau codwyd swm o £380. Cafodd John Phillips, ein Hybarch Feistr y pleser o gyflwyno'r siec i ddau o aelodau'r garfan, sef Gruff Dafydd a Noa Attwell, a dderbyniodd ar rhan yr ysgol. Yr oedd ein Trysorydd, Arwyn Reynolds, yno hefyd i gefnogi John Phillips. Yr oedd Llywarch ap Myrddin, Pennaeth Rygbi yn yr ysgol, yn ddiolchgar iawn am gyfraniad y Gyfrinfa.

Dewi Sant Lodge: An Opportunity to Contribute to Glantaf School
Glantaf School’s senior rugby squad will visit South Africa this summer to play against three of the country's leading schools. The staff and parents have been busy raising money to enable the whole squad to make the trip. The Dewi Sant Lodge was invited to contribute to the support fund and as a result of a collection among its members a sum of £380 was raised. John Phillips, the Worshipful Master of the Dewi Sant Lodge, had the pleasure of presenting the cheque to two members of the squad, namely Gruff Dafydd and Noa Attwell, who accepted on behalf of the school. The Lodge Treasurer, Arwyn Reynolds, was also there to support John Phillips. Llywarch ap Myrddin, Head of Rugby at the school, was very grateful and thanked the Lodge for its contribution.

Ein Hybarch Feistr John Phillips yn magu Tedi, wrth iddo gyflwyno siec o rhodd Cyfrinfa Dewi Sant i'r H Fd Peter William...
28/04/2026

Ein Hybarch Feistr John Phillips yn magu Tedi, wrth iddo gyflwyno siec o rhodd Cyfrinfa Dewi Sant i'r H Fd Peter Williams, yn derbyn ar ran yr achos da o Apêl TLC.

Mae'r fenter Teddies for Loving Care yn darparu eirth cwtsh unigryw i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys i staff meddygol eu rhoi yn ôl eu disgresiwn i blant ifanc. Defnyddir yr eirth i dawelu plant, eu gwobrwyo am fod yn ddewr neu i ddangos gweithdrefnau. Yn aml, mae'r eirth yn tynnu sylw plant fel y gall nyrsys a meddygon wneud eu gwaith yn gyflym ac yn effeithlon. Mae'r tedi TLC wedi dod yn offeryn amhrisiadwy i weithwyr meddygol proffesiynol ac yn gysur gwirioneddol i blant.

Photographs of our Worshipful Master John nursing a Teddy, as he presents a cheque from Cyfrinfa Dewi Sant to W Bro Peter Williams, receiving on behalf of the worthy cause, the TLC Appeal.

The Teddies for Loving Care initiative provides unique cuddly bears to Accident & Emergency departments for medical staff to give at their discretion to young children. The bears are used to calm children down, reward them for being brave or to demonstrate procedures. Often the bears distract children so nurses and doctors can get their jobs done quickly and efficiently. The TLC teddy has become an invaluable tool for medical professionals and a real comfort for children.

14/04/2026

Cyflwyniad byr i Saeryddiaeth Rydd

Chwilio am gyfeillgarwch? Ymunwch â'r daith.
Dychmygwch rywle lle mae cyfeillgarwch, yn fwy fel ffordd o fyw yn hytrach na dim ond gair.
Lle mae sgyrsiau'n sbarduno syniadau, mae chwerthin yn sicr, a phob cyfarfod yn eich gadael chi'n teimlo eich bod wedi eich ysprydoli.
Dyna yw Saeryddiaeth Rydd.

Dydyn ni ddim yn glwb cyfrinachol. Rydyn ni'n glwb cymdeithasol, dynion o bob cefndir, yn mwynhau nosweithiau allan, ac yn gwneud ffrindiau newydd.
Lle mae dynion o bob cefndir yn dod at ei gilydd fel cyfartalion. Lle mae cyfeillgarwch yn cael ei adeiladu, lle mae chwerthin yn cael ei rannu, a lle mae gan bawb y cyfle i ddysgu, tyfu, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymdeithas.

Nid oes angen i chi fod o unrhyw gefndir, proffesiwn na ffydd benodol. Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw chwilfrydedd a meddwl agored.

Dewch i weld drosoch eich hun beth yw'r cyfan amdano. Efallai y byddwch yn cael eich synnu.

A oeddech yn gwybod fod yna gyfrinfa ym Mhenybont ar Ogwr, sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg?

Am ragor o wybodaeth: dewisant9067.swmason.com
Neu danfonwch eich cwestiynau ar ebost i ysgrifennydd Cyfrinfa Dewi Sant : [email protected]

Cyflwyniad siec Cyfrinfa Dewi Sant Lodge 9067 gan Hybarch Feistr John Lloyd Phillips i Glwb SLS Bae Rest. Worshipful Mas...
05/04/2026

Cyflwyniad siec Cyfrinfa Dewi Sant Lodge 9067 gan Hybarch Feistr John Lloyd Phillips i Glwb SLS Bae Rest.

Worshipful Master John Lloyd Phillips presenting a donation to the Rest Bay Surf Life Saving Club on behalf of Cyfrinfa Dewi Sant Lodge 9067.

25/03/2026

Mae Cyfrinfa Dewi Sant yn Gyfrinfa gyfeillgar iawn. Fe’i sefydlwyd gan Seiri Rhyddion sy’n caru pob peth Cymreig a’r iaith Gymraeg yn neilltuol.

Nôd y gyfrinfa yw rhoi cyfle i aelodau i arfer Saeryddiaeth yn yr iaith Gymraeg. Mae’r gyfrinfa wedi cael y fraint o dderbyn caniatâd gan UGLE ym mis Ebrill 2019 i gynnal seremonïau yn yr iaith Gymraeg. Hyd yn hyn, Dewi Sant 9067 yw’r unig gyfrinfa yng Nghyfansoddiad Lloegr sy’n gallu cynnal seremonïau yn Gymraeg. Fodd bynnag, mae goddefeb wedi’i rhoi i dair cyfrinfa gyfagos i ganiatâu iddynt wneud yn yr un modd. Cadarnhawyd y datblygiad hwn yn ein Cyfarfod Sefydlu Blynyddol ym mis Ebrill 2019.

Deuir â’n cyfarfodydd i ben gyda chinio ffurfiol (a gyfeirir ato fel yr “Ail Gwrdd”) ac fe’i cyfoethogir gyda’r wefr o ganu Cymraeg.

Mae croeso cynnes yn disgwyl unrhyw un a hoffai wybod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud neu o bosibl, ymuno â ni.

Os hoffech chi gysylltu â ni am unrhyw reswm, a wnewch chi ddefnyddio’r ffurflen gysylltu ar y dudalen Cysylltwch â ni – buasem wrth ein bodd cael clywed oddi wrthych.

Dewi Sant Lodge is a very friendly and welcoming freemasons’ lodge. It was founded by masons with a love of all things Welsh and in particular the Welsh language.

The aim of the lodge is to provide an opportunity for members to practise freemasonry in the Welsh language. The Lodge has had the privilege of being granted permission by the UGLE in April 2019 to conduct ceremonies in the Welsh language. To date, Dewi Sant 9067 is the only masonic lodge in the English Constitution to be able to carry out ceremonies in Welsh. However, it is intended that three other Lodges from neighbouring Provinces have been granted dispensation to do the same. This development was confirmed at our Annual Installation Meeting in April 2019.

Our meetings are always concluded with a formal dinner, which is enhanced by the joy of participating in Welsh choral singing.

A warm welcome awaits anyone who would like to know more about what we do or, hopefully to join us.

If you have any questions, please use the form on the Contact Us page – we’d love to hear from you, and we promise a timely response.

25/03/2026

Address

Masonic Hall, Coychurch Road, Brackla
Bridgend
CF312AP

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cyfrinfa Dewi Sant Lodge 9067 posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share